Newyddion: Hydref 2019
Coroni Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn Junior British Hill Climb Champion 2019
Chris Mann, myfyriwr sydd newydd ddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwyddorau chwaraeon, sydd wedi ennill y teitl Junior British Hill Climb Champion 2019 .
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Lab-grown mini brains: we can't dismiss the possibility that they could one day outsmart us
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019
Gallai Cymru arbed biliynau o bunnau'r flwyddyn trwy fuddsoddi mewn gweithlu iachach
Mae adroddiad newydd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ( CHEME ), Prifysgol Bangor wedi dwyn ynghyd dystiolaeth o'r dadleuon economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019
Sefydliad Ymchwil BIHMR yn cael ei harddangos yn y seremoni wobrwyo gyntaf dan arweiniad ymchwilwyr ECR
Ddydd Iau 3 Hydref 2019 cyflwynodd rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ac Ymchwilwyr Profiadol (ECR) Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) eu seremoni wobrwyo gyntaf dan arweiniad ymchwilwyr am gefnogaeth ymchwil, a hynny yng nghynhadledd ECR y Sefydliad, a gynhaliwyd gan yr Ysgol Gwyddorau Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019
Prifysgol Bangor yn ennill dwy wobr Athena SWAN - y tro cyntaf i Ysgol Busnes Bangor
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod dau gais diweddar i Athena SWAN gan Ysgol Busnes Bangor a'r Ysgol Seicoleg wedi bod yn llwyddiannus. Ysgol Busnes Bangor yw'r Ysgol gyntaf o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes i ennill gwobr. Mae gan yr Ysgol Seicoleg wobr Efydd ers 2016 ac fe lwyddodd i adennill y wobr honno.Mae'r gwobrau yma'n cydnabod ymrwymiad parhaus y Brifysgol a'r Ysgolion i gydraddoldeb rhywiol ymhlith y staff a'r myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019
Hwb Ariannol i Ymchwil Canser Gogledd Cymru
Yr haf hwn, addawodd Ymchwil Canser Cymru bron i £500,000 i gyfres o brojectau canser newydd yn y gogledd, gan ddod â chyfanswm yr arian a wariwyd dros y 5 mlynedd diwethaf ar ymchwil canser yn yr ardal i oddeutu £3M.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019