Archif Newyddion: Mawrth 2019

Gwaith yn dechrau ar gae 3G bob-tywydd

Mae’r gwaith wedi dechrau ar greu cae 3G bob-tywydd newydd ar safle Prifysgol Bangor yn Nhreborth.

Bydd y cae yn darparu cyfleusterau rygbi a phêl-droed drwy gydol y flwyddyn i dimau myfyrwyr yn ogystal â bod ar gael i'w llogi gan y gymuned leol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2019

New study models the proposed reintroduction of the Eurasian lynx to Scotland

Datganiad i'r wasg gan Brifysgol Stirling.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2019

New study calculates alcohol cancer risk in cigarette equivalents to help communicate risk

Mae’r Athro Mark Bellis o’r Coleg Gwyddorau Dynol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019

Treial i ateb penbleth trin epilepsi plant

Mae un o'r treialon clinigol mwyaf erioed mewn plant ag epilepsi, sydd newydd gael ei lansio, yn ceisio darganfod pa driniaeth sy'n gweithio orau i blant a'u teuluoedd. Arweinir y treial CASTLE cenedlaethol gan yr Athro Deb Pal o King's College Llundain a'r Athro Paul Gringras o Ysbyty Plant Evelina Llundain, mewn cydweithrediad â'r Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor. Dyma'r unig dreial i gymharu cyffuriau gwrth-epileptig gyda monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019

Dwy o Brifysgol Bangor ar Restr Fer Gwobrau Merched Cymru

Mae dwy o Brifysgol Bangor wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau newydd Gwobrau Merched Cymru 2019. Mae Clare Wilkinson a Debbie Roberts, ill dwy o Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol, wedi eu gosod ar y rhestr fer am eu Gwasanaethau i Addysg.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019

FFIT Cymru yn ôl am ail gyfres – a Mared yn arwain y ffordd!

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019

Yr Athro John Ashton yn cael ei ethol i gyngor gweithredol BAFA

Mae academydd yn Ysgol Busnes Bangor wedi cael ei benodi i gyngor gweithredol un o'r cymdeithasau academaidd hynaf ym maes cyllid yn y DU.

Cafodd yr Athro John Ashton, sy’n Athro ym maes Bancio, yr anrhydedd yn dilyn cael ei ethol yn Gadeirydd Grŵp Diddordebau Arbennig Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol o fewn y British Accounting and Finance Association (BAFA) ehangach.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019

Dwy fyfyrwraig leol yn cipio Gwobrau Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol

Mae dwy fyfyrwraig leol wedi derbyn Gwobrau Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor eleni.

Dan gynllun arloesol Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, mae myfyrwyr ail a thrydedd blwyddyn yn cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddynt ymdopi â bywyd prifysgol. Mae’r cynllun wedi ei gynnal yn y Brifysgol ers dros 20 mlynedd, ac mae’n un o’r ffyrdd y mae’r Brifysgol yn sicrhau amgylchedd gefnogol i’w myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2019

Myfyrwraig Bangor yn Frwd am Ffilmiau Disney

Wrth i Disney baratoi ar gyfer rhyddhau y cyntaf o dri fersiwn newydd o’i ffilmiau eleni, mae gan Megan Rainbird, myfyrwraig o Brifysgol Bangor ddiddordeb arbennig yn y ffilmiau newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2019

Prifysgol Bangor yn sicrhau £9 miliwn o gyllid gan yr UE i ehangu cynllun ymchwil

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd prosiect ymchwil ac arloesi mawr sy'n dod â myfyrwyr ôl-raddedig a busnesau yng Nghymru at ei gilydd yn ehangu, ar ôl derbyn dros £9 miliwn o gyllid ychwanegol gan Ewrop.

O dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae'r Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS II) wedi bod yn gweithredu yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac mae'n cysylltu partneriaid busnes â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu ymchwil arloesol sydd â'r nod o ysgogi twf busnes.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2019

Snake venom can vary in a single species — and it’s not just about adaptation to their prey

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Wolfgang Wüster o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Giulia Zancolli, bellach yn Université de Lausanne sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Mae fersiwn Cymraeg o#n datganiad i'r wasg ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/news/ymchwil/gwrthbrofi-r-cysylltiad-rhwng-gwenwyn-nadroedd-ac-ysglyfaeth-40110

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2019

Effective communication and engagement with businesses critical to making Wales’ new tax system a success, suggests new report

Datganiad i’r wasg gan gorff allannol sydd ddim ar gael yn y Gymraeg.

