Troi caeau gwartheg yn goedwigoedd

Coedwigoedd  gorllewin yr Andes yn dangos gwahanol gamau o adnewyddiad, ac yn gymysg a phorfa gwartheg.: Llun:Paul WoodcockCoedwigoedd gorllewin yr Andes yn dangos gwahanol gamau o adnewyddiad, ac yn gymysg a phorfa gwartheg.: Llun:Paul WoodcockYn ôl papur sydd newydd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Nature Climate Change, mae troi caeau gwartheg yn goedwigoedd yn ffordd rad o fynd i'r afael â newid hinsawdd ac arbed rhywogaethau sy'n wynebu difodiant.

Fe wnaeth ymchwilwyr wneud arolwg o stociau carbon, bioamrywiaeth a gwerthoedd economaidd o un o'r ecosystemau sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd, sef gorllewin yr Andes yn Colombia. 

Defnyddir y tir yn bennaf yn yr ardaloedd hyn i fagu gwartheg, ond dangosodd yr astudiaeth y gallai ffermwyr wneud yr un faint o arian, neu hyd yn oed fwy, trwy adael i'w tir aildyfu'n naturiol. 

Gyda'r marchnadoedd carbon sydd wedi'u sefydlu i atal cynhesu byd-eang, byddent yn cael eu talu i newid defnydd eu tir o fagu gwartheg i dyfu carbon - gan dderbyn tua US$1.99 am bob tunnell o garbon deuocsid y byddai'r coed a dyfid ganddynt yn ei dynnu o'r atmosffer.

Mae’r euryn torchog yn byw mewn ardal fechan o’r Andes yng ngorllewin Colombia ac yn rhestredig fel rhywogaeth mewn perygl ar Restr Goch yr IUCN. Llun: GilroyMae’r euryn torchog yn byw mewn ardal fechan o’r Andes yng ngorllewin Colombia ac yn rhestredig fel rhywogaeth mewn perygl ar Restr Goch yr IUCN. Llun: GilroyByddai hyn o gymorth hefyd i roi hwb i boblogaethau llawer o rywogaethau sydd dan fygythiad difrifol. 

Mae peth adnoddau ariannol ar gael i fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, felly mae angen symud yn gyflym i roi sylw i'r ddau fater gyda'i gilydd. 

Cynhaliwyd yr ymchwil gan y prif ymchwilydd Dr James Gilroy o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol Prifysgol East Anglia tra oedd ym Mhrifysgol Gwyddorau Bywyd Norwy.  

Meddai: "Mae'r ymchwil yma'n dangos bod yna fanteision amgylcheddol ac ecolegol mawr o newid defnydd tir o fagu gwartheg i goedwigoedd, ac efallai bod yna fanteision ariannol hefyd. 

Pe gadewid i'r ardaloedd yma fynd yn ôl yn goedwigoedd, yna byddai symiau sylweddol o garbon deuocsid yn cael eu dal o'r atmosffer.  Gellid adfer bioamrywiaeth hefyd gan wella cynefinoedd llawer o rywogaethau sydd mewn perygl o gael eu difodi - a hynny am gost fychan iawn. 

Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill."

Porfa gwartheg ym mlaen y llun a choedwig eilradd sydd yn adfywio yn y cefndir: Llun: D EdwardsPorfa gwartheg ym mlaen y llun a choedwig eilradd sydd yn adfywio yn y cefndir: Llun: D Edwards Llun: D EdwardsUn o gyd-awduron y papur yw Dr Paul Woodcock, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a dyma oedd ganddo ef i'w ddweud:  "Yn fyd-eang, mae coedwigoedd yn storio symiau enfawr o garbon, felly gall y syniad o dalu am aildyfu coedwigoedd fod yn rhan bwysig o strategaethau i wrthsefyll newid hinsawdd.

Ond mae yna bryder bod gwerth tir mewn rhai rhanbarthau'n rhy uchel i wneud taliadau carbon o'r fath yn ymarferol yn economaidd.

"Yn ein hastudiaeth ni, fe wnaeth carbon grynhoi'n gyflym mewn coedwigoedd a ailsefydlwyd.  Oherwydd mai ychydig iawn o elw a geir wrth ffermio gwartheg yn y rhanbarth, gellid fforddio taliadau i aildyfu coedwigoedd yn yr Andes Trofannol."

Darganfu'r astudiaeth hefyd bod gadael i goedwigoedd aildyfu wedi cael effaith enfawr ar boblogaethau rhywogaethau dan fygythiad. 

Mewn coedwigoedd eilaidd yn y rhanbarth, darganfu ymchwilwyr 33 o 40 o rywogaethau adar ar y rhestr goch sydd dan fygythiad difodiant.  Fodd bynnag, mewn porfeydd gwartheg dim ond 11 oedd i'w cael. 

"Mae hyn yn costio ychydig iawn o arian," meddi uwch wyddonydd, Dr David Edwards, o Adran Gwyddorau Anifeiliaid a Phlanhigion Prifysgol Sheffield. 

"A chymryd bod pobl yn fodlon gwario'r arian, gallai hon fod yn ffordd hollbwysig i stopio newid hinsawdd a gwarchod rhai o'r rhywogaethau sydd mewn perygl fwyaf yn y byd.  

Mae manteision economaidd ffermio gwartheg yn fychan iawn, felly mae hon yn ffordd lle gallai ffermwyr wneud cymaint, os nad mwy, o arian.  Bydd y tir yn cael ei rentu gan ffermwyr am 30 mlynedd a byddent yn cael eu talu am y carbon a dyfir. 

"Rydym wedi astudio coedwigoedd hŷn sydd tua 20-30 oed ac wedi gweld eu bod wedi adfer tua hanner carbon coedwig wirioneddol aeddfed.  Mae mwy o garbon yn dod yn ôl bob blwyddyn ac, wrth wneud hynny, mae niferoedd mawr o rywogaethau sydd dan fygythiad mawr yn dychwelyd. 

"Gall yr effaith ar leihau'r argyfwng difodiant bioamrywiaeth a newid hinsawdd fod yn enfawr."  

Mae 'Cheap carbon and biodiversity co-benefits from forest regeneration in a hotspot of endemism' yn ymddangos ar wefan  Nature Climate Change o 29.4.14 .

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014