Newyddion: Gorffennaf 2017
Want to develop 'grit'? Take up surfing
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot , myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Mae awr o gymdeithasu pob wythnos mewn gofal dementia yn gwella bywydau ac yn arbed arian
Gall cyfuniad o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dim ond awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol wella ansawdd bywyd a lleihau aniddigrwydd pobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac arbed arian hefyd. Cyflwynwyd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 yn ddiweddar. Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Brifysgol Caerwysg, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust, gyda chyfranogiad Prifysgol Bangor, ac ariannwyd yr ymchwil gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Gwirfoddolwr ChildLine yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon, ar ôl manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod
Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig. Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd yn ystod bywyd oedolyn yn gysylltiedig â phlentyndod trawmatig
Gall profi cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol fel plentyn, neu straen arall fel byw mewn cartref a effeithir gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl, arwain at ddefnydd uwch o'r gwasanaethau iechyd fel oedolyn. Mae papur ymchwil yn y Journal of Health Service Research & Policy (doi) yn cynnig, am y tro cyntaf, dystiolaeth ystadegol sy'n dangos beth bynnag fo dosbarth cymdeithasol-economaidd neu ddemograffeg arall, mae pobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a meddygol yn ystod eu bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017
Staff a myfyrwyr yn cael ras Dreigiau i godi arian i Hosbis Dewi Sant!
Cafodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ddiwrnod gwych pan gynhaliwyd yr Her Cychod Draig Hosbis Dewi Sant ar Lyn Padarn yn Llanberis. Roedd 22 o dimau yn cystadlu yn yr her a oedd yn cynnwys dau dîm o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, sef un tîm staff ac un tîm myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017
Partneriaeth newydd ar gyfer myfyrwyr cynghori
Mae Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a'r Gwasanaeth Cychwynnol Cynghori Iechyd Meddwl (PMHCS), sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn ffurfio partneriaeth newydd gyffrous, gan weithio gyda'i gilydd i gefnogi myfyrwyr Cynghori MSc.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2017