 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019

Un Byd ym Mangor

Dychmygwch noson o offerynnau traddodiadol, dawnsfeydd bywiog a lleisiau hyfryd o bob cwr o'r byd.

Dyna a gafwyd yn ddiweddar wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei Gala Un Byd blynyddol, lle mae myfyrwyr a pherfformwyr o’r gymuned leol yn arddangos eu diwylliannau ar gân, dawns a chyda pherfformiadau offerynnol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019

‘Why write the history of Wales – then and now?’: darlith gyhoeddus gan hanesydd blaenllaw

Ar adeg pan fo'r cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru yn bwnc trafod cyhoeddus yng Nghymru, mae'n amserol ystyried dulliau o ysgrifennu hanes Cymru, yn y gorffennol pell ac yn fwy diweddar.  Bydd yr hanesydd blaenllaw o Gymro, yr Athro Huw Pryce, yn trafod y pwnc hwn ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 25 Mawrth am 6pm, yn Ystafell Ddarlithio 4 Prif Adeilad y Celfyddydau.  Mae croeso i bawb i'r ddarlith, sy'n dwyn y teitl 'Why write the history of Wales – then and now?'.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2019

Gwrthbrofi’r cysylltiad rhwng gwenwyn nadroedd ac ysglyfaeth

Mae'r hyn oedd yn datblygu i fod yn rhagdybiaeth gyffredin ymhlith herpetolegwyr, sef bod cyfansoddiad gwenwyn nadroedd fel rheol yn adlewyrchu amrywiaeth eu hysglyfaeth, wedi cael ei wrthbrofi mewn un rhywogaeth gyffredin o nadroedd rhuglo Gogledd America.

Roedd nifer o astudiaethau diweddar wedi nodi cysylltiadau rhwng y math o ysglyfaeth a'r math o wenwyn a oedd wedi esblygu mewn rhywogaethau o nadroedd gwenwynig ledled y byd. Credwyd bod hyn yn adlewyrchu dethol naturiol er mwyn cael y gwenwyn gorau i wahanol fathau o ysglyfaeth, ac weithiau'n 'ras-arfau' esblygiadol rhwng rhywogaethau o nadroedd ac ysglyfaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019

Gwyliwch y bwlch: Gwahaniaethau mewn agweddau at iechyd a gwella iechyd ar draws y gymdeithas yng Nghymru

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn amlygu gwahaniaethau amlwg o ran barn sy'n ymwneud ag iechyd rhwng pobl yng Nghymru yn dibynnu ar eu hoedran a'u cyflogaeth, a sut y maent yn byw eu bywydau.

Roedd pobl a ddywedodd eu bod yn teimlo'n iach yn fwy tebygol o gytuno (59 y cant) y dylai'r GIG wario llai ar drin salwch a mwy ar ei atal na'r rhai a ddywedodd eu bod yn teimlo'n llai iach (46 y cant) - a allai deimlo mwy o angen am driniaeth iechyd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019

#IWD2019 ym Mhrifysgol Bangor

Ar 8 Mawrth, ymunodd Prifysgol Bangor yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019 (#IWD2019) trwy gynnal digwyddiad cyffrous a oedd yn amlygu gyrfaoedd a chyfraniadau menywod mewn swyddi arweinyddiaeth ym Mangor a'r cyffiniau, yn ogystal â darparu fforwm ledled y Brifysgol ar gyfer trafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb rhyw sy'n effeithio ar staff a myfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019

Prifysgol Bangor ar wyth rhestr fer am wobrau Whatuni Student Choice 2019

Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer wyth o 15 Gwobr eleni yn y Whatuni Student Choice Awards 2019. Mae'r enwebiadau wedi eu seilio ar yr adolygiadau rhagorol a barn myfyrwyr y Brifysgol eu hunain.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2019

Baner y Gymanwlad

Fel nifer o sefydliadau ar draws Prydain, mae'r Brifysgol wedi codi baner y Gymanwlad i nodi Gwyl y Gymanwlad.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2019

Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn arwain y DU wrth sicrhau ynni glân

Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yw'r ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu ymchwil a pheirianneg niwclear yn y DU, yn ôl adroddiad Archwilio a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd heddiw.

Dengys yr adroddiad nad oes gan unman arall yn Ewrop y fath arbenigedd niwclear, gyda mynediad heb ei ail i sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2019

Beth sydd yn y pridd o dan ein traed?

Mae myfyriwr o Ganada, sydd â gwreiddiau Cymreig, yn torri tir newydd yn ei ymchwil i asesu beth yn union sy'n byw yn y pridd Cymreig o dan ein traed.

