Gwobrwyo rhagoriaeth academaidd
Hoffem longyfarch dau fyfyriwr sydd yn eu hail flwyddyn ar dderbyn gwobrau'n ddiweddar am safon eithriadol eu gwaith yn ystod blwyddyn gyntaf eu gradd. Rhoddwyd Gwobr Goffa Syr Henry Jones i Mr George Gilham am y gwaith ardderchog a gyflawnodd mewn modiwlau athroniaeth y llynedd, a rhoddwyd Gwobr Dr R. T. Robinson i Miss Tyler Mazurek am y 'gwaith mwyaf canmoladwy' a gynhyrchwyd gan fyfyriwr yn ystod blwyddyn gyntaf eu gradd. Llongyfarchiadau i'r ddau ohonynt!
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2017