Myfyrwraig yn ennill Ysgoloriaeth PhD Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Bydd Emma Buchanan yn gweithio dan arolygaeth Dr Lucy Huskinson ar brosiect a fydd yn ailgloriannu theori gender drwy ddefnyddio syniadaeth Jung a chan astudio'r rhaglen deledu, The Walking Dead.
Gwobrwywyd Emma ag ysgoloriaeth sy'n gyfwerth â thalu dim costau astudio am ei rhagoriaeth academaidd ac am natur ryngddisgyblaethol ei maes ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2017