Newyddion: Rhagfyr 2019

Yn benderfynol o wireddu’r freuddwyd – Jade yn graddio fel Bydwraig Dosbarth Cyntaf

Er mai bod yn fydwraig fu ei breuddwyd erioed, chwaraeodd amgylchiadau eu rhan a golygu y bu rhaid i Jade Parsons roi y freuddwyd honno o’r neilltu.

 hithau wedi adael yr ysgol yn un ar bymtheg oed heb unrhyw gymwysterau a dod yn feichiog yn fuan wedi hynny, golygodd bod yn rhaid i Jade, o Dreffynnon, neilltuo ei holl egni ac amser ar fagu ei theulu ifanc

Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2019

Dynes ifanc sydd wedi dod drwy strôc yn graddio

Yn seremonïau graddio gaeaf Prifysgol Bangor fe wnaeth dynes ifanc sydd wedi dod drwy strôc raddio gyda gradd MSc mewn Egwyddorion Niwroseicoleg.

Cafodd Nicola Brown o Lanberis, sy’n 36 oed ac yn fam i ddau o blant, ddiagnosis o ddyslecsia yn 12 oed, a dechreuodd gael ffitiau yn ei chwsg pan oedd yn 17 a dioddef strôc pan oedd yn 24 oed. O ganlyniad i'r strôc, gadawyd Nicola yn rhannol ddall a chollodd y gallu i adalw gwybodaeth yn gywir, ond llwyddodd i oresgyn hyn drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2019

Llwybr arall cyffrous i Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bangor

Gyda ffisiotherapyddion yn aml yn brin, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi dangos diddordeb cryf yn natblygiad llwybr carlam 2 flynedd cyn-gofrestru wedi'i anelu at ymgeiswyr graddedig. Ystyrir y math hwn o raglen yn ddull gwahanol cyffrous o fynd i'r proffesiwn yn hytrach na'r llwybr arferol i israddedigion.  

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019

Why some scientists want to rewrite the history of how we learned to walk

Dyma erthygl yn Saesneg gan Vivien Shaw o Ysgol Gwyddorau Meddygol a Dr Isabelle Catherine Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2019