Newyddion: Medi 2019

Bangor yn ennill Cymrodoriaeth Arweinydd y Dyfodol

Mae academydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth bwysig Arweinydd y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), un o brif gyrff cyllido'r Deyrnas Unedig.

Mae Dr Chris Staples yn ymuno â phrif ymchwilwyr ac arloeswyr  o bob rhan o'r wlad i dderbyn cyfran o'r £78 miliwn a ddyfernir fel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bwriad y buddsoddiad yw rhoi hwb i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol, i gynnal eu gwaith ymchwil arloesol ac i ddatblygu annibyniaeth eu hymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019

Cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol' ar gyfer disgyblion ag Anableddau Deallusol ac Awtistiaeth i athrawon lleol

Ymunodd 125 o staff o Antur Waunfawr, Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar â staff academaidd o Ysgol Addysg a Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad hyfforddi yn cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol'. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019

Gwella Iechyd Meddwl efo Ymarfer Corff

Mae myfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor wedi bod yn edrych ar y berthynas rhwng iechyd meddwl ac ymarfer corff. Yn wreiddiol o Whitstable yng Nghaint, mae Rhi Willmot newydd gwblhau ymchwil i sut y mae ymarfer corff yn lleihau straen ac yn gwella ein lles.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019

Beth sydd yn y gwaed?

Mae arbenigydd o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar S4C, Yn y Gwaed.

Yn y gyfres, sy’n dechrau nos Iau, 12 Medi am 8.00, ac sy’n helpu llond llaw o bobl ifanc sydd ar goll yn eu gyrfa i geisio dod o hyd i’w galwedigaeth, mae'r Athro Tim Woodman yn un o’r arbenigwyr ar y rhaglen. Mae’n llunio proffil seicolegol o’r unigolion er mwyn asesu  eu cryfderau seicolegol. Gyda’i phrofiad eang o ddilyn achau Cymreig ar draws y byd, yr hanesydd Eilir Ann Daniels fydd yn taflu golau newydd ar hanes teuluol yr unigolion draw yn Aberystwyth. Byddant yna’n awgrymu meysydd gwaith delfrydol i’r unigolyn hwnnw.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2019

Preventable trauma in childhood costs North America and Europe $1.3 trillion a year

Datganiad rhyngwladol uniaith Saesneg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid oes cyfieithiad ar gael.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2019

‘Cyfle am sgwrs’ i bobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia

Mae “Cyfle am Sgwrs” yn rhoi cynnig i siarad ar y ffôn neu gwrdd â rhywun arall sy'n byw gyda diagnosis yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn ei lansio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o ‘World Alzheimer’s Month’ ym mis Medi (23/09/2019).

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr

Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019