Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2012
Sylw'r byd ar ddwyieithrwydd ym Mangor y penwythnos hwn
Bydd cant a hanner o arbenigwyr ar ddwyieithrwydd o'r DU a thramor yn cyrraedd Bangor y penwythnos hwn ar gyfer cynhadledd a drefnwyd gan Ganolfan Ddwyieithrwydd Prifysgol Bangor ar ' Rhyngweithio Dwyieithog ac Amlieithog '.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2012
Gŵyl gerddoriaeth electronig
Cyfle i fans cerddoriaeth wrando ar gerddorion cenedlaethol yn chwarae offerynnau rhyfedd a gwahanol yn ystod gŵyl gerddoriaeth electronig.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012
Mae myfyrwyr Menter trwy Ddylunio Bangor yn dangos eu sgiliau entrepreneuriaeth a’u cynnyrch arloesol yn ‘Ffau’r Ddraig’
Mae deugain o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill hyd at £10,000 o wobrau ariannol er mwyn datblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain yn barod i'r farchnad. Heriwyd myfyrwyr 'Menter trwy Ddylunio’ i ddylunio nwydd o’r syniad gwreiddiol i’r prototeip ac i roi cyflwyniad yn hyrwyddo’r cynnyrch i banel o feirniaid.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012
Cwrs Newydd: MA Gwaith Cymdeithasol
O Medi 2012, bydd Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor yn cynnig MA mewn Gwaith Cymdeithasol, yn amodol ar ddilysu gan Brifysgol Bangor a chydnabyddiaeth gan y Cyngor Gofal Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012
Cyn fyfyriwr Bangor wedi cael swydd gyda Theirw Coch Efrog Newydd.
oan Llewelyn, 31, from Llanfairpwll in Anglesey, who graduated from the School of Sport, Health, & Exercise Sciences at Bangor University, was recently selected from hundreds of applicants to join the New York Red Bulls' successful Academy structure.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2012
Myfyrwyr SENRGY yn cymryd rhan mewn Gweithdy BRAND
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2012
Santander yn cefnogi ymchwil iaith
Diolch i un o Ysgoloriaethau Santander bu Robat Trefor, un o fyfyrwyr ymchwil PhD Ysgol y Gymraeg , ar ymweliad â Gwlad y Basg yn ddiweddar, ac roedd yr Athro Peredur Lynch, ei gyfarwyddwr ymchwil a Phennaeth yr Ysgol, yntau’n rhan o’r ddirprwyaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012
Uned Dreialon Clinigol NWORTH yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ei bod yn buddsoddi mwy o Arian mewn Ymchwil ar Ddementia
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan David Cameron, mae NWORTH , Uned Treialon Clinigol Prifysgol Bangor, yn croesawu'r newyddion bod arian y DU ar gyfer ymchwil Dementia ar fin dyblu i £ 66m erbyn 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012
Arwain gydag e-lyfrau
Bydd gwaith arloesol staff Canolfan Bedwyr ym maes e-lyfrau Cymraeg yn cael lle blaenllaw ar y rhaglen Pethe ar S4C heno (26 Mawrth 2012).
