Cais Fformat Hygyrch
Os oes gennych Gynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) gall y llyfrgell gael gafael ar ddeunyddiau mewn fformat hygyrch ar eich cyfer.
Rydym yn cael gafael ar ddeunyddiau trwy’r gwasanaeth RNIB Bookshare ac yn uniongyrchol gan gyhoeddwyr. Rhaid i’r Llyfrgell fod â chopi print neu gopi electronig o’r llyfr cyn y gallwn wneud cais am fersiwn hygyrch ohono. Ni all y Llyfrgell warantu y bydd modd i ni gael gafael ar y llyfrau y byddwch yn gofyn amdanynt bob amser gan ein bod yn dibynnu ar gyhoeddwyr i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Gallwch gofrestru i ddefnyddio gwasanaeth RNIB Bookshare. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w gwefan: RNIB Bookshare.
Llenwch y ffurflen gais isod os hoffech i’r llyfrgell geisio cael gafael ar gopi hygyrch o lyfr i chi:
Dylech fod yn ymwybodol y gall rhai ceisiadau gymryd ychydig yn hirach os ydynt yn dod yn uniongyrchol oddi wrth y cyhoeddwyr