Meysydd Ymchwil Cerdd Cymru
Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru
Mae prosiect y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn fenter gydweithredol gyffrous a fydd yn arwain at gyhoeddi cyfeirlyfr cyfrwng Cymraeg yn cwmpasu holl feysydd oddi fewn i faes cerddoriaeth yng Nghymru, a hynny mewn modd holistig, cynhwysfawr, diffiniadol ac awdurdodol. Bwriedir cynnwys cofnodion yn amrywio o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes, o’r traddodiadol i’r modern, o ganu gwerin i ganu pop, o gantorion, cerddorion a digwyddiadau o bwys at unawdwyr opera, cerddorfeydd, traciau sain y sgrîn deledu a’r sinema.
Drwy greu cyhoeddiad o’r math hwn ym maes Cerddoriaeth, y gobaith yw y daw’r Cydymaith Cerdd yn garreg filltir yn ysgolheictod Cerddoriaeth Cymru. Daw ag arbenigedd traws-sefydliadol at ei gilydd gan adlewyrchu’r ystod eang o ymchwil sydd i’w ganfod mewn gwaith ymchwil ar Gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ar hyn o bryd.
Derbyniwyd grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi a datblygu’r cyhoeddiad. Penodwyd gweinyddydd academaidd ac îs-reolwr ar gyfer y prosiect, ynghyd â phwyllgor golygyddol o academyddion gydag arbenigeddau ar draws y sbectrwm, ac fe gynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus yn y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Chwefror 2012 i hyrwyddo’r cyhoeddiad.
Cliciwch yma i ddarllen y datganiad i’r wasg.