Archif Newyddion: Hydref 2017

Allwn ni stopio newyddion ffug yn y 10 mlynedd nesaf?

Mae Vian Bakir (Athro Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor) yn besimistaidd, ond mae'n ein hannog i beidio â rhoi'r ffidil yn y to. Ar y llaw arall mae Andrew McStay (Athro mewn Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor) yn fwy gobeithiol.

Wrth siarad yn ddiweddar yn y gynhadledd CommsCymru ar ymddiriedaeth, rhoddodd Bakir olwg ar y gwahanol atebion i ddatrys newyddion ffug a gafwyd yn y 79 cyflwyniad a wnaed i ymchwiliad presennol llywodraeth y Deyrnas Unedig i newyddion ffug.  (Ysgrifennwyd yr arolwg hwn o atebion a gynigiwyd ar y cyd gydag Andrew McStay.)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017

Rhoi tlodi o dan y chwyddwydr

Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cyfuno trafodaethau a drama er mwyn rhoi sylw i dlodi mewn digwyddiad cyhoeddus ddydd Mercher 8 Tachwedd.

Bydd ‘Poverty: Local, National and International’ yn rhoi sylw i waith arloesol gan academyddion a myfyrwyr yn yr Ysgol, sydd yn dangos sut  mae tlodi yn effeithio ar hunaniaeth pobol ac yn llywio eu bywydau. Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos o weithgareddau Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas sy’n digwydd ar draws Prydain dan nawdd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017

Beth sydd yn achosi i redwyr marathon a chwaraeon eithafol eraill ddal annwyd?

Bydd rhai o’r rhedwyr ym Marathon Eryri eleni (28 Hydref), sy’n cael ei ddisgrifio fel un o marathonau caletaf yn Ewrop, yn helpu ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor gyda’u hymchwil.

Mae ffisiolegwyr ymarfer corff yn yr Ysgol yn awyddus i ddysgu pam fod rhai rhedwyr i’w gweld yn fwy tebygol o fynd yn sâl neu deimlo’n wael ar ôl rhedeg marathon neu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarfer corff eithafol, tra bo rhedwyr eraill yn aros yn iach.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2017

Entrepreneur ifanc o Fangor yn credu bod digon o bysgod yn y môr

Mae myfyriwr 20 oed o Brifysgol Bangor yn defnyddio ei angerdd dros fioleg y môr i wireddu ei uchelgais o ddod y cyflenwyr ar lein mwyaf o rywiogaethau o bysgod byw yng ngwledydd Prydain.  

Bydd Sam Hamill, sydd ar ei drydedd flwyddyn o astudio Bioleg y Môr, yn lansio ei Big on Fish fis Tachwedd, siop ar lein ac ar y stryd yn gwerthu offer acwariwm ac yn cadw mwy na 1100 o rywogaethau o bysgod egsotig a chwrel.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC

Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC yn ôl ym Mangor am ei hail flwyddyn. Mae’r wythnos o ddathlu gwyddoniaeth gymdeithasol yn digwydd yn flynyddol ar draws y DU. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus y llynedd, mae Prifysgol Bangor eto eleni yn cynnal dau ddigwyddiad  er mwyn ymuno â’r dathliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017

Y Gymraeg ar Daith

Mae Ysgol y Gymraeg yn rhan o gynllun cenedlaethol uchelgeisiol i godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion ysgol o astudio Cymraeg ar gyfer lefel ‘A’ ac yn y brifysgol. Yn ystod mis Tachwedd bydd bron i 2000 o ddisgyblion mewn 40 ysgol uwchradd yn elwa ar y cynllun drwy gyfres o ymweliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017

Ymchwil i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd system fwyd y Deyrnas Unedig ymhellach

Mae Prifysgol Bangor i dderbyn a rheoli cyfran o raglen Diogelwch Bwyd Byd-eang y Deyrnas Unedig - cyllid o £4.9 miliwn at ymchwil ryngddisgyblaethol i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd system fwyd y DU. 

