Cyfansoddi Electroacwstig ac Acwsmatig
Mae cerddoriaeth electroacwstig wedi dod yn dipyn o arbenigedd ym Mangor, wrth i’n cyfansoddwyr ar y staff (ynghyd â myfyrwyr ymchwil ddoe a heddiw) gynhyrchu nifer o weithiau arobryn ac ennill bri ar raddfa ryngwladol. Mae’r cyfansoddwyr yn gweithio ym Mangor yn creu cerddoriaeth acwsmatig a cherddoriaeth ar gyfer offerynnau byw a phrosesu cyfrifiadurol. Mae Ysgol Cerddoriaeth wedi cael ei chyfarparu gyda dwy Stiwdio Electroacwstig bwrpasol.
Yn ychwanegol i’r gweithgaredd cyfansoddi, mae’r ymchwil electroacwstig ym Mangor yn ymdrin â’r datblygiad ill dau o feddalwedd ar gyfer cyfansoddi a pherfformio, a’r datblygiad o gymwysiadau newydd ar gyfer meddalwedd a chaledwedd sy’n bodoli’n barod.
Electroacwstig Cymru yw’r gangen sy’n perfformio ac yn lledaenu gwybodaeth, gan drefnu cyngherddau, dangosiadau cyhoeddus a gweithdai sy’n defnyddio system gwasgaru sain 30-sianel bwrpasol.
Andrew Lewis
Mae'r Athro Andrew Lewis yn arbenigo mewn cerddoriaeth acwsmatig (cerddoriaeth electroacwstig sydd i’w pherfformio dros uchelseinyddion). Mae’n gyfarwyddwr ar y stiwdios cerdd electroacwstig, ac ar Electroacwstig Cymru, sy’n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer ‘lledaenu’ gweithiau electroacwstig trwy gyngherddau a gweithdai. Mae hefyd yn cyfansoddi ar gyfer offerynnau acwstig, gydag neu heb adnoddau electroacwstig. Mae un finyl a saith recordiad CD ar gael, gyda DVD awdio o waith Lewis i’w ryddhau yn Rhagfyr 2007.
Mae ei gerddoriaeth wedi ennill sawl gwobr ac argymhellion (PRS, Prix Ars Electronica, Celf Electronig Stockholm, Radio Hwngari, Bwrsari Cyngor Celfyddydau Prydeinig, rownd derfynol Noroit, ARTS XXI Valencia, CIMPESP São Paulo, Bourges ‘Euphonie d’or-’) ac maent yn cael eu perfformio a’u darlledu mewn sawl gwlad.
Cliciwch ar y ddolen hon i weld gwefan Andrew Lewis.
Ed Wright
Ar hyn o bryd, mae Mr Edward Wright yn fyfyriwr PhD ym Mangor, gan wneud gwaith ym maes cyfansoddi electroacwstig. ‘Rapidly becoming one of Wales’ most promising young composers’ – dyma ddisgrifiad y Daily Post ohono, ac mae ei waith yn canolbwyntio ar yr agweddau mwy aml-ddisgyblaethol ac arbrofol ar gerddoriaeth. Mae wedi perfformio gwaith yn y DU a hefyd dramor (Artforum-Antwerp, S.A.R.C. – Béal Feirste (Belfast), Expo996 – Scarborough, yn ogystal ag ym Mangor), gan weithio gyda chyfrwng sefydlog, prosesu byw, a grymoedd aml-gyfrwng. Mae gan Ed gysylltiad ers amser â Gŵyl Gerdd Newydd Bangor y mae wedi llunio nifer o weithiau ar ei chyfer, yn ogystal â sefydlu cyfres cyngherddau electronig Risk of Shock ar gyfer myfyrwyr, http://www.myspace.com/riskofshockmusic .
Rhestr o weithiau diweddar:
The way I Saw It Ffidil a Thâp – Expo 996
Passage Cyfrwng sefydlog gyda delwedd symudol – Artforum
En Masse Montage cyfrwng sefydlog – Gŵyl Gerdd Newydd Bangor
Enough~? Clarinét a phrosesu byw (max/msp) – Electroacwstic Cymru
Harp Set Telyn wedi’i samplo, delwedd a sain – Gŵyl Gerdd Newydd Bangor
Like so Many Cyfrwng sefydlog sianeli sefydlog, llais a phedwarawd llinynnol - Blipfonica
Postcards from Home Acwsmatig 8 sianel – SARC.