100 trysor Prifysgol Bangor

Tebot, porslen, a wnaed yng Nghaerwrangon, tuag 1760
Tebot, porslen, a wnaed yng Nghaerwrangon, tuag 1760
Powlen, porslen, Tsieineaidd, cyfnod Wanli, 1573-1620
Powlen, porslen, Tsieineaidd, cyfnod Wanli, 1573-1620
Pren sandal coch
Pren sandal coch
Nyth morgrug gwynion a phren wedi’i ddifrodi gan forgrug gwynion
Nyth morgrug gwynion a phren wedi’i ddifrodi gan forgrug gwynion
Ocarina gyda phedwar twll bys: ‘Dyn Môr-grwban’
Ocarina gyda phedwar twll bys: ‘Dyn Môr-grwban’
‘Of Gardens, an Essay’ gan Frances Bacon 1909
‘Of Gardens, an Essay’ gan Frances Bacon 1909

Gall ymwelwyr i Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, fwynhau arddangosfa newydd, 100 trysor Prifysgol Bangor, yn y cas sydd yn y dderbynfa. Defnyddir y cas arddangos hwn yn unswydd ar gyfer arddangos casgliadau’r Brifysgol, ac mae’r arddangosfa’n newid bob chwe mis.

Mae’r eitemau, sydd i’w gweld tan Ebrill 2019, yn ddetholiad o gasgliadau mawr ac amrywiol y Brifysgol.

Dewiswyd yr eitemau ar gyfer yr arddangosfa gan unigolion sy’n ymwneud â’r casgliadau. Mae’r rhain yn cynnwys staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr sydd yn cynorthwyo i gynnal a chadw’r eitemau hynod werthfawr hyn.

Sail yr arddangosfa yw llyfryn, 100 Trysor Prifysgol Bangor, a gynhyrchwyd drwy arian gan Gronfa Bangor y Brifysgol a Chyngor Gwynedd.  Cydlynwyd a golygwyd y llyfryn gan Elen Wyn Simpson, Archifydd Prifysgol Bangor a Helen Gwerfyl, Swyddog Casgliadau Prifysgol Bangor ac Amgueddfa Storiel.

Daeth casgliadau Prifysgol Bangor ynghyd yn ystod cyfnod cynnar y Brifysgol, pan oedd awydd i sicrhau adnoddau ar gyfer dysgu yn y sefydliad, ac maent wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mae’r  casgliadau sŵolegol, daearegol, y llysieufa, offerynnau cerdd ethnograffig a’r casgliadau celf  a serameg wedi aros o fewn y Brifysgol, tra bod y dodrefn, archeoleg a hynafiaethau Cymreig wedi bod yn sylfaen i gasgliad Storiel. Mae Prifysgol Bangor a Storiel bellach yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y casgliadau hyn yn agored i’r gymuned, myfyrwyr a staff ac i’w diogelu at y dyfodol.

Dewisodd Emma Hobbins, sydd yn gweithio yn Storiel ac yn gwirfoddoli i edrych ar ôl y casgliad serameg, debot a wnaed yng Nghaerwrangon tua 1760 a phowlen Tsieineaidd sy’n dyddio o’r cyfnod 1573-1620.

Meddai:

“Dewisais y tebot bach oherwydd fy mod yn hoff o’i siâp a’r addurn o adar rhydd a diofal a blodau sydd arno. Maent wedi eu paentio’n sydyn arno â llaw. Fe’i gwnaed tua 1760  yng Nghaerwrangon - rheswm arall i mi ei hoffi - ces fy magu yno. Mae wedi ei baentio mewn arddull sydd â dylanwad trwm llestri Kakiemon o Siapan yr ail ganrif ar bymtheg arni.  Mae’r berthynas a fu rhwng Tsieina a Siapan, lle ddyfeisiwyd porslen gyntaf, ac Ewrop hefyd yn stori ddifyr. Gwnaed porslen yn y Gorllewin am y tro cyntaf ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif, dros fil o flynyddoedd ar ôl Tsieina. Felly, fe wnaed y tebot pan oedd cynhyrchu porslen yn dal  i fod yn dechneg eithaf newydd yn ffatri Caerwrangon, a gychwynnodd yn 1751. Mae’r rhybedion metel sy’n dal y corff wrth ei gilydd yn awgrymu hyn - roedd tywallt dŵr berwedig i mewn i debot newydd yn amlygu’r diffygion cynnar wrth danio’r porslen, ond roedd gwerth a dengarwch y tebot bach yn ei wneud yn werth ei drwsio.”

