CRACG
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig (CRACG)
Cyfarwyddwr: Yr Athro John Harper
Bwriad y ganolfan ragoriaeth ryngwladol newydd hon yw symbylu, cynnal, lledaenu a gwneud ymchwil a dilyn astudiaeth ym maes rhyngddisgyblaethol cerddoriaeth gysegredig.
Mae CRACG yn ffrwyth mwy na 15 mlynedd o ymchwil, astudiaeth ac addysgu ym maes Cerddoriaeth yr Eglwys Gristnogol ym Mangor. Mae’n manteisio ar y bartneriaeth sydd wedi’i sefydlu â’r Coleg Brenhinol dros Gerddoriaeth Eglwysig wrth ddarparu’r cwrs Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig ac o ran cyhoeddi, ar y cysylltiad â’r hybarch Gymdeithas Plaengan a Cherddoriaeth Ganoloesol, ar y rhwydwaith eang o gysylltiadau academaidd ac eglwysig sydd bellach wedi’i sefydlu’n rhyngwladol, ac ar arbenigedd a diddordebau’r staff presennol sydd wedi’u lleoli yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mangor, yn enwedig yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Mae’r ymchwil a’r dysgu sy’n digwydd yn CRACG ar hyn o bryd â phwyslais Cristnogol; ond mae rhychwant y Ganolfan yn caniatáu am astudiaethau ar gerddoriaeth mewn crefyddau eraill yn y byd. Yn yr un modd, ar gerddoriaeth, litwrgïau a defodau Gorllewinol y mae’r pwyslais presennol, ond bwriedir ehangu’r sylfaen hon, a chysylltu ag ysgolheigion a myfyrwyr o feysydd anthropoleg a chymdeithaseg, yn ogystal â diwinyddiaeth a’r celfyddydau.
sic in other world religions. Similarly, the current emphasis is on Western music, liturgies and rituals; but it is intended to enlarge this and to engage with scholars and students from anthropology and sociology as well as theology and the arts.