Archif Newyddion: Mehefin 2017

Pencampwr Codi Pwysau Ewropeaidd yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees

Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Bencampwraig Codi Pwysau Ewropeaidd 2017. Dyfarnwyd y wobr i Chrystal Williams, 21, o Bolton gan ei bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor drwy ei llwyddiant personol ar lefel ryngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017

Cymdeithas Alzheimer yn ymrwymo bron i £2filiwn i chwyldroi ymchwil i ofal dementia

Mae Cymdeithas Alzheimer wedi cyhoeddi ar 20fed Mehefin ei bod wedi ymrwymo bron i £2filiwn i grŵp o brifysgolion a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prifysgol Bangor, fel rhan o'i buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn ymchwil gofal dementia. Arweinir y cynllun gan Brifysgol Caerwysg.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017

Pwy sy'n rholio'r dis gyda diogelwch bwyd?

Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr yn y Deyrnas Unedig o Brifysgol Manceinion, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Lerpwl, dan enw Project ENIGMA, wedi datgelu'r lefel o ymddygiad gwael mewn ceginau yn y Deyrnas Unedig sy'n cynyddu risg y cyhoedd o gael gwenwyn bwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017

Mae arlunwyr a phenseiri'n meddwl yn wahanol o'u cymharu â phobl eraill

Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o UCL a Phrifysgol Bangor wedi canfod bod penseiri, arlunwyr a cherflunwyr yn ystyried gofodau mewn ffyrdd gwahanol i bobl eraill.

Pan ofynnir iddynt siarad am ddelweddau lleoedd, mae arlunwyr yn fwy tebygol o ddisgrifio'r gofod dan sylw fel delwedd ddau-ddimensiwn, tra bod penseiri'n fwy tebygol o ganolbwyntio ar lwybrau a ffiniau'r gofod.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2017

Tech firms want to detect your emotions and expressions, but people don't like it

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Mc Stay, Darllenydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2017

The ATM at 50: how a hole in the wall changed the world

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo o’r Ysgol Busnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2017

Confidence can be a bad thing – here's why

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stuart Beattie, darlithydd Seicoleg  a’r Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017

How operational deployment affects soldiers' children

Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017

Welsh schools teach pupils to be bilingual, not restrict their education

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Peredur Webb-Davies Uwch-Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth Cymraeg yn yr Ysgol Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.


Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017

9bach a chyfeillion i berfformio yn Pontio yn ystod wythnos yr Eisteddfod

Wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol Môn agosau, mae Pontio wedi cyhoeddi y bydd 9bach a chyfeillion yn dychwelyd i Theatr Bryn Terfel i berfformio LLECHI, gwaith ar y cyd newydd sbon sy’n cynnwys agweddau gweledol, cerddorol ac awyrol ac wedi ei ysbrydoli gan thema’r chwarel a hanes Bethesda nos Lun 7fed a nos Fercher 9fed o Awst, 8pm.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o  gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Emily yn ennill gwobr Womenspire

Mae Gweinyddwr Prosiect M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, wedi ennill gwobr Womenspire gan Chwarae Teg.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Ysgolion lleol yn rhannu ‘Straeon Coll’ Bangor mewn gorymdaith syrcas

Bydd pum ysgol leol yn dod at ei gilydd mewn gorymdaith liwgar drwy Stryd Fawr Bangor am 1pm, ddydd Iau 20 Gorffennaf wrth i Pontio agor eu Gwledd Syrcas 2017, sef pob math o weithgareddau syrcas gyfoes dros 9 diwrnod ar ddechrau gwyliau’r haf.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

£1.8m o gyllid i astu daeth newydd o bwys ar reoli gwaedu ar ôl genedigaeth

Mae £1.8m o gyllid gan Sefydliad Cenedlaethol y DU dros Ymchwil Iechyd (NIHR) wedi ei ddyfarnu i gynnal astudiaeth o bwys ar drin gwaedu gyda chyffuriau ar ôl genedigaeth (COPE).

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2017

Project gwyddoniaeth Bangor yn ennill gwobr yr UE

Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan allweddol ohono, wedi ennill un o ddwy “wobr werdd” fel un o’r projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017

Cyfle i ddylunwyr ifanc arddangos eu gwaith

Mewn menter newydd, mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cyfle i ysgolion lleol ddangos gwaith gan eu dylunwyr gorau mewn Arddangosfa Dylunio a Thechnoleg arbennig.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017

Emily ar restr fer gwobr Womenspire

Mae Gweinyddwr Prosiect M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, ar y rhestr fer i wobr Womenspire gan Chwarae Teg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017

Prifysgol Bangor yn lansio Ystafelloedd Dosbarth Confucius

Bu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu lansiad swyddogol pum ystafell ddosbarth Confucius newydd yr wythnos hon gyda chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru a'r Llysgenhadaeth Tsieineaidd yn bresennol ynghyd â phlant ysgol lleol.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017

E-goeden gyda dail solar yn teithio i ŵyl Glastonbury

Bydd y rhai sy’n mynd i ŵyl Glastonbury eleni yn cael cyfle i weld e-goeden yn y  stondin ‘Rhyfeddodau Cudd y Goedwig’.

