Newyddion: Gorffennaf 2018
Pobl hŷn yn helpu tyfu economi Cymru
Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu. Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor yn ei ddweud yn eu hadroddiad Byw yn iach yn hirach: y ddadl economaidd dros fuddsoddi ym maes iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru heddiw (30 Gorffennaf 2018).
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018
Pencampwraethau'r Byd llwyddiannus i Catrin
Mae Catrin Jones, myfyrwraig Prifysgol Bangor sydd hefyd yn enedigol o’r ddinas, wedi cyrraedd y pedwerydd safle ym Mhencamwriaethau Iau Codi Pwysau’r Byd, a gynhaliwyd yn Wsbecistan yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol
Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Project cerddoriaeth Codi’r To yn dod â harmoni i’r cartref a gwerth cymdeithasol i ysgolion a chymunedau
Mae arfarniad economeg o werth Sistema Cymru - Codi’r To , menter gerddorol mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn datgelu bod gwerth y project yn ymestyn ymhell tu hwnt chwarae offeryn cerddorol, ac wedi arwain at well harmoni i nifer o’r cartrefi a fu’n cymryd rhan. Rhoddodd y dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI) a gynhaliwyd gan Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor (CHEME), gwerthoedd ariannol yn erbyn pob agwedd ar fuddiannau gweithgareddau Codi’r To gyda disgyblion mewn dwy Ysgol yng Ngwynedd a chanfod bod bob £1 a wariwyd yn creu gwerth cymdeithasol cyfwerth a £6.69.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2018
Addysg feddygol yng ngogledd Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei fod yn bwriadu ehangu addysg feddygol ledled Cymru, sy'n cynnwys cyfleoedd newydd i astudio yn y gogledd. O 2019, trwy gydweithrediad rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â'u gradd meddygol israddedig yn llawn yn y gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2018