Gan esbonio pam dewisodd y bowlen meddai:

“Mae’r bowlen hardd hon yn rhoi pleser i mi’n gyson. Rwy’n hoff iawn o’i siâp a’i lliw, ac yn dotio at ei chymesuredd, a hefyd natur unigol y blodau a baentiwyd â llaw o amgylch ochr allanol y bowlen bron i 500 o flynyddoedd yn ôl.”

A hithau’n gyn ddarlithydd mewn coedwigaeth, mae Pat Denne yn curadu’r casgliad coed a phren wedi’i ddifrodi. Meddai:

“Fy hoff bren yw’r pren sandal coch, nid yn unig oherwydd y cysylltiad lleol gan fod y darn yma wedi ei godi o waelod y môr oddi ar Ben y Gogarth, ond hefyd oherwydd  ei raen llyfn a’i liw coch dwfn. Roedd yn cael ei brisio’n fawr ar un adeg i’w ddefnyddio i lifo gwlân, ond erbyn hyn mae’n cael ei smyglo gan ei fod yn hynod werthfawr i wneud eitemau addurniadol drudfawr.”

Mae Helen Simpson, technegydd yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, hefyd yn cynorthwyo gyda’r casgliad, ynghyd â Sian Turner, cyn- fyfyriwr PhD. Meddai Helen:

“Rwy’n meddwl bod morgrug gwyn yn wefreiddiol yn y modd y maent yn trefnu eu hunain i greu tomen fyw hyd at 6 medr o uchder ac mae’r dinistr y gallant ei achosi i adeiladau yn ddychrynllyd!

Dewisodd Stina Homer, myfyrwraig doethuriaeth mewn ethnogerddoreg yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, eitem ar gyfer yr arddangosfa.

Meddai: “Enillais grant AHRC fis Medi 2015, ac rwy’n gweithio ar y cyd efo Storiel. Fy mhwnc yw casgliad o arteffactau cerddorol hynafol o Fecsico a gasglwyd gan Peter Crossley-Holland ac sydd bellach ym Mhrifysgol Bangor. Mae 329 eitem i gyd, ond dewisais un ar gyfer yr arddangosfa: ocarina bach. Mae ar ffurf môr-grwban anthropomorffig -  fe’i galwodd Crossley-Holland o yn “ddyn môr-grwban”. Mae’n debyg ei fod yn cynrychioli dyn sydd yn troi’n anifail yn ystod defod, neu ddyn yn gwisgo gwisg môr-grwban ar gyfer seremoni. Roedd cyswllt cryf rhwng celf, crefydd a natur yng ngorllewin Mecsico ganrifoedd yn ôl ac mae’r ocarina yn enghraifft berffaith o hyn.

“Mae’n un o fy ffefrynnau oherwydd ei fod yn llawn cymeriad. Mae tua 2000  o flynyddoedd oed o ardal arfordirol gorllewin Mecsico sydd bellach yn nhalaith Colima. Mae personoliaeth a medrusrwydd y gwneuthurwr yn dod i’r amlwg drwy’r manylion yn y  corff a’r addurniadau manwl.”

Meddai Elen Wyn Simpson, Archifydd y Brifysgol:

“Dewisais Of Gardens, An Essay  gan Frances Bacon, gan ei bod yn enghraifft wych o lawysgrif addurnedig  fodern o’r ugeinfed ganrif. Mae’r rhwymiad addurnol gemog, sy’n dangos dau baun, yn ddigon i fynd â’ch gwynt i ffwrdd, tra bod y tudalennau o femrwn wedi cadw yn dda ac  wedi’u haddurno mewn lliwiau llachar.

Mae’r ffaith ei bod unwaith yn eiddo i Syr John Morris-Jones, Athro Cymraeg Prifysgol Bangor, yn ychwanegu at ei phwysigrwydd.  Fel un o gewri bywyd llenyddol ei gyfnod, byddai yn sicr wedi gwerthfawrogi crefftwaith y caligraffydd a’r darlunydd, Alberto Sangorski.”

Meddai Sheila O’Neal, Cyfarwyddwr Datblygu yn Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol:

“Rydym yn falch o allu rhannu rhai o’r archifau, llyfrau prin ac arteffactau a roddwyd i’r Brifysgol fel adnoddau dysgu. Rydym yn gwerthfawrogi ein trysorau diwylliannol ac yn awyddus i’w rhannu mor eang ag sy’n bosib.

Mae rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr yn ein galluogi i wneud hyn yn ogystal â chefnogi myfyrwyr presennol gyda’u hastudiaethau.”  

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2018