Meysydd Ymchwil Cerdd Cymru
- Cyflwyniad i Gerdd Cymru
- Cerddoriaeth yng Nghymru’r Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar
- Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru
- Organoleg ac Offerynnau Traddodiadol Cymru
- Cerddoriaeth Boblogaidd yng Nghymru
- Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru
Organoleg ac Offerynnau Traddodiadol Cymru
Mae astudiaethau Organolegol yn yr Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor yn canolbwyntio ar gasgliad Peter Crossley-Holland o offerynnau rhyngwladol a adneuwyd yma tua chanol y 1990au gan yr Athro Ethnocerddoreg Ymddeoledig o Brifysgol Califfornia, Los Angeles (UCLA). Roedd Peter Crossley-Holland (1916-2001) yn anturiaethwr ac yn arloesydd yn astudiaeth ethnogerddoreg, a gasglai gerddoriaeth, offerynnau a llên werin pobloedd brodorol, mewn mannau yn cynnwys Ewrop, India, Tibét a México. Roedd ei ddiddordebau eang yn cynnwys ethnogerddoreg Gymreig a Cheltaidd ehangach. Ac yntau’n aelod o fwrdd cyfadran UCLA tan ei ymddeoliad ym 1983, derbyniodd Peter Gymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Bangor (1992) am ei wasanaeth i gerddoriaeth Cymru.
Casgliad Crossley-Holland
Mae’r Brifysgol wedi cael y fraint o gadw un o brif gasgliadau Crossley-Holland, yn cynnwys mwy na 600 o offerynnau Ewropeaidd ethnig a mwy na 300 o offerynnau o México yn deillio o’r oes gyn-Golombaidd, yn cynrychioli cyfnod o 3000 CC hyd at 1500 OD. Mae hefyd yn cynnwys mwy na 100 o’i gyfansoddiadau, mwy na 4,000 o lyfrau ar hanes, cerddoriaeth, treftadaeth a diwylliant Celtaidd. Ar ben hynny, mae mwy na 200 o recordiadau maes, ar dâp a disg, o gerddoriaeth ethnig yn rhoi darlun amhrisiadwy o ddiwylliant Indiaidd a Thibetaidd yn y 1950au a’r 1960au.