Dyfarnwyd dros £1.5 miliwn i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor.  Dan arweiniad Yr Athro Paul Withers, bydd tîm rhyngddisgyblaethol blaenllaw o wyddonwyr bioffisegol ac economaidd-gymdeithasol, ynghyd ag ystod eang o fudd-ddeiliaid o'r DU, yn ymchwilio sut i wneud y defnydd cynaliadwy gorau o ffosfforws yn system fwyd y DU. 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2017

Datrys sut mae clefyd cymhleth yn bygwth ein coed derw eiconig

Y dulliau gwyddonol diweddaraf yn datgelu achos aml-facteriol gwaedu boncyff mewn dirywiad aciwt coed derw a dulliau newydd o ddadansoddi achosion clefydau cymhleth planhigion

Mae gwaith tîm rhwng Forest Research, Prifysgol Bangor ac eraill wedi llwyddo i olrhain achosion symptomau gwaedu boncyff o'r bygythiad newydd hwn i goed derw brodorol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017

Dr Yue o Brifysgol Bangor ar restr fer am y Wobr Newton bwysig

Mae Dr Liyan Yue o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor wedi cael ei roi ar y rhestr fer am Wobr Newton 2017 am ei broject yn adeiladu system argraffu metaddeunydd cydraniad uwch 3D.

Mae'r wobr yn gronfa flynyddol o £1 filiwm a ddyfernir i'r ymchwil neu waith arloesol gorau sy'n cefnogi datblygiad economaidd a lles cymdeithasol gwledydd sy'n datblygu.  Fe all Dr Yue ennill hyd at £200,000 o'r wobr i'w ddefnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu'r gwaith ymhellach.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017

Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD

Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell.

Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness, gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017

A all seicoleg helpu chwaraewyr academi pêl-droed i hybu eu potensial i'r eithaf?

Mae seicolegwyr chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Manchester City i adnabod a deall y nodweddion seicolegol sy'n helpu chwaraewyr ifanc academi i gyflawni eu potensial.

Dros y pedair blynedd nesaf dilynir hynt chwaraewyr academi Manchester City fel rhan o'r project ymchwil unigryw hwn.  Mae hyfforddwyr City eisoes wedi nodi'r nodweddion seicolegol y maent hwy'n credu sy'n allweddol i ddatblygu doniau, a chaiff y rhain eu monitro a'u hasesu'n rheolaidd.  Caiff y graddau y maent yn darogan gwelliannau yn lefelau perfformiad yn ystod yr amser hwn ei gloriannu.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017

Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth y DU yn ymweld â’r Brifysgol

Croesawodd Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor Dr Thérèse Coffey AS yn ddiweddar, a gymerodd ran mewn paneli trafod gyda staff a myfyrwyr sy’n ymwneud â rhaglenni coedwigaeth yr Ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017

Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi y North West Nuclear Arc Consortium, ac i gymryd rhan fel partneriaid mewn dau archwiliad arall.

Bydd deuddeg Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi yn mapio cryfderau ymchwil, arloesi ac isadeiledd lleol.  Bydd Prifysgol Bangor yn arwain archwiliad i'r North West Nuclear Arc Consortium, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, North West England LEPs, Dalton Institute Prifysgol Manceinion, a'r National Nuclear Laboratory. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017

Cyn-fyfyrwyr yn ymweld â Safle’r Santes Fair 60 mlynedd ers dechrau yno

Bu 13 o gyn-fyfyrwyr yn ymweld â phentref llety Santes Mair ar ei newydd wedd yn ddiweddar. Yn ogystal â mwynhau hel atgofion am yr hen ddyddiau, roeddent hefyd wrth eu bodd yn gweld sut mae'r safle wedi cael ei ddatblygu'n ddiweddar gan y brifysgol.

Roedd y grŵp o ffrindiau i gyd yn gyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Santes Fair, Coleg Hyfforddi Athrawon, a ddaeth yn rhan o Brifysgol Bangor yn ddiweddarach.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2017

Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’

Bydd syniadau arloesol ar sut i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y Gymuned yn cael eu rhannu mewn Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’ nos Fercher 25ain o Hydref, 6.30-8yh, yng Nghanolfan Popdy Menter Iaith Bangor, Lôn Bopty, Bangor.

Yn ystod y drafodaeth bydd arbenigwyr sydd yn ymwneud â hybu’r Gymraeg yn gymunedol, ar lefel lleol a chenedlaethol, yn rhannu syniadau newydd sy’n cael eu defnyddio gan grwpiau cymunedol a busnesau.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2017

Dadansoddi digwyddiadau diweddar yng Nghatalunya yng nghyd-destun hanes Sbaen yn y 21 Ganrif

Efallai fod y terfysg a welwyd yn sgil refferendwm annibyniaeth Catalunya ar gychwyn y mis, a’r streic gyffredinol a ddilynodd hynny, wedi peri syndod i rai ond nid i’r rhai hynny sy’n fwy cyfarwydd â hanes gwleidyddiaeth Sbaen.

