Cyswllt
Mr Wyn Thomas
Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion mewn Cerddoriaeth
w.thomas@bangor.ac.uk
Y Gymuned Ôl-Raddedig a’r Amgylchedd Ymchwil
Y Gymuned Ôl-raddedig
Mae’r Ysgol yn gartref i gymuned fywiog o ryw 50-60 o ôl-raddedigion, a’u hanner yn astudio ar gyfer graddau trwy ddysgu, tra bo’r hanner arall yn gwneud ymchwil.
Mae bod yn fyfyriwr ôl-raddedig mewn prifysgol gymharol fach yn fuddiol, am y byddwch mewn cysylltiad agos a chyson â’ch cyd-fyfyrwyr, a hefyd mewn cysylltiad aml â’ch goruchwylwyr (yn ffurfiol ac yn anffurfiol).
Mae’r Ysgol Graddedigion yn dod â myfyrwyr graddedig at ei gilydd o’r holl Ysgolion o fewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ar gyfer digwyddiadau academaidd a chymdeithasol.
Mae’r Ysgol yn cynnal ei Chyfres ei hun o Gyngherddau a Seminarau Ymchwil ac yn cynnal cynadleddau rhyngwladol yn gyson.
Mae ein myfyrwyr ymchwil yn aml yn cyflwyno mewn cynadleddau, yn genedlaethol a hefyd yn rhyngwladol.
Yr Amgylchedd Ymchwil Cerddoriaeth
Mae’r Prifysgol Mangor yn ymfalchïo mewn grŵp o arbenigwyr sy’n ymdrin â thraddodiad Gerddoriaeth y Gorllewin yn ei chrynswth, o’r Oesoedd Canol Cynnar hyd at y presennol. Mae proffil ymchwil yr Ysgol wedi datblygu yn y meysydd isod, yn benodol:
- Cerddoriaeth Gynnar (yn enwedig siant a litwrgi, theori cerddoriaeth, ffynonellau a llawysgrifeg, hanes a dadansoddiad polyffoni cysegredig, cerddoriaeth Seisnig yr 17eg ganrif).
- Cerddoriaeth yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif, (yn enwedig rhyngweithiad cyfansoddi a pherfformio, cerddoriaeth dechrau’r 20fed ganrif, cerddoriaeth ffilm, cerddoriaeth finimalaidd ac ôl-finimalaidd, a cherddoriaeth boblogaidd).
- Golygu Cerddoriaeth
- Cerddoriaeth yng Nghymru a Cherddoriaeth Geltaidd Draddodiadol
- Cerddoriaeth Gysegredig
Mae nifer o glystyrau a grwpiau ymchwil wedi datblygu yn sgil arbenigeddau staff:
- Canolfan Uwchastudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CAWMS)
- Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig (ICSMuS)
- Electroacwstig Cymru
- Grŵp Ymchwil Rhyngweithiad Cerddoriaeth Ystumiol (GEMINi)
Yn y blynyddoedd a fu, mae’r Ysgol wedi ennill nifer o brojectau ar raddfa fawr gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sy’n gysylltiedig â lleoedd sydd wedi’u cyllido ar gyfer ymchwilwyr doethurol:
- Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddorol: Mise-en-page mewn llawysgrifau a llyfrau printiedig yn cynnwys cerddoriaeth bolyffonig, 1480-1530
- Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol diweddar
Cysylltiadau Rhyngwladol
Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth naws ryngwladol, a hynny oherwydd y gyfran uchel o ymchwilwyr sy’n dod yn wreiddiol o wledydd eraill (Canada, y Weriniaeth Tsiecaidd, yr Almaen, Iwerddon, Seland Newydd) neu wedi bod yn weithgar ynddynt. O ganlyniad, ceir cysylltiadau agos â’r gwledydd hyn a’u sefydliadau ymchwil.
Trwy raglen Erasmus, sy’n cyllido teithiau cyfnewid addysgu a myfyrwyr, mae’r Ysgol wedi dechrau cydweithredu mewn cysylltiad agos â’r ysgolion isod:
- Prifysgol Charles, Prâg (Gweriniaeth Tsiecaidd)
- Prifysgol Malta (Malta)
- Universität für Musik und darstellende Kunst, Fienna (Awstria)
Cyfleusterau
- Cyfleusterau TG a Llyfrgell
- Archif Bop Cymru
- Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru
- Stiwdios: Gall myfyrwyr awdurdodedig archebu cyfleusterau’r Stiwdio rhwng 8am a 4am, 7 niwrnod yr wythnos (gweler y taflenni archebu y tu allan i Stiwdios 1 a 2). Cewch agoriadau o’r Ystafell Ddiogelwch ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau pan ddangoswch eich cerdyn adnabod myfyriwr.
- Mae Darllenfa’r Dyniaethau ar gyfer Ôl-raddedigion, ar ail lawr Prif Lyfrgell y Celfyddydau, â man astudio tawel neilltuedig, sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau’n unig.
- Ystafelloedd i Ôl-raddedigion: Ceir tri man astudio neilltuedig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor. Ar ail lawr Llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau, cewch Ystafell Ddarllen y Dyniaethau, lle gellwch astudio a defnyddio’r cyfrifiaduron. Ceir hefyd yr ystafell MPhil/PhD yn yr Anecs Cerddoriaeth ac ystafell i ôl-raddedigion ger Dylan’s (Prif Adeilad y Celfyddydau) sy’n cynnig yr un cyfleusterau. Cewch agoriad ar gyfer yr ystafelloedd yn yr Anecs Cerddoriaeth neu ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau am flaendal o £5, gan Weinyddwr yr Ysgol Graddedigion.