Newyddion: Ebrill 2018
Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019. Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2018
Cynhaliwyd y seithfed seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu’r safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018
Can a brain injury change who you are?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne Rowlands sydd yn fyfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol
Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd , a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018
FfitCymru a Phrifysgol Bangor yn gwella iechyd a ffitrwydd y genedl
Bydd arbenigeddau Prifysgol Bangor i’w gweld ar S4C dros yr wythnosau nesaf wrth i raglen newydd ac arloesol, FfitCymru, gael ei darlledu. Bydd y rhaglen yn dilyn 5 aelod o’r cyhoedd wrth iddynt gyflwyno newidiadau sylweddol i’w bywydau er mwyn colli pwysau a datblygu eu ffitrwydd. Yn wahanol i’r rhelyw o raglenni tebyg a welwyd yn y gorffennol, bydd modd i wyliwyr y rhaglen ddewis yr aelod y maent hwy yn uniaethu gyda nhw fwyaf ac yna dilyn yr un rhaglenni ffitrwydd a defnyddio’r un ryseitiau ar gyfer bwytau’n iach er mwynt iddynt hwythau hefyd brofi’r un buddiannau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
Llwyddiannau Myfyrwyr Bangor gyda Heriau LifeStart
Mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi llwyddo gyda heriau ‘ LifeStart Challenges ’ yn ddiweddar, gan ennill symiau sylweddol o arian a chyfleoedd i gael profiadau gwerthfawr. Mae Prifysgol Bangor University yn un o ddim ond 12 prifysgol sydd yn cymryd rhan yn LifeStart - safle gwe sydd wedi ei ddatblygu gan Virgin StartUp. Nod LifeStart yw bod o gymorth i fyfyrwyr ganfod eu harbenigeddau a llwyddo yn eu gyrfa ac yn ariannol a hynny drwy ddysgu mwy am sgiliau menter allweddol drwy gymryd rhan mewn heriau â gwobrau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
AI like HAL 9000 can never exist because real emotions aren't programmable
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Sicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018
The English language is the world's Achilles heel
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaumne Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr e rthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2018