Newyddion: Gorffennaf 2020
Cyhoeddi ymchwil canser yn Science Advances
Mae canser yn glefyd sydd wedi cyffwrdd â ni i gyd, ac er ein bod bellach yn gwybod llawer am sut mae canserau'n datblygu ac yn tyfu, mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd. Un o'r prif ffactorau yn natblygiad canser a’i ymwrthedd i driniaeth yw ansefydlogrwydd genomau. Yn ei hanfod, mae hyn yn cynnwys newidiadau cyson i DNA genomig celloedd, gan gynnwys newidiadau i lythrennau'r cod genynnol ynghyd â newidiadau mwy amlwg megis dileu cromosomau, neu hyd yn oed symud darnau mawr o DNA o un cromosom i'r llall. Mae gwaith Dr Chris Staples, sy’n Gymrawd Arweinydd y Dyfodol UKRI, yn labordy’r North West Cancer Research Institute (yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor) yn canolbwyntio ar sut mae celloedd fel arfer yn atal ansefydlogrwydd genomau o'r fath rhag digwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2020
Arbenigwr o Fangor yn cynghori ar fod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau
Mae'r gwersi a ddysgwyd o ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn tueddu i fynd o'r cof, ac mae cyllid iechyd cyhoeddus a blaenoriaethau ymchwil yn newid. Dyna pam y galwyd ar arbenigwr o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor i ymuno ag adolygiad Academïau Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau o gyflwr presennol y dystiolaeth ar gyfer bod yn barod ac ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus (PHEPR) yn yr Unol Daleithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2020
Gwobrwyo myfyrwyr am gefnogi eu cyfoedion
Mae dwy fyfyrwraig hŷn wedi eu gwobrwyo am gefnogi eu cyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae Jodie Jackman a Dinah Jennings ill dwy wedi bod yn weithgar ac yn effeithiol fel rhan o Gynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol, sydd yn galluogi myfyrwyr i gynorthwyo a chefnogi myfyrwyr sy’n newydd i’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2020