Yn ôl Dr Helena Miguélez-Carballeira o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, dylid edrych ar ddigwyddiadau cyfoes a’u hystyried oddi mewn i gyd-destun mwy hanesyddol ei naws.

Mae Dr Miguélez-Carballeira wedi trefnu digwyddiad ar gyfer myfyrwyr a’r cyhoedd er mwyn gosod y digwyddiadau hyn yn eu cyd-destun gwleidyddol a hanesyddol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017

Gwirfoddoli yn ffordd o fyw i Elan

Mae Elan Môn Gilford, myfyrwraig o Lanfairpwll sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn un o blith ond 20 o bobl ledled y byd sydd wedi derbyn Gwobr Etifeddiaeth Diana (Diana Legacy Award) am waith gwirfoddol.

Rhoddir y Wobr yn enw’r Dywysoges Diana i bobl ifanc sydd yn gosod esiampl wrth roi o’u gwirfodd er mwyn trawsnewid bywydau eraill. Mae’r wobr yn cydnabod pobl ifanc sydd yn mynd y tu hwnt i’w bywydau dyddiol hwy er mwyn creu a chynnal newid positif.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017

Hanesion Cudd

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol archebu lle mewn ysgol undydd Hanesion Cudd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd. 

Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am hanes, archaeoleg a phensaernïaeth Prifysgol Bangor.   

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017

Cydnabod Cyfraniad Oes

Derbyniodd Gwerfyl Roberts, Uwch-Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Wobr Cyfraniad Oes yn ystod Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau 2017 Llywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Mae Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2017

Project celfyddydau enfawr yn newid canfyddiadau mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Mae project celf cyfranogol sy'n cynnwys 122 o gartrefi gofal ar draws Cymru (bron 20% o'r cyfanswm) wedi dod â newidiadau sylfaenol iawn i'r ffordd mae staff yn edrych ar rai o'u preswylwyr mwyaf bregus. Dyna oedd un o ddarganfyddiadau allweddol gwerthusiad o broject cARTrefu Age Cymru a gyflwynwyd i weinidogion ac Aelodau Cynulliad mewn dathliad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref 2017).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017

WAW! Wythnos Am Wastraff

Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor ynghyd â sefydliadau lleol a chenedlaethol, wedi bod allan yn glanhau'r strydoedd a'r campysau ar draws Bangor, gan godi ymwybyddiaeth a rhannu syniadau am ailddefnyddio ac ailgylchu yn ystod Wythnos Am Wastraff

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2017

Investing in warmer housing could save the NHS billions

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nathan Bray, Swyddog Ymchwil  Mewn Economeg Iechyd, Eira Winrow, Myfyrwraig ymchwil PhD  a Swyddog Cefnogi Project Ymchwil, a Rhiannon Tudor Edwards, Athro Economeg Iechyd, i gyd o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017

Ymchwil yn dangos sut gall gwelliannau i dai arwain at fanteision iechyd

Yn ôl economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor gall tai cynhesach wella iechyd tenantiaid tai cymdeithasol a lleihau defnydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.   

Gan weithio gyda chymdeithas dai Gentoo a Nottingham City Homes, fe wnaeth economegwyr iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r Brifysgol werthuso'r costau a'r canlyniadau'n gysylltiedig â gwelliannau i dai cymdeithasol. Daeth i'r amlwg bod cyswllt rhwng tai cynhesach a gwell iechyd i denantiaid tai cymdeithasol a llai o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd.  

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017

Darlithydd o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis fel Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert

Mae Owen Davies o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gydnabod yn arweinydd byd-eang mewn defnyddio technoleg i drawsnewid addysg trwy gael ei enwi'n Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert, gan ymuno â dros 6,700 o addysgwyr yn y rhaglen MIE ledled y byd. 

Bob blwyddyn mae Microsoft yn dewis addysgwyr arloesol i rannu syniadau, rhoi cynnig ar dulliau gweithredu newydd, a dysgu oddi wrth ei gilydd fel cymuned fyd-eang sydd wedi ymroi i wella canlyniadau myfyrwyr trwy dechnoleg.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017

Five-country survey of carers highlights continuing delays in dementia diagnosis across countries

 Nid yw'r datganiad yma, a gyhoeddwyd heddiw gan Alzheimer Europe ar gael yn y Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017