Pryd mae dosbarthiadau'n dechrau?
- Dosbarthiadau Hydref - 04 Hydref 2021 ymlaen
- Dosbarthiadau Gwanwyn - 31 Ionawr 2022 ymlaen *
Ieithoedd i Bawb
Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu iaith arall? Nawr yw eich cyfle chi i wneud hynny.
Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau nos mewn pum iaith:
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Eidaleg
- Sbaeneg
- Tsieinëeg (Mandarin)
Mae ein cyrsiau ar gael i fyfyrwyr a staff Prifysgol Bangor, yn ogystal â'r rhai y tu allan i'r Brifysgol.*
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi’u llunio i ddarparu ar gyfer amryw o lefelau, o ddechreuwyr hyd at ddysgwyr a allai fod yn awyddus i loywi medrau iaith sydd wedi rhydu a/neu barhau ar ôl astudiaethau TGAU/lefel A.
Pam dysgu iaith?
Mae dysgu iaith yn hwyl ac yn her, a bydd yn eich annog i ehangu eich gorwelion, gan agor drysau i ddiwylliannau eraill ac ehangu eich cylch cymdeithasol.
- Mwy o wybodaeth - Staff a Myfyrwyr Prifysgol Bangor
- Mwy o wybodaeth - dosbarthiadau gyda'r nos rhan-amser (yn y gymuned)
Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Hefyd rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i fyfyrwyr y Brifysgol.
*Cynhelir cyrsiau yn amodol ar nifer benodol o bobl. Mae rhai cyrsiau'n boblogaidd iawn - mewn achosion lle bydd nifer fawr wedi dangos diddordeb, byddwn yn cofrestru ar sail y cyntaf i’r felin. Yr oedran isafswm yw 18.