Newyddion: Mai 2015
Hannah yn Ennill Medal Aur yn Awstria
Enillwyd medal aur yn 12fed Grand Prix Codi Pwysau Ewropeaidd Rhyngwladol Vienna, Awstria gan fyfyriwr Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015
Camau i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru
Gallai canfyddiadau astudiaeth fanwl newydd ar ganser ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP), a ddatgelwyd heddiw yng nghyfnodolyn y BMJ Open, yw'r cyntaf i ddangos bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddygon teulu i gynnal archwiliadau'n ymwneud â chanser - naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfeirio'r claf at ofal eilaidd - a goroesi canser. Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd fod meddygon teulu ym Mhrydain ac yng Nghymru, mewn arolwg ar lein yn defnyddio enghreifftiau o achosion clinigol, yn llai tebygol o gyfeirio neu archwilio cleifion â symptomau canser posibl pan fyddant yn dod atynt gyntaf, o'u cymharu â'r gwledydd eraill lle cynhaliwyd yr astudiaeth: Awstralia, Canada, Denmarc, Norwy a Sweden.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015
Cwrw, Bara a Gwell Iechyd
Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe 6.6.15 Mae'n debyg bod cysylltiad rhwng cwrw, bara a gwell iechyd - a burum yw'r cysylltiad hwnnw. Bydd Jessica Fletcher, gwyddonydd o Brifysgol Bangor, yn egluro'r cysylltiad i'r cyhoedd mewn digwyddiad 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 6 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015
Paralysed patient makes natural movements using robotics and the power of thought
Dyma erthygl yn Saesneg gan Ken Valyar, darlithydd mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015
Extreme athletes gain control through fear, and sometimes pay the price
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Athro Emeritiws Lew Hardy a Matthew Barlow, Ymchwilydd ôl-radd mewn Seicoleg Chwaraeon yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015
Iechyd da i'r gwyliau
Mae gofyn i bobl beth maent yn ei yfed ar wyliau ac achlysuron arbennig eraill yn dangos bod oddeutu 12 miliwn yn fwy o boteli o win yr wythnos yn cael eu hyfed yn Lloegr nag y tybiwyd yn flaenorol. Nid yw'r arolygon blaenorol ar faint o alcohol a yfir wedi rhoi ystyriaeth i'r holl alcohol a werthir. Ymddengys bod ymchwil a ariannwyd gan Alcohol Research UK ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored BMC Medicine, wedi cael hyd i'r 'unedau coll' hyn. Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, " England's missing booze: 12 million more bottles drunk per week than previously thought " wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Mark Bellis, Prifysgol Bangor a Christine Griffith, University of Bath. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015
Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015
Cymharu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Canada a Chymru
Mae dau o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor wedi teithio i Ganada ar gyfer menter gydweithredol rhwng y Coleg, Prifysgol Bangor a Consortium national de formation en santé, Canada er mwyn ehangu gwybodaeth, datblygu partneriaeth a chodi proffil y problemau sy’n bodoli wrth ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Sharon Pierce a Ruth Wyn Williams, sy’n darlithio dan nawdd y Coleg yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor wedi derbyn nawdd trwy Gynllun Grantiau Bach y Coleg i fynychu seminar yn Ottawa rhwng 21-22 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015
A wnewch chi bleidleisio dros ‘fwydydd Hyll’?
Wnaethoch chi brynu ‘bwydydd hyll’ o’r Siop dros dro Bwydydd Hyll ym Mangor yn ddiweddar? Ydych chi’n meddwl ei fod yn syniad busnes gwych?
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015
Cynrychiolaeth dda o fyfyrwyr o Gymru yng Ngwasanaeth Coffa Florence Nightingale
Yn ddiweddar cymerodd chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor ran mewn gwasanaeth seremonïol yn Abaty Westminster.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015
Bangor yn helpu i drechu'r bwlis
Ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymyrraeth ar sail Tystiolaeth (CEBEI), sy'n rhan o'r Ysgol Seicoleg, oedd y rhai cyntaf ym Mhrydain i werthuso effeithiolrwydd rhaglen gwrth-fwlio KiVa a grëwyd yn y Ffindir.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015
Ysgol Glinigol Gogledd Cymru yn derbyn dwy wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu
Mae dwy diwtor o Ysgol Glinigol Gogledd Cymru, Einir Mowll a Catrin Roberts wedi ennill Gwobrau Rhagoriaeth mewn Addysgu o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015
Academydd Prifysgol Bangor yn siarad mewn gŵyl athroniaeth a cherddoriaeth mwya'r byd
Bydd David Healy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor yn siarad yn HowTheLightGetsIn, gŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth fwyaf y byd ym mis Mai eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn Arddangos eu Cyflogadwyedd
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2015