Newyddion: Hydref 2016
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau. Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Dunn-a gamp! Emily yn llwyddo yn Awstralia
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor bellach yn rhif 24 yn y byd yn dilyn ei llwyddiant yn ras yr UCI Gran Fondo World Championships yn Awstralia y mis diwethaf – a hithau ond yn beicio ers 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Child migrants taken to Britain: now they need support and psychological care
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson Sydd yn astudio ar gyfer Doethuriaeth gyda'r Ysgol Seicoleg a Sefydliad seicoleg Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016
Cwmnïau fferyllol yn gwneud elw ar afiechydon prin
Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor yn dangos fod cwmnïau fferyllol yn ymelwa ar gymhellion a fwriadwyd i ddatblygu rhagor o driniaethau ar gyfer afiechydon prin er mwyn rhoi hwb i'w helw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2016
Astudiaeth newydd i rhoi’r dechrau gorau i blant ag awtistiaeth
Mae astudiaeth arloesol wedi ei lansio er mwyn deall sut y gellir cefnogi teuluoedd a effeithir gan awtistiaeth yn syth wedi iddynt dderbyn diagnosis. Bydd y treial, a gyllidir gan elusen ymchwil awtistiaeth, Autistica , yn ceisio canfod os yw cynnig y rhaglen gefnogaeth Blynyddoedd Rhyfeddol (Incredible Years®) i deuluoedd yn fuan wedi deiagnosis eu plentyn â buddiannau hirdymor posib.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016
Rwy'n siŵr na hoffech i'r stori hon fod amdanoch chi: twyllo mewn chwaraeon
Beth sy'n gyrru chwaraewyr a mabolgampwyr proffesiynol i dorri rheolau eu camp gan obeithio na chânt eu dal - ac yn y gobaith y daw â gogoniant iddyn nhw ac i'w tîm? Math o gymeriad yw craidd y mater, yn ôl ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP) Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2016
Arbed miliynau trwy roi'r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod Cymru
Gall buddsoddi mewn rhaglenni sy'n hyrwyddo'r dechrau gorau mewn bywyd i'n babanod a'n plant arwain at arbedion ariannol yng Nghymru yn y tymor byr a'r tymor hir. Dyna yw dadl economegwyr iechyd yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ( CHEME ) ym Mhrifysgol Bangor yn eu hadroddiad "Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc - y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar" a lansiwyd heddiw (13 Hydref 2016).
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016
Ffordd Pawb/ Coherent Connections- project arloesi yn dod i Fangor
Mae myfyrwyr seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn project rhyngwladol arloesol a all ddarparu atebion newydd creadigol i broblemau modern cymhleth a wynebir ym Mangor, yn ogystal â chymunedau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016
Dr Aamer Sandoo yn Ennill Cyllid gan yr Elusen Awyr Las
Dyfarnwyd £68,000 gan yr Elusen Awyr Las yn ddiweddar i Dr Aamer Sandoo (darlithydd mewn ffisioleg gardiofasgwlaidd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymddygiad) i ymchwilio i effeithiau atchwanegiadau dietegol nitrad ar ostwng y risg o glefyd y galon ymysg cleifion ag arthritis rhiwmatoid. Cynhelir y project mewn cydweithrediad â Dr Jonathan Moore a chlinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Gwaith ar broteinau newydd a allai rwystro tiwmorau canseraidd rhag ffurfio
Mae Dr Chris Staples , o Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mangor wedi cyhoeddi erthygl yn “Cell Reports”, cyfnodolyn gwyddonol blaenllaw, ar ôl darganfod ataliwr newydd a allai rwystro tiwmorau. Mae Chris yn gweithio ar nifer o broteinau newydd, sy'n rhwystro difrod i'r DNA rhag cronni mewn celloedd dynol. Gallai hyn o bosib atal tiwmorau rhag ffurfio ac mae gan hyn oblygiadau cyffrous o ran datblygu triniaethau newydd ac effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Myfyriwr PhD yn y Gwyddorau Meddygol yn cael Gwobr Rhagoriaeth Cyrhaeddiad gan Lysgennad Sawdi-Arabia
Roedd Othman Alzahrani, myfyriwr ar drydedd flwyddyn ei PhD mewn Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg, yn un o ddim ond 78 (o blith 15000 o fyfyrwyr Sawdi-Arabia yn y Deyrnas Unedig) i dderbyn Gwobr Rhagoriaeth Cyrhaeddiad gan Deyrnas Sawdi-Arabia. Mewn cydnabyddiaeth o'r anrhydedd hon bydd enw Othman yn cael ei ysgythru ar restr anrhydeddau Llysgenhadaeth Sawdi-Arabia yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Dathlu Ugain Mlynedd o Addysg Nyrsio Iechyd Meddwl Ragorol ym Mhrifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Myfyrwraig o Fangor ar restr fer Gwobr Nyrs y Flwyddyn
Mae Stephanie Morris, myfyrwraig yn yr Y sgol Gwyddorau Gofal Iechyd i'w llongyfarch ar gyrraedd rownd derfynol Gwobr Nyrs dan Hyfforddiant y Flwyddyn, y Coleg Nyrsio Brenhinol .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2016
Creu cymunedau sy’n gefnogol i bobol â dementia yng Ngogledd Cymru
Gwahoddir pobl sy’n byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ymuno mewn rhwydwaith ar draws gogledd Cymru gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i gefnogi pobl â dementia yn y gwasanaeth iechyd, y sector fasnach a’r trydydd sector ynghyd ag arbenigwyr sydd yn ymchwilio i’r cyflwr. Bwriad y rhwydwaith newydd yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad a chyfle i bobl gefnogi ei gilydd. Sefydlwyd y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) yn arwain y ffordd wrth ddarparu ymchwil a chyngor ymarferol am ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd yn byw â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, er mwyn cyfoethogi eu bywydau.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016
Myfyriwr o Fangor yn bwriadu cael gwared â phoen cefn
Wythnos Ymwybyddiaeth Gofal Cefn 3 - 8 Hydref 2016 Mae Ned Hartfiel, myfyriwr a raddiodd gyda PhD mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Bangor, yn gobeithio lleihau poen cefn ac absenoldeb o’r gwaith yn y DU drwy ledaenu ei raglen cefn iach drwy gwmni sydd newydd ei sefydlu ganddo.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2016