Newyddion: Gorffennaf 2015
12 o raddedigion cyntaf Gwyddorau Meddygol o Brifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2015 bydd deuddeg o israddedigion y rhai cyntaf i raddio o’r cwrs arloesol BMedSci Gwyddorau Meddygol o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol , adran academaidd ieuengaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Cymrodoriaeth Ddysgu Dr Caroline Bowman
Mae Dr Caroline Bowman newydd dderbyn Cymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol Bangor i gydnabod ei rhagoriaeth mewn dysgu a'i chyfraniad nodedig i gefnogi myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Dyfodol disglair ar ôl plentyndod anodd
Mae myfyrwraig a lwyddodd i oresgyn caledi mawr yn ystod ei phlentyndod wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd. Daw Louise Brinton sy’n 32 oed o Lerpwl yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel Seicolegydd Clinigol er mwyn helpu pobl eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Gofalwr penderfynol yn graddio am yr ail dro gyda balchder
Mae gofalu am berthynas mewn oed wrth weithio'n rhan-amser yn dipyn o dasg, ond mae gwneud hyn wrth astudio am radd yr un pryd yn go arbennig. Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi llwyddo, er gwaethaf pob disgwyl, i weithio, gofalu ac astudio, ac mae'n graddio'r wythnos hon. Mae Emyr Williams, 50, o ogledd Cymru, wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BN (Anrh) mewn Nyrsio Iechyd Meddwl , ac mae eisoes wedi cael y swydd yr oedd arno'i heisiau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Yr holl fyfyrwyr radiograffeg sy’n graddio eleni wedi cael swyddi
Mae myfyrwyr Radiograffeg blwyddyn olaf sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon i gyd wedi cael swyddi mewn byrddau iechyd amrywiol yng Nghymru a Lloegr
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Prifysgol Bangor yn gwneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd yn yr iaith Gymraeg
Mae gwaith arloesol i ymestyn a gwella'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gyda Phrifysgol Bangor yn ennill gwobrau Gwireddu'r Geiriau mewn dau gategori. Cyflwynwyd y gwobrau yng Nghynhadledd a Gwobrau'r Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae'r Gwobrau yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig wrth ddelio â chleifion, eu teuluoedd a'r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2015
Cymru i lansio gwasanaeth arloesol ar gyfer ymchwil i ddementia
Heddiw (2/7/15), lensir gwasanaeth cenedlaethol, ar-lein ac ar y ffôn, sy’n helpu pobl i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil dementia. Mae J oin Dementia Research yn addo cyflymu’r broses o ymchwilio i ddementia yng Nghymru, gan roi cyfle i bobl â dementia a hebddo gofrestru eu diddordeb mewn astudiaethau, a helpu ymchwilwyr i ganfod y cyfranogwyr iawn ar yr adeg iawn. Bydd Mark Drakeford, Gweinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi’r cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru (CDGD/DSDC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015
Arddangos ymchwil arloesol i ofal iechyd
Heddiw (Iau 2 Gorffennaf), ym Mhrifysgol Bangor, rhoddwyd sylw i ymchwil newydd o bwys sydd i wella gofal iechyd yng Nghymru a’r DU. Oherwydd y posibiliadau iddynt effeithio ar wasanaethau i gleifion, tri phroject penodol a gafodd flaenoriaeth, wrth i Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, ymweld â’r Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015
Myfyriwr blwyddyn olaf mewn gwyddorau biofeddygol yn gwneud darganfyddiad pwysig ym maes canser
Mater sydd wedi peri penbleth ym maes bioleg canser ers cryn amser yw sut y gall y rheolydd Cdc2, sy'n rheoli twf celloedd, fod yn weithredol ac anweithredol yr un pryd. Mae celloedd dynol yn rhoi'r gorau i ymrannu pan ddigwydd difrod genetig drwy atal Cdc2 rhag gweithredu, ond mae arnynt angen Cdc2 gweithredol hefyd i gael gwared ar ddiffygion genomaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015
How cancer abducts your immune cells – and what we can do about it
Dyma erthygl yn Saesneg gan Thomas Caspari, darllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2015
Arbenigwyr blaenllaw yn rhannu’r ymchwil ddiweddaraf i Ymwybyddiaeth Ofalgar
Yr wythnos hon, bydd ymchwilwyr penigamp i ymwybyddiaeth ofalgar yn dod ynghyd i gyflwyno ac ystyried ymchwil arloesol yn y maes newydd hwn. Wedi’i drefnu gan arbenigwyr yn Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar o fewn Prifysgol Bangor, bydd y digwyddiad yn trafod sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddod â buddion i unigolion ac i gymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2015