Archif Newyddion: Medi 2017

Gwyddonwyr yn galw am fwy o ymchwil i sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar wely'r môr

Mae grŵp o wyddonwyr o'r Deyrnas Unedig, a gydlynir gan Brifysgol Southampton, wedi cyhoeddi ymchwil helaeth ar y ffordd mae diwydiant a newid amgylcheddol yn effeithio ar welyau ein moroedd. Fodd bynnag, dywedant bod angen gwneud mwy o waith i helpu i ddiogelu'r ecosystemau cymhleth hyn a'r manteision y maent yn eu rhoi i bobl at y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017

North West Cancer Research yn neilltuo gwerth miliynau o bunnoedd o gyllid ymchwil canser ym Mhrifysgol Bangor

Mae'r elusen sy'n ariannu ymchwil canser yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu £1.34 miliwn i hyrwyddo ymchwil i ganser ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2017

Why we taught psychology students how to run a marathon

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2017

Prifysgol Bangor yn uchel yng ngraddau’r Times Higher Education ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau

Mae’r tabl celfyddydau a'r dyniaethau 2018 yn rhestru prifysgolion gorau’r byd ar draws eu cenhadaeth - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2017

Dydd barn i ymosodwyr morol

Gofynnir i wirfoddolwyr yng ngogledd Cymru helpu ymgyrch genedlaethol i dracio ymosodiad sy'n digwydd o gwmpas arfordir y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2017

Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso

Fis Medi, bydd Prifysgol Bangor unwaith eto yn croesawu myfyrwyr newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2017

Drysau’n agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol Bangor

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 16 Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2017

Prifysgol Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd

Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddir heddiw (dydd Mawrth, 5 Medi 2017).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2017

Documenting three good things could improve your mental well-being in work

Dyma erthygl yn Saesneg gan Kate Isherwood, myfyrwraig PhD gyda'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2017

Cloriannu ymaddasu esblygiadol - ydi'n modelau'n gywir?

Un sialens sy'n wynebu gwyddonwyr yw amcangyfrif sut y bydd ein hamgylchedd, a'r we gymhleth o greaduriaid sydd ynddo, yn ymateb i newidiadau yn eu hamgylchedd o ganlyniad i newid hinsawdd neu ddylanwadau dynol eraill.

Yn draddodiadol, er mwyn asesu sut y bydd rhywogaethau'n esblygu dros gannoedd o genedlaethau, mae gwyddonwyr wedi ystyried fesul un neu mewn parau elfennau ecolegol sy'n achosi newid yn yr amgylchedd. Mae'r elfennau hyn yn cynnwys pethau fel cynnydd mewn tymheredd, cynnydd mewn CO2 neu newidiadau mewn plaleiddiaid neu wrteithiau.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2017

What language tells us about changing attitudes to extremism

Dyma erthygl yn Saesneg gan Josie Ryan, myfyrwraig PhD gyda'r Ysgol Ieithyddiaith ac Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2017