Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ymddangosiad naturiol yn llawer pwysicach na cholur wrth bwyso a mesur dengarwch

Esiampl o'r delweddau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil.Esiampl o'r delweddau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil.Mae’r syniad bod colur yn eich gwneud yn fwy deniadol i’w weld ym mhob man  o’n cwmpas. Ar y rhyngrwyd ceir miloedd o diwtorialau ar sut i roi colur, mae cylchgronau ffasiwn yn llawn erthyglau ar hoff goluron enwogion, ac mae llawer o ferched yn teimlo na allant fynd allan o’r tŷ hebddo. Mae’r ymddygiad beunyddiol yma wedi bod yn bwnc ymchwiliadau gwyddonol hefyd, gyda llawer o astudiaethau’n darganfod bod merched nid yn unig yn cael eu hystyried yn fwy deniadol gyda cholur, ond eu bod hefyd yn iachach, yn fwy medrus ac yn fwy hoffus. 

Un agwedd ar golur nad yw wedi cael ei hystyried eto yw ei effeithiolrwydd o ran cynyddu dengarwch. A’i roi’n syml, faint yn fwy atyniadol mae colur yn eich gwneud? Meddyliwch am yr amrywiaeth mawr o wynebau rydych yn eu gweld ar eich ffordd i’r gwaith bob dydd, neu pan ydych yn mynd allan i siopa. Mae yna amrywiaeth mawr yn nengarwch pobl. Ydi defnyddio colur yn cydbwyso’r amrywiaeth hwn gan roi’r rhai sy’n defnyddio colur ar dir mwy gwastad a’i gilydd? 

Tra oeddent yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, fe wnaeth Dr Alex Jones (nawr o Goleg Gettysburg, Pennsylvania) a’i chydweithiwr, Dr Robin Kramer o Brifysgol Aberdeen, ymchwilio i’r cwestiwn hwn.  I wneud hynny fe wnaethant ofyn i’r rhai a oedd yn cymryd rhan yn eu harbrawf ystyried yr un wynebau gyda cholur a heb golur, gyda’r cyfyngiad nad oedd unrhyw unigolyn yn gweld yr un ddynes gyda cholur a hebddo. Os yw colur yn bwysig o ran dengarwch, dylai ddod dros yr amrywiaeth mewn dengarwch rhwng wynebau yn hawdd. Ond, os nad yw’n cyfrannu fawr ddim, yna gallai’r amrywiaeth naturiol rhwng wynebau orbwyso unrhyw fanteision o ddefnyddio colur. 

Y newydd da oedd bod wynebau gyda cholur yn cael eu hystyried yn fwy deniadol – dim byd newydd yn hynny. Ond pan edrychwyd ar yr holl resymau pam roedd pobl yn gweld rhai wynebau’n fwy deniadol nag eraill, dim ond 2% o wahaniaeth oedd defnyddio colur yn ei wneud i’r sgôr. O’i gymharu, roedd rhesymau eraill pam roedd rhai wynebau’n fwy deniadol nag eraill yn 69%. Roedd y canlyniad hwn yn dipyn o syndod.  Gwelwyd bod maint effaith colur ar pa mor ddeniadol yr ystyrir wynebau yn hynod fach mewn gwirionedd. 

Beth mae’r canlyniadau hyn yn ei olygu? Meddai Dr Kramer o Brifysgol Aberdeen, “Mae’r darganfyddiadau yma’n dangos, tra bo colur yn cynyddu dengarwch, eto’i gyd mae’n elfen fach iawn ym marn pobl pam fod rhai wynebau’n fwy deniadol nag eraill.”

Dr Alex Jones.Dr Alex Jones.Ychwanegodd Dr Alex Jones : “Mae yna lawer o resymau pam mae merched yn rhoi colur ac un o’r rhesymau hynny efallai yw anfodlonrwydd efo’u hymddangosiad. Mae delwedd y corff yn rhywbeth sy’n cael sylw mawr iawn mewn cymdeithas fodern ac rydym wedi dangos o’r blaen bod llai o golur yn cael ei ystyried yn fwy deniadol. Y neges amlwg o’r astudiaeth yma, p’un a ydym yn ei hoffi ai peidio, yw bod ein dengarwch yn cael ei bennu i raddau helaeth gan ein hymddangosiad naturiol ac na fydd defnyddio colur yn cael llawer iawn o effaith ar hynny.” 

Cyhoeddwyd y papur yn y cyfnodolyn   Perception: Perception 44 (1) 79-86

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2015

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Coleg Gwyddorau Dynol
    • Hafan
    • Israddedigion
    • Ôl-raddedigion
    • Cyrsiau rhan-amser
    • Iechyd a Diogelwch
    • Polisïau
    • Ymchwil
    • Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Cysylltiadau’r Coleg
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor