Newyddion: Chwefror 2018
Ymchwilwyr Bangor yn cyfrannu at hyrwyddo strategaeth ymchwil dementia
Bu Dr Gill Windle a'r Athro Emeritws Bob Woods, o ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, rhan o BIHMR yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o dasglu Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys clinigwyr ac ymchwilwyr dementia yn y Deyrnas Unedig, noddwyr ymchwil dementia yn y Deyrnas Unedig, pobl â dementia a chynrychiolwyr gofalwyr, a ddatblygodd y 'map ymchwil dementia cyntaf ar gyfer dulliau atal, rhoi diagnosis, ymyrryd a gofal erbyn 2025'.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018
Mae gwybod sut a ble i edrych yn lleihau'r risgiau wrth yrru
Gallai hyfforddi gyrwyr ifanc a newydd i sylwi ar gyrion eu maes golwg leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd. Damweiniau traffig y ffordd yw un o'r prif bethau sy'n achosi marwolaethau yn fyd-eang a gyrwyr newydd, ifanc sydd fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau o'r fath.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018
Martial arts can improve your attention span and alertness long term – new study
Dyma erthygl yn Saesneg gan Ashleigh Johnstone, myfyrwraig PhD o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2018
Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw'n golygu gwario llai ar ofal iechyd
Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd. Canfu arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru , a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, fod gan y cyhoedd yng Nghymru yn gryf o blaid rhagor o reoleiddio ac ymyrryd iechyd cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018
Positive psychology helps brain injury survivors recover with a better outlook on life
In the UK alone, nearly 350,000 people are admitted to hospital each year with an acquired brain injury, caused by anything from road traffic accidents, falls, and assaults, to vascular disorders such as strokes. And this number is growing. This article by was Leanne Rowlands , PhD researcher in Neuropsychology , at the School of Psychology was originally published on The Conversation . Read the original article .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2018
Hen Blant Bach ar restr fer gwobrau rhyngwladol Ffilm a Theledu
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018. Mae Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, wedi’i henwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018
Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia
Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol. Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018
Dyddiadau i’w cofio
Chwefror 6 : (Bangor) Darlith Goffa Anne Marie Jones 2018 yn cael ei rhoi gan Graham Allen, cyn AS a sylfaenydd y Sefydliad Ymyrraeth Cynnar.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018
Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl
Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018
Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl
Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018