Cyfansoddi
- Cyflwyniad
- Cyfansoddi Acwstig
- Cyfansoddi Electroacwstig
- Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a Theledu
Cyfansoddi ar gyfer Ffilm a Theledu
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd cyflym ym maes cyfansoddi ar gyfer ffilm ym Mangor. Mae Owain Llwyd, sef deiliad presennol ysgoloriaeth ddoethurol gyfrwng-Cymraeg AU ym maes cyfansoddi ar gyfer ffilm a’r cyfryngau, wedi datblygu nifer o gyrsiau arloesol a chyffrous yn y maes ar lefel is-radd, ac wedi cyfansoddi ar gyfer ffilm, rhaglenni dogfennol a hysbysebion masnachol ar gyfer teledu, ac wedi darparu trefniannau cerddorol ychwanegol ar gyfer sgôr Richard Harvey ar gyfer y ffilm nodwedd Ffrangeg Les Deux Mondes yn 2007. Mae staff llawn-amser a rhan-amser eraill sy’n gweithio yn y maes hen hefyd yn cynnwys Guto Puw, Pwyll ap Siôn ac Jochen Eisentraut.
Owain Llwyd
Mae Mr Owain Llwyd wedi ennill enw da yn sydyn o fewn maes cerddoriaeth ffilm a theledu, tra’n astudio at ei PhD ym Mangor. Mae ei waith yn amrywio o gerddoriaeth ffilm mewn addysg i hysbysebion teledu, o arwyddganau i seindraciau byr ffilm. Mae ei gerddoriaeth hysbysebion yn cynnwys enghreifftiau i Toblerone, Coke Zero, Argos, Ariel, Nokia, Landrover, Fiat, Visa a Centrum Multivitamins. Yn 2005 cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer CD 'Cymru Gwynfor' i Sain a dwy CD o gerddoriaeth llyfrgell gyda ‘Slic’.
Yn 2007 bu’n drefnydd cerddorfaeth ychwanegol ar y ffilm Les Deux Mondes (Y Ddau Fyd) gyda cherddoriaeth Richard Harvey a recordiwyd yn Stiwdios Abbey Road. Gweithiodd Owain gyda Boosey & Hawkes yn Bratislava ar eu CD o Gerddoriaeth Llyfrgell dan y teitl ‘Orchestral Movement’. Ei brosiect diweddaraf yw cyfres ddogfen Ffilmiau’r Nant Fi, Fo, a’r MC i’w ddarlledu ar S4C yn Ionawr 2008. Mae prosiectau eraill yn cynnwys:
Worldliner; Ffilm Wyddonias Fer; (2007; Ethos Films, ar y gorwel)
THPW - Mc Saizmundo; Rhaglen ddogfennol ar gyfer S4/C; (2007; Ffilmiau Nant, ar y gorwel)
Pink Shirts; Ffilmn archifol o 1935; (2007; yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sky)
Charlie; darn 3 munud ar gyfer unawd clarinét yn seiliedig ar ‘The Adventurer’ gan Charlie Chaplin (2007; ffilm Archifol)
Clever Centrum; Hysbyseb Deledu ar gyfer Centrum Multivitamins; (2006; ITV, Sianel 4)
Hwyl yr Ŵyl; Ffilm Archifol o 1949; [perfformiwyd gan O Duo] (2006; Clwb Cerdd Dolgellau, Cyngor Celfyddydau Cymru)
Am restr fanwl o weithiau, ewch i wefan Owain Llwyd.
Pwyll ap Siôn
Y Chwarelwr (pumawd piano), trac sain 40', ar gyfer yr ail-gread o’r ffilm o’r 1930au ar gyfer Teledu Cwmni Da; perfformiwyd am y tro cyntaf ar 7 Hydref 2006; darlledwyd ar S4C ar 10/12/06; DVD wedi’i ryddhau (ISBN 186225053-7)
Frongoch (ensemble mawr), 45', trac sain i ddrama-ddogfen ar yr hyn a ddilynodd Wrthryfel y Pasg, comisiwn ar y cyd rhwng TG4 ac S4C (i’w ddarlledu yn ystod 2007)
Awelon, 30', trac sain ffilm ar gyfer monoddrama deledu ar sail y gerdd ‘Awelon’ gan Aled Jones Williams (cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Gwynedd, Y Sioe Gelf a Croma) a ddarlledwyd ar S4C ar 16 Chwefror 2003 (darlledwyd hefyd ar S4C digidol)
Blodeuwedd, 40', cerddoriaeth achlysurol ar gyfer cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o ddrama Saunders Lewis (Medi-Hydref 2002, cyf. Ian Rowlands)
Guto Pryderi Puw
Yn 2006, comisiynwyd Dr Guto Pryderi Puw i gyfansoddi’r trac sain ar gyfer y rhaglen ddogfen hanesyddol Tywysogion, yn olrhain hanes y disgynyddion Brenhinol o Gymru o’r 10fed hyd at y 15fed ganrif. Darlledwyd y gyfres o 7 rhaglen ddogfennol (yn para am 50 munud yr un) ar S4C rhwng Ionawr ac Ebrill 2007.
Jochen Eisentraut
Mae gan Dr Jochen Eisentraut allbwn nodedig o gerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu, sy’n cynnwys seindraciau i dros 70 o gyfresi a rhaglenni teledu a ddarlledwyd ar S4C, HTV, Sianel 4 a’r BBC. Mae ei restr o wobron yn cynnwys y Wobr Aur am Ddrama Deulu yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Rhyngwladol Efrog Newydd, a’r Wobr ‘Ffilm Arloesol Orau’ yng Ngwobrwyon Animeiddio Prydeinig yn 1998.