Perfformio fel Ymchwil
Mae ein staff a’n myfyrwyr yn weithgar ym maes ymchwil i arferion perfformio, gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth gyfoes. Mae ein gwaith yn cynnwys creu fersiynau cynaliadwy, ar ffurf electronig fyw, o repertoire sydd ar fin mynd i ebargofiant, paratoi recordiadau ar gryno-ddisgiau er mwyn archifo a chadw ein treftadaeth gerddorol, cyflwyno cyngherddau a chynadleddau yn lleol a chymryd rhan mewn cyngherddau a gwyliau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â pharatoi papurau a chyhoeddiadau ar arferion perfformio. Un o’n cryfderau arbennig yw cydweithredu rhwng cyfansoddwyr a pherfformwyr ar greu repertoire newydd, ac rydym yn parhau i greu cysylltiadau â chyfansoddwyr preswyl a rhai rhyngwladol. Rydym hefyd yn weithgar iawn ym maes perfformio cerddoriaeth electronig a chydweithiad rhwng offerynnau acwstig ac offerynnau electronig byw yn benodol. Rydym hefyd yn ffodus o groesawu cyfansoddwyr, unawdwyr ac ensembles gwadd yn gyson, a’r rheiny’n cyfrannu at ein hymchwil trwy gydweithio â pherfformwyr a chyfansoddwyr gwadd ar greu gweithiau newydd ynghyd â chyflwyniadau arloesol o repertoire a geir eisoes.
Detholiad o weithgareddau diweddar a gweithgareddau sydd ar y gorwel gan yr adran berfformio:
Mawrth 2014: Bydd myfyriwr PhD o Fangor, Matthias Wurz, yn cyflwyno ei ymchwil i “Pierrot Lunaire” o eiddo Arnold Schoenberg, yn cynnwys perfformiadau o sawl symudiad, yn yr Ŵyl Ryngwladol ar Arloesi Artistig, Coleg Cerdd Leeds. http://www.lcm.ac.uk/whats-on/Conferences
Mawrth 2014: Bydd Xenia Pestova yn trefnu symposiwm a gŵyl INTER/actions, 2014, ar gerddoriaeth electronig 2014, ar y cyd â’r myfyrwyr PhD Matthias Wurtz ac Eleanor Lighton. Bydd y symposiwm yn cynnwys sesiwn bapur i’w chadeirio gan Wurz a pherfformiadau gan Pestova, ochr yn ochr â chyflwyniadau gan ysgolheigion, perfformwyr a chyfansoddwyr o fri rhyngwladol.
Chwefror 2014: Bydd Dr Xenia Pestova yn Gymrawd Gwadd ym Mhrifysgol Birmingham yn Semester 2, fel rhan o’i seibiant ymchwil. Yn ystod cyfnod hwn, bydd hi hefyd yn mynd ar deithiau ymchwil i Ganada, Brasil ac Awstria, ac yn cydweithio â chyfansoddwyr ym Mhrifysgol Salford.
26 Tachwedd 2013: Lansiodd Dr Xenia Pestova ei CD unawdol, “Shadow Piano” ar Innova Recordings gyda Dr Zoë Skoulding o Ysgol y Saesneg, a lansiodd lyfr barddoniaeth newydd. http://www.innova.mu/albums/xenia-pestova/shadow-piano
Hydref 2013: Rhyddhaodd Dr Xenia Pestova “John Cage: Works for Two Keyboards, volume 1” gyda’r pianydd Pascal Meyer ar Naxos Records. http://www.naxos.com/catalogue/item.asp?item_code=8.559726
18-20 Hydref 2013: Bu Dr Xenia Pestova yn cyflwyno a pherfformio yn y Symposiwm ‘Notation in Contemporary Music’, Goldsmiths, Prifysgol Llundain. http://ncms2013.tumblr.com/
Medi 2013: Gwahoddwyd Dr Xenia Pestova i fod yn ymchwilydd gwadd yn yr Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Ryngwladol Florida.
23-30 Awst 2013: Bu Dr Xenia Pestova yn artist gwadd ym mhreswyliad celfyddydau digidol Pedra Sina ar Ynys Madeira.
Awst 2013: Cyflwynodd Dr Andrew Woolley ddau ddatganiad gyda’r feiolinydd Emma Lloyd Yng Ngŵyl yr Ymylon, Caeredin, gyda cherddoriaeth o argraffiadau a oedd wedi’u paratoi gan Dr Woolley.
Gorffennaf 2013: Dr Andrew Woolley oedd cynullydd yr Ail Gynhadledd Ryngwladol ar Gerddoriaeth Hanesyddol ar gyfer Llawfyrddau: y llawfwrdd a’i rhan yn y broses o ryngwladoli cerddoriaeth ym 1600-1800 ym Mhrifysgol Caeredin. http://www.ichkm.music.ed.ac.uk/
2013: Rhyddhaodd Dr Andrew Woolley fonograff newydd gyda John Kitchen, yn dwyn y teitl “Interpreting Historical Keyboard Music: Sources, Contexts and Performance” (Ashgate, 2013).
2012: Rhyddhaodd Dr Jochen Eisentraut Triptych Jazz & Ffilm. (2012) Prosiect cyfansoddi, perfformiad a fideo. Comisiwn Cyngor Celfyddydau Cymru. Perfformiadau mewn ganolfannau celf Cymreig yn cynnwys Galeri Caernarfon ym Mai 2012. Wedi arddangos yn Oakland University Honors College, Michigan, USA. Cyhoeddwyd ar-lein http://www.youtube.com/user/jochensax/videos?flow=grid&view=0 ac ar gael ar DVD.