Cyfraith Gyhoeddus
Cyfraith Gyfansoddiadol – Datganoli yng Nghymru ac Ewrop
Ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 gael ei mabwysiadu, bu gan Gymru ei chorff deddfu ei hun a etholir yn ddemocrataidd. Ym Mangor, yr ydym yn ymroddedig i sefydlu i ba raddau y mae’r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl hynny wedi caniatáu iddo greu deddfau sy’n unigryw i Gymru. Mae ymchwil o’r fath yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun heddiw ers y refferendwm diweddar ar symud i Ran IV Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cynhelir yr ymchwil hwn yng nghyd-destun y pwerau a ddatganolwyd i genhedloedd eraill o fewn y DU ac i ranbarthau a chenhedloedd eraill ar draws Ewrop.
Cwblhaodd Dr. Alison Mawhinney ei hastudiaethau israddedig yng Ngholeg y Drindod Dulyn, lle y graddiodd gyda BA (Anrh) mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth. Cwblhaodd LLM mewn Cyfraith Ryngwladol Hawliau Dynol (Rhagoriaeth) ym Mhrifysgol Essex a PhD ym Mhrifysgol Queen’s, Belfast. Cyn ymuno â’r byd academaidd, bu’n gweithio i amrywiol fudiadau ym maes hawliau dynol gan gynnwys Cyngor Ewrop, y Sefydliad ar gyfer Cydlynu a Diogelwch yn Ewrop (OSCE) a'r Cenhedloedd Unedig. O 2006-2010, yr oedd yn ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Queen’s, Belfast, lle yr oedd yn dysgu cyfraith gyfansoddiadol a datganoli ac yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Ganolfan Hawliau Dynol. Ymunodd ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn 2011.
Graddiodd Dr. Osian Dafydd Rees gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y LLB o Aberystwyth, gan ennill gwobr glodfawr Syr Samuel Evans fel yr un a gafodd y radd orau yn y gyfraith yn ei flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru gyfan. Ers hynny mae wedi cwblhau PhD ar rôl Comisiynydd Plant Cymru. Enillodd gyllid gan Gyngor Cyfiawnder Teulu Gogledd Cymru i gynnal ymchwil iddynt yn ei faes arbenigol. Mae ei waith wedi cynnwys archwiliad beirniadol o weithredu pwerau’r Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad.
Cyfraith Weinyddol
Prosiect Ymchwil a Ariannwyd gan Sefydliad Nuffield: Rhanbartholi’r Llys Gweinyddol a Mynediad at Gyfiawnder
Yr oedd Ebrill 21, 2009 yn garreg filltir bwysig yn hanes cyfraith gyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Ar y diwrnod hwn collodd y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain eu monopoli dros hawliadau’r Llys Gweinyddol. Agorodd pedair canolfan cwbl weithredol yn Birmingham, Caerdydd, Leeds a Manceinion. Yn ôl y Cyfarwyddyd Ymarfer perthnasol nod datganedig y diwygiadau yw, “... hwyluso mynediad at gyfiawnder drwy alluogi i achosion gael eu gweinyddu yn y lleoliad mwyaf priodol.” Mae troi at adolygiad barnwrol yn galluogi dinasyddion i amddiffyn eu hawliau sylfaenol yn erbyn awdurdodau cyhoeddus. Mae’r Llys Gweinyddol yn aml yn gweithredu fel llys cyfansoddiadol yn barnu ar bwerau cyrff cyhoeddus, yn sefydlu safonau priodoldeb cyfreithiol, ac yn gweithredu fel ceidwad ein hawliau mwyaf sylfaenol. Mae’n hanfodol nad ddylid rhwystro mynediad at y llys hwn oherwydd ei leoliad. Fodd bynnag, gallai ffactorau megis lleoli barnwyr yn logistaidd, cynnydd posibl yn yr anghysondeb sydd eisoes yn fwrn yn y cam caniatâd, darpariaeth dameidiog o wasanaethau cyfreithiol arbenigol yn y rhanbarthau, cydlynu hawliadau tebyg a’r perygl o oedi ychwanegol