Newyddion: Awst 2016
MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn tynnu ar arbenigedd academaidd a chlinigol
Mae datblygu MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn y flwyddyn academaidd hon yn cynnig cyfle cyffrous i staff clinigol sy'n ymwneud â gofal dementia, yn y gymuned ac mewn ysbytai ar draws Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Fe'i datblygwyd drwy waith partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, BCUHB a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r MSc mewn Astudiaethau Dementia yn dechrau o safbwynt pobl sy'n byw gyda dementia ac yn archwilio meysydd arfer clinigol ac ymchwil o’r safbwynt hwn trwy gydol y cwrs, gan graffu ar faterion pwysig sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia a'r dulliau gorau o ddarparu gofal rhagorol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016
Lleisiau pêl-droedwyr: gamblo a dibyniaeth mewn pêl-droed
Yn ddiweddar mae adroddiadau ar y cyfryngau wedi rhoi sylw i broblemau gamblo ymysg lleiafrif o bêl-droedwyr proffesiynol. Mae ymchwil newydd a gohoeddir yn Addiction Research wedi dangos sut y gall rhai chwaraewyr fynd i drafferthion gyda'u gamblo a beth y gellir ei wneud i'w helpu i chwilio am driniaeth. Cafodd pêl-droedwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol, sydd wedi wynebu problemau gamblo, eu cyfweld fel rhan o ymchwil gan brifysgolion Bangor, Llundain a Rhydychen. Clywodd yr ymchwilwyr yn uniongyrchol gan y chwaraewyr beth oedd eu profiadau o gamblo a sut a pham y daeth gamblo'n broblem iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016
Dr Coetzer ar restr fer Llyfr y Flwyddyn BPS 2016
Mae gan Dr Coetzer swydd ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae ei lyfr ”Working with Brain Injury” wedi ei roi ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) am 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2016
How Pokemon Go turned couch potatoes into fitness fanatics without them even realising it
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John A Parkinson o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno. Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth. Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb. Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Dysgu byw yn well gyda dementia trwy dechnoleg: apiau newydd ar brawf heddiw yn cysylltu pobl a effeithir gan ddementia ag ymchwilwyr
Mae project a gefnogir gan Brifysgol Bangor yn un o ddau i'w fabwysiadu mewn menter newydd i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016