Sgwrs bwysig am yr Holocost
Nos Iau, 1 Chwefror 2018, cyflwynodd Dr David Tollerton o Brifysgol Exeter drafodaeth am ‘Gof yr Holocost a thirwedd wleidyddol grefyddol-seciwlar gyfoes Prydain’ fel rhan o gyfres seminarau Ysgol Hanes ac Archeoleg mewn cydweithrediad ag Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.
Roedd yn braf iawn cael croesawu David i draddodi sgwrs hynod ddiddorol ac yntau’n gyn-aelod o staff darlithio’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd. Braf hefyd oedd cael bod ymysg y cyntaf i glywed am ei ymchwil cyfredol. Â Diwrnod Rhyngwladol yr Holocost newydd ei gynnal, roedd testun y sgwrs yn amserol, gan i David drafod y duedd gynyddol sydd wedi bod yn y blynyddoedd diweddar ym Mhrydain i gynnal digwyddiadau i goffáu’r Holocost. Awgrymwyd rhai rhesymau posibl am hyn gan gyfeirio’n benodol at gyd-destun gwleidyddol Prydain a chysyniad ‘sancteiddrwydd’. Trafodwyd hefyd y cynlluniau ar gyfer codi cofeb wrth ymyl y Senedd yn Llundain i gofio am un o drychinebau mwyaf yr ugeinfed ganrif, a’r ymateb cymysg sydd wedi bod hyd yn hyn i’r prosiect arfaethedig.
Esgorodd y cyflwyniad ar gryn ymateb gan y gynulleidfa a chafwyd trafodaeth fywiog yn dilyn y sesiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2018