Mwy o wybodaeth ...
Ein Cyfleusterau
Mae’r Adeilad Cerddoriaeth wedi’i lleoli yn ei adeilad ei hun yng nghalon campws y Brifysgol. Mae ein cyfleusterau yn cynnwys:
- Ein Llyfrgell Gerddoriaeth ein hunain, gyda mwy na 3,000 o gryno-ddisgiau, 20,000 o sgorau, a chasgliad helaeth o dapiau fideo a DVD.
- Pedair stiwdio ac ynddynt gyfarpar o safon ryngwladol er gyfer recordio, ymchwil a chyfansoddi.
- Dwy neuadd gyngerdd (Neuadd Prichard-Jones Hall a Neuadd Powis)
- Darlithfa/ neuadd ymarfer
- Ystafell gyffredin i fyfyrwyr (gyda storfa ar gyfer offerynnau)
- 12 ystafell ymarfer (gyda phianos)
- Ystafell ymarfer offerynnau taro (wrth-sain)
- Ystafell Wrando ac Ystafell Gyfrifiaduron (Apple Macintosh)
- 2 organ
- 3 piano traws
- 3 harpsicord
- Archif Bop Cymru
- Archif cerddoriaeth draddodiadol
- Casgliad o fwy na 300 o offerynnau rhyngwladol
- Storfa gerddorfaol
Mae'r cyfleusterau Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi ei lleoli ar lanau’r Fenai yn Neuadd John Phillips ac yn yn cynnwys:
- Stiwdio radio broffesiynol
- Neuadd sinema gyda Dolby Surround Sound
- Neuadd fawr John Phillips sy’n ddelfrydol ar gyfer ymarfer a pherfformio gwaith theatrig gyda system oleuo proffesiynol
- Unedau golygu sain cyfrifiadurol gyda’r meddalwedd Adobe Audition
- Unedau golygu fideo cyfrifiadurol Apple Mac sy’n defnyddio meddalwedd Final Cut Pro a Final Cut Express
- Ystafelloedd ar gyfer Ysgrifennu Creadigol, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau Newydd
- Unedau offer symudol i’w defnyddio ar leoliad ym meysydd fideo a radio
- Ystafell gyfrifiaduron aml-gyfrwng ar gyfer hyfforddi a defnydd agored
- Man cyfarfod gyda chysylltiad diwifr i fyfyrwyr
Mae’r cyflysterau hyn ar gael yn ychwanegol i gyflysterau’r Brifysgol y mae gennych hawl i’w defnyddio fel myfyriwr.