Cyfansoddi
- Cyflwyniad
- Cyfansoddi Acwstig
- Cyfansoddi Electroacwstig
- Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a Theledu
Cyfansoddi Acwstig
Guto Pryderi Puw
Mae Dr Guto Pryderi Puw yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf addawol o’i genhedlaeth yng Nghymru. Mae ei ysbrydoliaeth gerddorol wedi’i gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru a’i hiaith a’i llenyddiaeth, gyda chysylltiad arbennig â barddoniaeth R S Thomas, tra bo arddull ei gyfansoddiadau yn cofleidio datblygiadau’r avant-garde Ewropeaidd yn ogystal â rhai tueddiadau mwy diweddar.
Yn 2005, enwebwyd ei waith cerddorfaol (a chomisiwn BBC Radio 3), Reservoirs, yng nghategori’r Cyfansoddiadau ar Raddfa Fawr yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac, yn Chwefror 2006, penodwyd ef yn Gyfansoddwr Preswyl cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i gyfansoddi i dri chomisiwn cerddorfaol newydd hyd at 2010. Yn ddiweddar, mae’r cyntaf o’r rhain, sef y Concerto i Obo, wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr i Gyfansoddwr o Brydain yng nghategori’r Wobr i Wrandawyr, a’r canlyniad i’w gyhoeddi ar 5 Rhagfyr.
Cafodd ei gomisiwn cerddorfaol ‘…onyt agoraf y drws…’ ei berfformio am y tro cyntaf gan BBC NOW dan arweiniad David Atherton yn ystod cyfres gyngherddau’r Proms 2007 yn Neuadd Albert, Llundain, lle cafodd ganmoliaeth uchel.
Puw hefyd yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Newydd Bangor ers ei sefydlu yn 2000.
Pwyll ap Siôn
Ganed Dr Pwyll ap Siôn yn Sir Benfro yn 1968. Astudiodd gyfansoddi yn breifat gyda Gareth Glyn, ac yna mynd i Goleg Magdalen, Rhydychen, gan raddio yno ym 1990. Enillodd ysgoloriaeth Vaughan-Williams i ddilyn ei astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, lle astudiodd gyda John Pickard, David Gottlieb a Martin Butler, gan dderbyn ei ddoethuriaeth mewn cyfansoddi ym 1998. Ym 1991, enillodd Dlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhai o berfformwyr amlycaf Cymru, yn gynnwys Bryn Terfel, Iwan Llewelyn-Jones, Deuawd Piano Davies, ynghyd ag artistiaid o’r tu hwnt i Gymru, megis Ensemble Tozai o Japán.
Mae ei gerddoriaeth wedi’i chynnwys ar CDau a gynhyrchwyd gan Gonsort Pres Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Jeremy Huw Williams (Bariton), Iwan Llewelyn-Jones (Piano), y soprano Buddug Verona James, a Deuawd Piano Davies.
Mae elfennau eclectig yn rhan bwysig o’i gerddoriaeth, yn amrywio o finimaliaeth Americanaidd a cherddoriaeth roc a phop hyd at dechnegau ôl-gyfresol a defnydd dyfyniadau. Gwaith ar gyfer unawd ffidil yw ei waith comisiwn diweddaraf, ar gyfer Cystadleuaeth Genedlaethol Yehudi Menuhin ar gyfer Feiolinwyr Ifainc, sydd i’w chynnal yng Nghaerdydd yn 2008.
‘Mae Y Groesffordd ... yn ddarn cyffrous gan lais addawol o fewn cerddoriaeth Gymreig.’
(ICMM screenmusic, 2004)
‘Mae’r tri threfniant cyfoes o ganeuon gan Pwyll ap Siôn, sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng mam a merch, gan greu cylch byr ond grymus yn dathlu genedigaeth, plentyndod a marwolaeth, yn ymddangos yn gryf.’
(Rian Evans, Musical Opinion, 2006)
Peter Flinn
Mae Dr Peter Flinn yn cyfansoddi ar gyfer amrywiaeth eang o offerynnau, ac yn ddiweddar wedi recordio gyda John Turner (recorder), Jana Frenklova (piano), Jonathan Rees (ffidil) a Sinfonia’r Ballet Brenhinol ar gyfer CDau. Mae’r CD diweddaraf ar gyfres “British Light Music” gan Dutton Epoch, cyfrol 4, gyda’i Cinema Suite cerddorfaol (2006). Mae wedi derbyn comisiynau gan Ymddiriedolaeth Ida Carroll, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor, ac wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar waith cerddorfaol arall o bwys ar gyfer Ballet Brenhinol Birmingham.
Andrew Lewis
Er bod Andrew Lewis yn anad dim yn weithgar ym maes cyfansoddi acwsmatig, y mae hefyd yn ymgymryd prosiectau achlysurol ar gyfer offerynnau yn unig. Yn 2004 cafodd ei ddarn cerddorfaol Eclipse ei berfformio am y tro cyntaf gan Elgar Howarth a Cherddorfa Opera’r Gogledd, fel rhan o Fforwm Cyfansoddwyr Newydd Cenedlaethol, ac yn yr un flwyddyn fe ddewisodd Syr Peter Maxwell Davies ei bedwarawd llinynnol Tempo Reale ar gyfer cyngerdd yn Neuadd Wigmor i ddathlu pen-blwydd yr SPNM yn 60 oed.