Newyddion: Chwefror 2020
Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2020 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae’r 23 llysgennad wedi’u lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pum ohonynt ym Mhrifysgol Bangor. Bydd Tegwen Bruce-Deans and Aled Siôn Storey Pritchard, o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Katy Williams a Briall Gwilym o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn a bydd Elan Duggan yn parhau am flwyddyn arall.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2020
Effaith negyddol gamblo
A wnaethoch chi erioed ystyried effaith negyddol gamblo ar unigolion, teuluoedd a chymdeithas. Yn rhy aml mae'r ffocws ar y gamblwyr problemus yn unig, ond, yn ddiweddar rydym bellach yn ystyried yr effeithiau ehangach ac mae gamblo'n cael ei ystyried yn broblem iechyd cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020
PhD Gwyddor Chwaraeon a ariannwyd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn ennill gwobr gan Gymdeithas Seicolegol Prydain am y PhD orau yn y DU
Mae project PhD gan Leonie Webster wedi cael y wobr am y Traethawd PhD Gorau yn 2019 gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Hefyd, mae ei hymchwil arloesol eisoes wedi cael dylanwad uniongyrchol ar hyfforddi hyfforddwyr proffesiynol yn y DU a'i wella. Mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi meithrin perthynas effeithiol iawn gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ers dros ddegawd. Mae'r Bwrdd Criced wedi'i leoli yn Loughborough ond pan fyddant eisiau cymorth gyda datblygu talent a materion yn ymwneud â seicoleg, maent yn gofyn i Brifysgol Bangor am gymorth.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020