Mae Paul George, myfyriwr PhD sy'n astudio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), wedi cyhoeddi ei ymchwil heddiw (7 Mawrth 2019) yn Nature Communications.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019

Llygredd microblastig yn gyffredin mewn llynnoedd ac afonydd Prydain yn ôl astudiaeth newydd

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear wedi canfod llygredd microblastig mewn rhai o'r afonydd a'r llynnoedd mwyaf eiconig a phellennig ym Mhrydain.

Credir mai'r astudiaeth hon yw'r cyntaf o'i math, ac edrychodd ar ddeg safle yn cynnwys llynnoedd yn Ardal y Llynnoedd, dyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Loch Lomond a Trossachs, gwlyptir a chronfa ddŵr yng Nghymru - a chanfuwyd microblastig ym mhob un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019

Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig Bangor

Mae Athro o Brifysgol Bangor yn Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig BangorCaiff yr arddangosfa, map ac ap sy'n olrhain hanes Iddewig Bangor ei lansio y mis yma.

Teitl yr arddangosfa a'r map yw Hanes Iddewig Bangor, ac mae'n dathlu hanes yr Iddewon ym Mangor o'r canoloesoedd hyd at yr Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019

Diflaniad caeau reis yn bygwth rhagor o gynhesu byd-eang

Mae newid mawr wedi bod yn digwydd ar hyd a lled Tsieina, heb i ni sylwi. Mae caeau padi wedi bod yn cael eu troi'n byllau dyframaeth yn gyflym iawn, ac yn dal i gael eu troi, er mwyn cynhyrchu rhagor o brotein i boblogaethau'r byd sy'n tyfu. Mae'r perygl i'r newid hwn gael effaith annisgwyl ar gynhesu byd-eang.

Mae ymchwilwyr rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor, wedi canfod bod troi caeau reis i ddyframaeth yn rhyddhau symiau anferthol o'r methan nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019

Gweld y Goleuni - Ysbrydoliaeth Syr John Timpson

Mae Syr John Timpson o Sefydliad Timpson a chyn Prif Weithredwr grŵp siopau’r stryd fawr, Timpson Group, yn ymweld â Phrifysgol Bangor i draddodi Darlith Goffa Anne Marie Jones 2019, ddydd Mawrth 12 Mawrth rhwng 12.30 - 1.30pm.

Cynhelir darlith Syr John gan y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth Ysgol Seicoleg y Brifysgol. Fe’i cynhelir yn Neuadd Reichel, Safle Ffriddoedd, Ffordd Ffriddoedd, Bangor ac mae croeso i bawb.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019

Pencampwyr Eisteddfod Ryng-golegol am y pedwerydd tro yn olynol

Am y bedwaredd blwyddyn yn olynol, mae myfyrwyr UMCB Bangor wedi ennill yr Eisteddfod Ryng-golegol, a gynhaliwyd eleni ym Mhrifysgol Abertawe.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019

Pontio, Prifysgol Bangor yn derbyn ‘Civic Trust Award’

Enillodd Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, wobr arobryn ‘Civic Trust Award’ ar Ddydd Gwener, Mawrth 1af mewn seremoni arbennig i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r Civic Trust Awards yn yr Imperial War Museum North, Trafford, Manceinion.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019

Cennin Pedr i Ddydd Gŵyl Dewi

Mae blodyn cenedlaethol Cymru wedi cael swyddogaeth newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Gwener, 1 Mawrth), sef helpu gwyddonwyr i gael gwell dealltwriaeth o werth echdynion planhigion fel dewis arall i wrthfiotigau mewn bwyd anifeiliaid.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Rural College yn yr Alban (SRUC) wedi ymuno i ymchwilio i effeithiau echdynion cennin Pedr fel gwrthficrobaidd naturiol ar systemau treulio gwartheg a defaid.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019

Prifysgol Bangor yn rhan o gynllun cydweithredol gwerth £200m i greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr Deallusrwydd Artiffisial

Mae Prifysgol Bangor i gymryd rhan mewn ymgyrch newydd gyffrous i greu mil o ymchwilwyr ac arweinwyr busnes newydd. Cynlluniwyd y project i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn arwain y chwyldro byd-eang mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA). 

Bydd cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr PhD yn defnyddio technoleg DA i wella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu cyfleoedd masnachol newydd, diolch i fuddsoddiad o £100m gan UK Research and Innovation a gyhoeddwyd yn ddiweddar.  

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019