Newyddion: Mai 2019
Mae traean o bobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis
Mae mwy na thraean o bobl yng Nghymru (34 y cant) yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud hunan-ddiagnosis o gyflyrau iechyd, er mai dim ond 14 y cant sy'n gwneud apwyntiad gofal iechyd ar-lein. Daw'r canfyddiadau hyn o arolwg newydd - Iechyd y Boblogaeth Mewn Oes Ddigidol - gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor , sy'n trafod sut y mae pobl yng Nghymru yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi a monitro eu hiechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2019
Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi papur briffio newydd gan academydd Prifysgol Bangor
Mae Gwasanaeth Ymchwil Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi papur briffio newydd ar Addysg a Gofal Plant Cynnar (ECEC) gan Dr David Dallimore o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd. Y papur briffio hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o dri, gan ddarparu canllaw cyflym i addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC). Mae'n cyflwyno'r cysyniad o ECEC, yn gosod tystiolaeth ar gyfer gwahanol ymagweddau at ECEC ac yn cysylltu hyn â pholisi cyfredol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019
Athro o Fangor yn ennill Medal Hugh Owen
Dyfarnwyd Medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg , Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru. Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg , Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig , Busnes , Dylunio Cynnyrch , Cerddoriaeth a'r Cyfryngau , a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer . Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Ap ffôn symudol yn helpu cleifion cemotherapi i aros yn ddiogel yn ystod eu triniaeth yn Ysbyty Gwynedd
Mae meddygon yn Ysbyty Gwynedd yn profi ap ffôn clyfar fel rhan o dreial clinigol i helpu cleifion i aros mor ddiogel ag sy'n bosibl yn ystod eu triniaeth cemotherapi. Mae cleifion sydd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y treial 'Fy Nghadw’n Ddiogel' yn defnyddio'r ap i'w helpu i gymryd y camau cywir petai cymhlethdodau yn codi yn ystod eu triniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2019
Ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – Adolygu tystiolaeth
Mae cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar y cyd ag Uned Gydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi creu adroddiad newydd ‘ Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod’ . Mae’r adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan Dr Lisa Di Lemma, yn archwilio tystiolaeth ar draws amrywiaeth o raglenni sy’n ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Edrychodd yr adroddiad ar raglenni ac ymyriadau ar gyfer 11 math unigol o ACE, ac ACE fel term cyffredinol, i nodi ymagweddau cyffredin ar draws rhaglenni.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019
Ymchwil arloesol Canolfan yn helpu i lunio strategaeth y dyfodol ar gyfer heneiddio yng Nghymru
Bydd canolfan ymchwil arloesol - y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) a arweinir gan Brifysgol Abertawe ar y cyd gyda Phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol gofal pobl hŷn yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019
Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd
Ddydd Mawrth, 11 Mehefin, bydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn lansio Canolfan Gwerth Cymdeithasol newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Policy action called for to prevent gambling harm
Nid yw'r Datganiad i'r wasg yma sy'n trafod gwaith yr Athro Robert Rogers, Ysgol Seicoleg ac eraill, ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2019
Partneriaeth rhwng Caerdydd a Bangor yn dod â hyfforddiant meddygol i ogledd Cymru
Bydd myfyrwyr Meddygaeth yn gallu cwblhau eu holl hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf yn rhan o fenter newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor. Bydd y bartneriaeth yn golygu bod modd cynnal rhaglen Meddygaeth MBBCh (C21) hynod lwyddiannus Prifysgol Caerdydd drwy Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2019