yn deillio o’r hyn a elwir yn “siopa fforwm” lesteirio llwyddiant rhanbartholi. Yr hyn nad oes amheuaeth amdano yw bod yn y diwygiadau hyn y potensial i newid yn sylweddol iawn y darlun presennol o gyfreitha adolygiad barnwrol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r cynllun peilot hwn o ymchwil ar y cyd gyda Phrifysgol Essex a’r Prosiect Cyfraith Gyhoeddus yn anelu at werthuso’n feirniadol y cysylltiad rhwng rhanbartholi a mynediad at gyfiawnder. Mae’r ymchwil cymdeithasol-gyfreithiol gychwynnol a ariennir gan grant bychan o oddeutu £9000 o Sefydliad Nuffield yn anelu at gasglu data cefndirol pwysig ar y defnydd o’r Llys Gweinyddol gan gleientiaid a leolir yn y rhanbarthau dan sylw, gan asesu lefelau posib o alw nas cwrddir ag ef am gyfreitha adolygiad barnwrol. Mae’r ymchwil hefyd yn ystyried lledaeniad presennol gwasanaethau cyfreithiol yn y rhanbarthau, a newyddion pwysig ymarferwyr, yn y rhanbarthau ac yn Llundain, o ran sut y bydd rhanbartholi yn effeithio’n gadarnhaol neu’n negyddol ar eu harferion.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, yr ail gam mawr o ran ymchwil fydd defnyddio’r data cefndirol i werthuso’n llawn effeithiau’r diwygiadau ar faterion megis: mynediad at gyfiawnder gweinyddol o ansawdd da ac yn amserol, yr effaith ar ddarpariaeth ddaearyddol gwasanaethau cyfreithiol perthnasol o fewn yr ardaloedd a effeithiwyd ac yn Llundain, ac ansawdd a chysondeb penderfyniadau barnwrol.
Dolenni
http://www.publiclawproject.org.uk/
http://www.nuffieldfoundation.org/
Mae’r Cyhoeddiadau yn y maes hwn yn cynnwys:
“Regionalisation of the Administrative Court and the Tribunalisation of Judicial Review” [2009] Public Law 440.
“Regionalisation of the Administrative Court” 14 (1) Judicial Review (2009) 1.
Yr Athro John Alder
Bu’r Athro John Alder yn Athro ar Ymweliad ac yn ddarlithydd rhan-amser ym Mangor ers mis Chwefror 2008. Cyn hynny, yr oedd yn Athro’r gyfraith ym Mhrifysgol Newcastle lle y mae yn awr yn Athro Emeritws. Bu hefyd yn dysgu ym Mhrifysgol Keele lle yr oedd yn Bennaeth Adran ac ym mhrifysgolion Exeter a Birmingham. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw meysydd Adolygiadau Barnwrol, Hawliau Dynol a Chyfraith Amgylcheddol. Yr oedd ei gyhoeddiad diweddaraf, gyda Dr Chris Handy, yn ymwneud â’r cwestiwn a yw landlordiaid cymdeithasol yn gyrff cyhoeddus neu breifat (2009) 12, Journal of Housing Law 101. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar astudiaeth o fathau o ryddfrydiaeth fel y gwelir hwy mewn Cyfansoddiadau Ewropeaidd, ar y cyd â chydweithiwr ym Mhortiwgal.
Cyfraith a Chrefydd
Ym Mhrifysgol Bangor mae’r modiwl ‘Cyfraith a Chrefydd’ yn edrych ar ddau faes gwahanol ond yn ymwneud yn gynyddol â’i gilydd yn y maes pwysig ac weithiau dadleuol hwn. Yn gyntaf, mae’n edrych ar sefyllfa cyrff sefydledig a datgysylltiedig a chyrff eraill ansefydledig yn y DU. Yn ogystal, mae’n edrych ar fodelau cyfraith eglwysig mewn awdurdodaethau Ewropeaidd eraill. Yn ail, mae’r modiwl yn archwilio’r hawl i ryddid o ran crefydd neu gred yn y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill fel y’i gwelir mewn cyfreithiau domestig a hawliau dynol rhanbarthol. Mae’n ystyried sut y mae’r gyfraith yn ceisio cynnwys amrywiaeth o systemau cred yn y cylch cyhoeddus a'r gweithle, ac yn gofyn a all safonau rhyddid crefydd gwrdd â sialensiau cyfoes cymdeithas amrywiol y dydd sydd ohoni.