Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o greu cerddoriaeth ym Mangor, dan arweiniad Joe Cooper. Mae Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor yn rhan o Adran y Celfyddydau, sy'n rhan o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Rydym yn croesawu’n gynnes aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd. Rhoddir manylion y ffioedd aelodaeth isod: gall myfyrwyr sy'n ymuno ag un o ddau ensemble y Brifysgol ymuno â'r llall am ffi aelodaeth is.
Fel arfer mae pedwar cyngerdd bob blwyddyn, dau gan y Gerddorfa a dau gan y Côr a'r Gerddorfa. Mae rhaglen 2025/26 fel a ganlyn:
- Dydd Llun, 24 Tachwedd 2025: Brahms, Symffoni rhif 1; Greig, cyfres Peer Gynt
- Dydd Sadwrn, 9 Rhagfyr 2025: Cyngerdd Nadolig
- Dydd Sadwrn, 7 Mawrth 2026: Cyngerdd Pen-blwydd Porthaethwy (gan gynnwys Symffoni rhif 1 Vaugh Williams)
- I'w gadarnhau (Ebrill) 2026: Noson yn y Sinema

Corws Symffoni'r Brifysgol
Mae canu mewn côr yn fuddiol i chi ac yn eich ysgogi’n ddeallusol, ac mae ein hymarferion yn cynnig ffordd wych o wneud ffrindiau newydd. Mae croeso i fyfyrwyr,
aelodau staff a thrigolion lleol i ymuno, beth bynnag fo'u profiad corawl blaenorol. Nid oes clyweliadau.
Cynhelir ymarferion bob nos Fercher am 7.30pm yn Neuadd PJ.
Y ffi aelodaeth ar gyfer tymor 2025/26 yw £75 i aelodau nad ydynt yn fyfyrwyr a £15* i fyfyrwyr. Gallwch gofrestru YMA.
Sylwch fod angen i aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd gofrestru drwy'r ddolen hon.
* Gall myfyrwyr ymuno â Cherddorfa Symffoni'r Brifysgol a'r Corws am ffi sefydlog o £15.

Cerddorfa Symffoni'r Brifysgol
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor yw prif gerddorfa lawn gogledd-orllewin Cymru, a daw ei haelodau o blith myfyrwyr a staff y Brifysgol, ynghyd ag offerynwyr gorau’r ardal gyfagos. Mae'r Gerddorfa’n ymarfer bob nos Lun am 7.15 yn Neuadd PJ.
Rydym yn chwilio am chwaraewyr llinynnol sydd o leiaf safon gradd 6-8. Rydym yn chwilio am chwaraewyr chwythbrennau o safon gradd 8.
Fel arfer cynhelir clyweliadau ar gyfer desgiau blaen a chwaraewyr chwythbrennau yn ystod yr Wythnos Groeso.
Y ffi aelodaeth ar gyfer tymor 2025/26 yw £60 i aelodau nad ydynt yn fyfyrwyr a £15* i fyfyrwyr. Gallwch gofrestru YMA.
Sylwch fod angen i aelodau newydd a rhai sy'n dychwelyd gofrestru drwy'r ddolen hon.
* Gall myfyrwyr ymuno â Cherddorfa Symffoni'r Brifysgol a'r Corws am ffi sefydlog o £15.
Côr Siambr y Brifysgol

Grŵp bach o hyd at 20 o gantorion sy'n perfformio cerddoriaeth o'r Dadeni hyd heddiw, dan gyfarwyddyd Dr Guto Pryderi Puw, yw Côr Siambr Prifysgol Bangor, ac mae’n rhoi cyngherddau rheolaidd ym Mangor a lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru. Mae'n ymarfer bob nos Iau am 7.30pm yn Neuadd Mathias yn yr Adeilad Cerddoriaeth. Gwyliwch eu perfformiad o All That’s Past a Yr Arglwydd yw fy Mugail yn y Cyngerdd Gala yn 2019.
Cynhelir clyweliadau i aelodau newydd a gallwch wneud cais i ymuno YMA.
Ensemblau arbenigol
Mae’r Adran Cerddoriaeth yn cynnal nifer o ensemblau arbenigol hefyd, gan gynnwys grŵp opera, ensemble cerddoriaeth gynnar, ac Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor. Os hoffech ddatgan diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw o’r ensemblau hyn, cysylltwch â Bethan Brown.
Y Gymdeithas Gerddoriaeth
Sefydliad myfyrwyr yw’r Gymdeithas Gerddoriaeth (Musoc) y mae ei gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys Cerddorfa (ymarferion bob nos Fawrth am 7.30 yn ystod y tymor), Côr (ymarferion bob nos Wener am 7.30 yn ystod y tymor), cyngherddau amser cinio a gyda'r nos, a llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae croeso i bawb ymaelodi heb gael clyweliad, ac fe'ch gwahoddir yn gynnes i ddod draw i'r ymarferion agored yn ystod yr Wythnos Groeso. Ceir rhagor o wybodaeth YMA.
Grwpiau perfformio eraill
Mae cymdeithasau eraill sy'n gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jazz, y Gerddorfa Linynnol, cymdeithas theatr gerdd (BMTS), côr Cymraeg (Aelwyd JMJ), y Gymdeithas Acapella, y Gymdeithas Ffilm, y Gymdeithas Werin (Cadi Ha), cymdeithas drama a llenyddiaeth Gymraeg (Cymdeithas John Gwilym Jones), dwy gymdeithas ddrama Saesneg (BEDS a ROSTRA), y Gymdeithas Syrcas (Cirque du Soc), a Dawns Prifysgol Bangor – ynghyd â llawer mwy! Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr am ragor o wybodaeth, neu ewch i stondinau'r cymdeithasau yn Serendipedd ddydd Mercher yr Wythnos Groeso.
Mae Cerddorfa Gymunedol Prifysgol Bangor yn cyfarfod wyth gwaith y flwyddyn am ddiwrnod llawn o chwarae cerddorfaol. Mae croeso i offerynwyr o bob safon ymuno. Ceir rhagor o wybodaeth yn siop ar-lein Prifysgol Bangor. Gallwch ymuno YMA.