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2012
Gwyddonwyr Bangor yn gofyn am gymorth i ganfod cnydau eiddew
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal dwy raglen ymchwil arloesol yn edrych ar wahanol ddefnyddiau ar gyfer eiddew brodorol ac yn gofyn am gymorth gan y cyhoedd wrth ddod o hyd i eiddew sy’n ffrwytho ac sydd mewn mannau sy’n hawdd ei hel.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2012
Taith y Sgriblwyr
Cafodd ysgolion o Sir Gonwy a Gwynedd brofi diwrnod ysbrydoledig o ddigwyddiadau gydag ysgrifenwyr ar y Daith y Sgriblwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2012
Chwarae’r Cornet dros Gymru
Mae myfyrwraig o Ysgol y Gymraeg Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop. Cafodd Ffion Haf Williams, sy’n y flwyddyn gyntaf yn astudio gradd yn y Gymraeg, ei dewis wedi iddi chwarae’r cornet mewn clyweliad i Fand Pres Ieuenctid Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2012
Prifysgol yn chwarae rhan wrth gludo’r Ffagl Olypmaidd ar ei thaith
Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o Brifysgol Bangor ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ym mis Mai. Mae'r Brifysgol hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu at yr awyrgylch carnifal a fydd yn y ddinas wrth i Fangor groesawu'r Ffagl ar ei thaith i’r Gemau Olympaidd. Fel rhan o'r dathliadau, mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cynllunio nifer o ddigwyddiadau ac adloniant yng nghanol y ddinas ac mewn mannau allweddol ar hyd llwybr y Ffagl.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2012
Termau addysg ar-lein
Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, yn lansio gwefan newydd Y Termiadur Addysg yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2012. Bydd y wefan www. termiaduraddysg.org yn cynnwys fersiwn newydd helaethach o’r llyfr termau poblogaidd a gyhoeddwyd yn 2006, a hefyd cymorth ychwanegol i ddysgu a chwilio am dermau safonol Cymraeg ar gyfer plant ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012
Myfyrwyr yn rhoi disgyblion ar ben ffordd
Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol Friars, Bangor, brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora. Nod y cynllun, sydd yn cael ei redeg gan Brifysgol Bangor, yw annog disgyblion i ddod i wybod mwy am brifysgolion a'u hystyried fel posibilrwydd i’r dyfodol. Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012
Marchnad Wanwyn llwyddiannus
Following on from the success of previous Christmas Markets, the B-Enterprising team at Bangor introduced a brand new event - a student ‘Spring Market’ which took place in PJ Hall on Friday 16 th March. Many new students as well, as returning stallholders from previous markets, demonstrated their enterprising skills and came forward with unique gift ideas - buyers were able to browse for original Mothers Day and Easter gifts.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012
Troi sbwriel yn arian parod: lladd dau aderyn ag un ergyd ym Mangladesh
Gellir defnyddio gwastraff trefol i ddarparu ffynhonnell werthfawr o faetholion ar gyfer priddoedd ffermio'n ddwys ym Mangladesh, gyda'r effaith o wella amaethyddiaeth a chynyddu cnydau, a chael gwared ar ddeunyddiau gwastraff budr o strydoedd y ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012
Grant Ymchwil i Ddeiliad Ysgoloriaeth y Coleg
Mae fyfyriwr ymchwil ym Mhrifsygol Bangor, sydd yn un o ddeiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi sicrhau grant ymchwil uchel ei fri gwerth €5,000 gan Sefydliad Hydradeg Ewrop (European Hydration Institute neu’r EHI). O dan nawdd y Coleg mae Julian Owen yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer lle mae’n ymchwilio ym maes Ffisioleg Ddynol ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012
Myfyrwyr ‘Menter trwy Ddylunio' Bangor yn mynd â’u sgiliau entrepreneuriaeth a’u cynnyrch i’r 'Dragons' Den '
Cynhelir cystadleuaeth ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon a all arwain at greu cynnyrch newydd i'r farchnad. Mae un cynnyrch o gystadleuaeth flaenorol eisoes yn mynd i gael ei werthu’n fasnachol. Yn y project peilot arloesi, Menter trwy Ddylunio 2012, bydd myfyrwyr yn ceisio gwerthu eu cynnyrch yn rownd derfynol y Gystadleuaeth a gynhelir ddydd Iau, 22 Mawrth am 6.30pm yn Adeilad Wheldon, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2012
Gall caffael preifat a chyhoeddus da gyfrannu at greu buddion lluosog
Gall polisïau caffael wedi eu hysgrifennu’n ofalus fod yn gymorth i awdurdodau lleol gyflawni amcanion megis sicrhau arbedion a chefnogi busnesau lleol, yn ôl yr Athro Dermot Cahill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2012
