Meysydd Ymchwil - Cerddoreg
- Cerddoriaeth yr 20G
- Golygu Cerddoriaeth
- Cerddoriaeth minimalaidd ac ol-minimalaiddd
- Dadansoddi
Cerddoreg- Golygu Cerddoriaeth
Mae ein harbenigedd mewn golygu cerddoriaeth yn ymestyn o’r Canol Oesoedd hyd at ddechrau’r 20fed ganrif, fel bod Bangor ymysg sefydliadau mwyaf blaenllaw’r DU yn y maes hwn. Mae’r gwaith o olygu cyfansoddwyr yr Almaen o’r 19eg ganrif yn arbenigedd cryf, a Pascall yn un o gyfarwyddwyr Gesamtausgabe Johannes Brahms, a Schmidt-Beste â chyswllt agos ag Argraffiad Cyflawn gweithiau Felix Mendelssohn Bartholdy.
Thomas Schmidt-Beste
Daw’r Athro Schmidt-Beste â dau faes o arbenigedd i Fangor, yn gysylltiedig â ffynonellau cerddorol. Mae ei waith ar lawysgrifau cerddoriaeth bolyffonig o’r 15fed ganrif a’r 16eg ganrif wedi arwain, ymysg pethau eraill, at gatalog o lawysgrifau’r Cappella Sistina a gedwir yn Llyfrgell y Fatican. Mae ei waith golygu ar weithiau o’r 19eg ganrif, yn canolbwyntio ar weithiau Felix Mendelssohn Bartholdy a’r Argraffiad Cyflawn newydd o’i weithiau (Leipziger Gesamtausgabe der Werke Felix Mendelssohn Bartholdys, Breitkopf a Härtel). Ymddangosodd ei argraffiad o’r Symffoni ‘Albanaidd’ ym 2005; bydd y Symffoni ‘Eidalaidd’ (y ddau fersiwn) yn dilyn yn 2008/09, a cherddoriaeth achlysurol Antigone (op. 55) yn 2010.
Robert Pascall
Bruce Wood
Mae'r Athro B ruce Wood yn Gadeirydd ar Gymdeithas Purcell ac yn olygydd ar nifer o gyfrolau yng nghasgliad beirniadol y Gymdeithas honno o gerddoriaeth Purcell:
1 Three Occasional Odes (ar y gorwel: Stainer a Bell, 2008)
10 Three Odes on St Cecilia’s Day (Novello, 1990)
11 Birthday Odes for Queen Mary, 1689-1691 (Novello, 1994)
12 The Fairy Queen (a gyd-olygwyd ag Andrew Pinnock) (ar y gorwel: Stainer a Bell, 2008/2009)
15 Royal Welcome Songs, 1680-1683 (Novello, 2000)
18 Royal Welcome Songs, 1684-1688 (Novello, 2004)
23 Services (a gyd-olygwyd â Margaret Laurie) (ar y gweill)
24 Birthday Odes for Queen Mary, 1692-1694 (Novello, 1997)
27 Symphony Songs (ar y gorwel: Stainer a Bell, 2007)
32 Polyphonic Anthems, Motets and Canons (ar y gweill)
Mae’r Athro Wood hefyd yn olygydd ar A Purcell Anthology: Twelve Anthems (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), ac ar dair cyfrol yn y gyfres ysgolheigaidd Musica Britannica:
50 John Blow, Anthems II: Anthems with Orchestra (Stainer a Bell, 1984)
64 John Blow, Anthems III: Anthems with Strings (Stainer a Bell, 1993)
79 John Blow, Anthems IV: Anthems with Instruments (Stainer a Bell, 2002)
Christian Leitmeir
Mae Dr Christian Leitmeir wrthi ar hyn o bryd yn paratoi argraffiad cyflawn o weithiau Jacobus de Kerle (c.1531-1591) ar gyfer y gyfres Denkmäler der Musik in Baden-Württemberg (6 chyfrol). Mae’r argraffiad hwn yn mynd gyda monograff Christian, a bydd yn hollbwysig wrth sefydlu statws cyfansoddwr cerddoriaeth y Dadeni a oedd, trwy gydol ei oes, ar y blaen mewn datblygiadau cerddorol ym maes polyffoni cysegredig.
Cyn hir, bydd ymchwil Leitmeir i theori cerddoriaeth yn y Canol Oesoedd yn dwyn ffrwyth mewn sawl argraffiad, yn amrywio o De anima mundi et concordia planetarum – gwaith o’r 12fed ganrif a fu hyd yma’n anhysbys (wedi’i olygu ar y cyd â Dr Hanna Vorholt, ar y gweill) hyd at draethodau mesurol (Franco o Cologne, Petrus dictus Palma ociosa).
Mewn comisiwn gan yr Institut für Tiroler Musikforschung, ail-greodd ranlyfrau coll yr Apparatus musicus (Innsbruck, 1654) gan Hans Stadlmayr. Mae argraffiad o weithiau cysegredig dethol gan Franz Bühler (1760-1824), un o’r cyfansoddwyr eglwysig mwyaf toreithiog ac adnabyddus yn Neheudir yr Almaen, ar droed.
Mae diddordebau codicolegol a phaleograffegol Christian yn ymestyn i ffynonellau llenyddol (megis dogfennau archifol). Ac yntau’n hyddysg mewn palaeograffeg Almaenaidd, bu’n dysgu seminarau mewn Paleograffeg Almaenaidd (1500-1900) yn Sefydliad Warburg ac Ysgol Haf Llundain mewn Palaeograffeg. Mae wrthi’n paratoi astudiaeth ar godecsau’r Salm Penydiol o München, sy’n cyfuno cerddoriaeth (Lasso), delwedd (Muelich) a sylwebaeth destunol (Quicchelberg) yn Gesamtkunstwerk.