Cynhyrchwyd yr ‘e-goeden’ gan Dr Andy Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Nigel Fisher, Ceidwad Coedydd Wytham, a’i dîm ym Mhrifysgol Rhydychen. Bydd yr e-goeden yn ffurfio rhan o’r sioe deithiol ‘Sex & Bugs & Rock 'n Roll’  a grëwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Lancaster, ac a hyrwyddir gan y British Ecological Society, fel ffordd o ddod â gwyddoniaeth i’r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2017

Dwy wobr RCBC glodwiw i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor

Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor bod Robert Goldsmith, Ffisiotherapydd Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol wedi'i leoli yng Nghaerdydd, a Patricia Masterson-Algar, ymchwilydd ôl-radd ym maes adsefydlu yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, ill dau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu cyllid RCBC Cymru gan Lywodraeth Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2017

Dotio at Dot!

Mae fideo cerddoriaeth gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn prysur ddod i sylw’r byd; wrth ysgrifennu’r datganiad hwn mae dros 43,953 o bobl wedi gwylio 'Everybody Dances to Techno' gan Dot ar YouTube, ac mae'r sylwadau a'r negeseuon o gefnogaeth yn dod o bob cwr o'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017

'Facts are not truth': Hilary Mantel goes on the record about historical fiction

Dyma erthygl yn Saesneg gan Michael Durrant o’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017

Cefnogi'r cochion!

Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn gweithio efo partneriaid i gefnogi ail gyflwyno gwiwerod coch i Ddyffryn Ogwen, yng Ngwynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017

Cipolwg ar y gorffennol i dwristiaid o Ewrop

Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru’r gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i’w chwblhau'r flwyddyn nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017

Bwyd a Diod Gogledd Cymru yn mynd yn wyrdd gyda Cynnal Cymru

Mae pobl o'r sector bwyd a diod yng ngogledd Cymru, sector sy’n ffynnu, yn ehangu ac yn bwysig i’r economi leol, yn dod ynghyd am y tro cyntaf ddydd Mercher 5 Gorffennaf, 2017 ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer ‘digwyddiad dysgu a rhwydweithio’ gan Cynnal Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2017

Llongyfarch Myfyrwyr ar Eisteddfod lwyddiannus

Llongyfarchwyd y myfyrwyr hynny o’r Brifysgol a fu’n weithgar ac yn hynod lwyddiannus wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017

Ysgol y Gyfraith Bangor: uchaf yng Nghymru

Ysgol y Gyfraith, Bangor bellach yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd yn y Guardian University Guide ar gyfer 2018.

Mae'r Ysgol wedi codi i safle 23 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau a gynhwysir yn y tablau, ac yn ymddangos yn uwch nag ysgolion y gyfraith eraill yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017

Dewch i ddarganfod y byd ffermio yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes

Ddydd Sul, 11 Mehefin 2017 bydd Canolfan Ymchwil Henfaes (Fferm Prifysgol Bangor) ger Abergwyngregyn (LL33 0LB) yn agor ei giatiau i ymwelwyr ar gyfer Fferm Agored LEAF i arddangos y byd ymchwil amaethyddol ochr yn ochr â'r byd ffermio defaid masnachol.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2017

Rhwydwaith o wirfoddolwyr i weithio ar lannau o amgylch gwledydd Prydain yn yr haf eleni

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau arbennig y mis nesaf gydag aelodau o'r cyhoedd yn dod ynghyd i lunio darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.

Bydd gwyddonwyr yn gweithio gyda byddin hyfforddedig o 'wyddonwyr lleyg' yn ystod penwythnos "CoCoast Unite" a gynhelir rhwng Diwrnod Cefnfor y Byd, ddydd Iau 8 Mehefin a dydd Sul 11 Mehefin mewn lleoliadau ledled gwledydd Prydain. Bydd yr alwad hon i'r gad yn casglu gwybodaeth hanfodol am amrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau rhynglanwol sy'n byw ar ein glannau môr creigiog. Traeth Moelfre yn un o'r lleoliadau ledled gogledd Cymru a gwledydd Prydain lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn project "gwyddoniaeth leyg" er mwyn creu darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2017

Hwb ariannol i brosiect mentora iaith

Mae prosiect i godi proffil ieithoedd tramor modern wedi derbyn arian estynedig gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd disgyblion mewn mannau gwledig yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2017