Danielle yn cynrychioli Chwaraeon Prifysgol Prydain yn Tsiena
Mae Danielle Giles wedi cael ei dewis yn un o bedwar cynrychiolydd o’r DU i'r 11 eg Fforwm FISU, a gynhelir yn Taipei City, Tsiena rhwng 26-31 Mawrth. Dilynnwch ei blog http://daniellegiles.tumblr.com/ i ddarllen am ei phrofiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2012
Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn llwyddiant ysgubol
Roedd cyfle i bobl o bob oedran ddathlu Wythnos Wyddoniaeth a Pheirianneg 2012 mewn steil yn ystôl ail Ŵyl Wyddoniaeth Bangor, a drefnwyd gan Brifysgol Bangor. Denodd yr Ŵyl gannoedd o bobl i Fangor i fwynhau digwyddiadau a oedd yn amrywio o ddarlithoedd cyhoeddus, cystadlaethau, digwyddiadau ysgolion, diwrnodau darganfod gwyddoniaeth a thaith ddaeareg.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2012
Milltir Ysbyty Gwynedd
Bydd cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan yn y ras Milltir Ysbyty Gwynedd flynyddol dydd Sul Mawrth 25ain o 12pm ymlaen i godi arian i Sport Relief. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Drac Athletau Arfon yng Nghaeau Chware Treborth, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012
Cynhadledd bwysig ar y gwyddorau cymdeithasol yn dod i Fangor
Bydd un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n ymwneud â materion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn teithio i Fangor wythnos nesaf. Bydd trydedd cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD ) yn dwyn ynghyd ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol, gwleidyddion, myfyrwyr ôl-raddedig a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus i archwilio themâu amserol sy’n effeithio ar gymdeithas yng nghyd-destun datganoli, lle a newid.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012
Penodiadau Lleol i Fwrdd Seafish y DU
Mae dau o Ogledd Cymru sy’n gweithio mewn proffesiynau su’n ymwneud â’r môr wedi cael eu penodi i Fwrdd Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (Seafish) gan y pedwar Gweinidog Pysgodfeydd y DU. Bydd Yr Athro Mike Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn aelod anweithredol o Seafish o 1 Ebrill 2012 tan 31 Mawrth 2015. Penodwyd ef yn gyntaf ac mae wedi gwasanaethu ar y Bwrdd ers 2008.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012
Lansio Elevate Cymru
Daeth dros 60 o fusnesau i lansiad hynod lwyddiannus y project arloesol Elevate Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. (Dydd Iau, 1 Mawrth).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012
Yn ôl adroddiad, gellid creu ffrydiau incwm newydd wrth dyfu'n fasnachol blanhigion gwyllt sydd dan fygythiad o’u gor-gasglu
Efallai bod dail palmwydd egsotig o goedwigoedd yn Belize, Canolbarth America, sydd yn eich tusw Sul y Mamau eleni. Mae eu hallforio ar gyfer y diwydiant trefnu blodau yn bygwth parhad un planhigyn yn ei gynefin gwyllt ac mae'n enghraifft o un o lawer o fygythiadau o'r fath i glystyrau o blanhigion gwyllt.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012
Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg
Gwahoddir ceisiadau gan Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau Efrydiaeth PhD AHRC mewn Archaeoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012
Dathlu llwyddiant myfyrwyr: Canlyniadau Ysgoloriaethau Mynediad yn cael ei cyhoeddi
O Landysul i Langollen, o Ruthun i Rugby - bydd myfyrwyr ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn rhannu gwobrau Ysgoloriaethau sydd werth dros £120,000 pan fyddant yn dechrau eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012
Noson i ddathlu agor neuadd JMJ yn ei gartref newydd
Bu staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu agoriad Neuadd John Morris Jones yn ddiweddar. Ar nos Lun, Mawrth 12fed fe agorodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro John G. Hughes, y neuadd ar ei newydd wedd yn swyddogol a bu’r gantores Meinir Gwilym, un o gyn-breswylwyr y neuadd, a chôr aelwyd JMJ yn perfformio rhai caneuon.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012
Prifysgol Bangor yn croesawu Central College
Croesawodd Prifysgol Bangor ddirprwyaeth o Central College, Iowa ym mis Mawrth. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i weld cyfleusterau’r Brifysgol, cyfarfod â staff ac ail-lofnodi cytundeb partneriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012
Efrydiaeth PhD AHRC mewn Astudiaethau Cyfieithu
Mae Ysgol Graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth PhD AHRC mewn Astudiaethau Cyfieithu, yn dechrau 1 Hydref 2012. Mwy o wybodaeth...
