Newyddion: Mehefin 2019

Cefnogaeth Arbenigol i Dîm Ynys Môn ar gyfer Gemau’r Ynysoedd!

Gyda bwrlwm Gemau'r Ynysoedd yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Gwobrau BPS i fyfyrwyr PhD Seicoleg

Mae dwy fyfyrwraig ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg wedi ennill gwobrau a drefnwyd gan y BPS Division of Academics, Researchers and Teachers in Psychology (DART-P) ar y cyd â PsyPAG.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2019

Myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi'i ddewis ar gyfer Tîm Rygbi'r Gynghrair Prifysgolion Cymru

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i Dîm Rygbi'r Gynghrair Myfyrwyr Cymru ar gyfer Cystadleuaeth y Pedair Gwlad, a fydd yn cael ei chwarae ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 22-30 Mehefin.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019

Myfyriwr o Brifysgol Bangor i gaiacio trip unwaith-mewn-oes

Mae myfyriwr dylunio cynnyrch sydd yn ei ail flwyddyn, yn athletwr antur a Christion o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y British Universities Kayak Expedition (BUKE).

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019

Papur 'Cyntun yn y prynhawn yn gwella dygnwch perfformiad rhedwyr' yn 4ydd yng Ngwobrau Papurau Gorau EJSS

Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi cynnig y dystiolaeth arbrofol gyntaf i ddangos y gall cyntun byr fod o fudd i berfformiad athletwyr dygnwch. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019

Marciau llawn i athrawon Cymru, meddai'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn teithio ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf, gan glywed gan athrawon dan hyfforddiant beth oedd yn eu denu i yrfa o flaen y dosbarth. Yn ddiweddar, bu’n ymweld â Phrifysgol Bangor, gan gyfarfod staff a myfyrwyr yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol a chynnal sesiwn holi ac ateb ar ymgyrch recriwtio ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, Addysgu Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019

Santander yn hybu doniau pêl-droed merched Prifysgol Bangor

Aeth Magi Hughes a Charlotte Walker o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor ar daith einioes i Barcelona a stadiwm chwedlonol Camp Noufis Mawrth fel rhan o fenter Santander UK i gefnogi doniau'r merched mewn chwaraeon ac yn eu bywydau proffesiynol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019

Staff a Myfyrwyr Seicoleg yn rhedeg Marathon Rock n Roll Lerpwl

Llongyfarchiadau i staff a myfyrwyr o’r Ysgol Seicoleg a gymerodd rhan yn y Marathon Rock n Roll yn Lerpwl yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2019