Newyddion: Ionawr 2020
Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol Bangor
Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd. Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored
Disgrifiwyd y gogledd fel 'Prifddinas Antur Ewrop' ac mae eleni'n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu'r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi'r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw'n bosib cynyddu'r manteision llesol i rai unigolion o gael eu cefnogi gan bobl sy'n wynebu heriau tebyg, neu 'gymheiriaid'.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl hŷn yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol
Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru g an Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020
A&E waiting times worst on record – but using AI to unblock beds could be part of the solution
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Christian Subbe o’r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020
Seicoleg gadarnhaol: Dull Newydd o Hyrwyddo Ymddygiad Iach
Rydym yn gwybod ers peth amser bod anweithgarwch corfforol, diet gwael, problem wrth ddefnyddio alcohol ac ysmygu yn achosi goblygiadau iechyd hirdymor sylweddol. Ond mae gwrthdroi tueddiadau ffordd o fyw sydd yn y pen draw yn arwain at gyflyrau fel gordewdra a chlefyd y galon, yn anodd awn. Mae'r problemau iechyd hyn yn lleihau ansawdd a hyd bywyd yn sylweddol i bobl ledled y byd. Gyda hyn mewn golwg, mae'n bwysig datblygu strategaethau newydd a all fynd i'r afael ag un o faterion iechyd cyhoeddus pwysicaf ein hoes. Mae ffordd newydd a chyffrous o ymdrin â'r mater hwn wedi dod i ychydig o gasgliadau diddorol. Fel rhan o gydweithrediad rhwng Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, daeth project ymchwil PhD i'r casgliad bod seicoleg gadarnhaol - astudio cryfderau a rhinweddau sy'n helpu pobl i deimlo'n dda yn feddyliol - yn gallu hyrwyddo ymddygiad iach hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2020
Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw
Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020
Exercise: we calculated its true value for older people and society
Dyma erthygl yn Saesneg gan Carys Jones, Cymrawd Ymchwil gyda'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2020