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012
Efrydiaeth PhD NERC mewn Sŵoleg
Mae'r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn cynnig efrydiaeth PhD wedi ei chyllido gan NERC a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2012
Her Ddiwylliannol
Dathlodd myfyrwyr rhyngwladol Prifysgol Bangor amrywiaeth a chydweithio diwylliannol yn ddiweddar (Sadwrn 3.03.12) gyda Her Ddiwylliannol llawn hwyl a chyffro. Trefnwyd y gystadleuaeth gan gymdeithas myfyrwyr Tsieineaidd Bangor (CSSA) a’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol. Roedd chwe thîm o ddau fyfyriwr o Tsieina a dau fyfyriwr rhyngwladol arall yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rownd o gyflwyniadau a chwis gwybodaeth gyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2012
Cyfle i ferched ifanc 'ddarganfod gwyddoniaeth'
Tracio DNA rhinoseros, creu dillad clwb nos electronig neu archwilio glannau creigiog- nid dyna’r ffordd y bydd genethod 14 mlwydd oed yn treulio’u boreau Sadwrn gan amlaf. Ond mae 25 o bobl ifanc wedi bachu ar y cyfle i dreulio’u Sadyrnau’n dysgu mwy am wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg mewn amgylchedd llawn gwybodaeth a hwyl drwy ymuno â Chlwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched. Mae hwn yn broject ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2012
Gwyddonwyr o Fangor i Gryfhau Gwarchodfa Fôr Fwyaf y Byd
Mae arbenigedd o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor – Ysgol o fri rhyngwladol – yn mynd i gyfrannu at fonitro ac arolygu gwarchodfa fôr fwyaf y byd, sy’n amgylchynu rhes o ynysoedd bach iawn yn Nhiriogaeth Brydeinig Ynysfor Chagos yng Nghefnfor India.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2012
Trydydd safle yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru i Nia
Daeth Nia Davies Williams, myfyrwraig MA mewn cerddoriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn drydydd yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru neithiwr (3.3.12)
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012
Mynd ag arbenigedd ffilm Iddewig o Gymru i Efrog Newydd
Mae Nathan Abrams, arbenigwr mewn ffilm a diwylliant Iddewig ym Mhrifysgol Bangor yn cyfrannu at ddigwyddiad unigryw yn Efrog Newydd mis Mawrth. Bydd tair ffilm yn cael eu dangos fel rhan o Jewish Tales from Wales ( Straeon Iddewig o Gymru) yn Efrog Newydd. Trefnir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Amgueddfa Treftadaeth Iddewig gyda chymorth gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012
Staff y Brifysgol i ddringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer elusen
Mae dwy aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer taith unwaith mewn oes i gofio am fachgen lleol a laddwyd mewn damwain ffordd. Bydd Emma Wynne-Hughes o Ysgol Busnes Bangor a Hazel Frost o’r Ysgol Seicoleg yn dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith a Chronfa Goffa Darren Rhys.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012
Myfyrwyr Bangor yn ‘Brolio’’u ffordd i lwyddiant yn her y Senedd
Mae tri myfyriwr o'r Ysgol Seicoleg wedi gwnaed argraff dda ar banel o brif farchnatwyr Cymru ac ennill cynnig busnes cystadleuaeth Brolio (The Pitch) yn ddiweddar (23 Chwefror), her a osodwyd gan Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) a Syniadau Mawr Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012
Cain i Gymru
Bydd cân a gyfansoddwyd gan fyfyrwraig yr Ysgol Gerdd i’w chlywed yng nghystadleuaeth Cân i Gymru eleni. Mae Nia Davies Williams o Aberdaron, sydd yn astudio MA ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd yr wyth olaf gyda’r gân Cain .
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2012
Myfyrwyr Bangor yn ‘Brolio’’u ffordd i lwyddiant yn her y Senedd
Mae tri myfyriwr o'r Ysgol Seicoleg wedi gwnaed argraff dda ar banel o brif farchnatwyr Cymru ac ennill cynnig busnes cystadleuaeth Brolio (The Pitch) yn ddiweddar (23 Chwefror), her a osodwyd gan Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) a Syniadau Mawr Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2012
Ysgoloriaethau ôl-radd cyfrwng Cymraeg ar gael
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2012