Archif Newyddion: Gorffennaf 2019

Brexit uncertainty boosts support for Welsh independence from the UK

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2019

Bydd Ellie yn y ras!

Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig wedi ei derbyn ar Ysgoloriaeth Peirianneg gwerthfawr o bwys.

Derbyniodd Ellie’r newyddion ei bod yn llwyddiannus wrth cael ei derbyn ar Raglen Ysgoloriaeth Women in EngineeringPrifysgolion Santander tra’n mynychu digwyddiad yn Silverstone yn ddiweddar. Cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr llwyddiannus gan Brif Weithredwr Santander UK, Nathan Bostock a'r llysgennad Jenson Button yng nghystadleuaeth fyd-eang 2019 Formula Student.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019

Ymchwil i ailgyflwyno'r Lyncs yn ennill gwobr myfyriwr y Deyrnas Unedig

Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Meistr y Flwyddyn gyntaf y Deyrnas Unedig i fyfyriwr y mae ei ymchwil wedi gwneud newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan wefan FindAPhD.

Cynhaliodd Thomas Ovenden, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Stirling, ei MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei broject ymchwil meistr ar botensial ailgyflwyno'r lyncs Ewrasiaidd, rhywogaeth sydd wedi diflannu ym Mhrydain ers dros 1,000 o flynyddoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019

Prifysgol gynaliadwy o'r radd flaenaf

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill 'Anrhydedd Dosbarth Cyntaf' am ei chryfderau o ran cynaliadwyedd gan People & Planet, y rhwydwaith mwyaf i fyfyrwyr yn y DU sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond 29 o'r 154 o brifysgolion yn y DU sy'n cael eu rhoi yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2019

Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia

Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. 

Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Blas ar Iaith

Cynhaliwyd Gwledd Iaith 2019 Llwybrau Cymru gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar, gyda chefnogaeth nifer o fyfyrwyr sy'n hyrwyddwyr iaith yn y brifysgol a grŵp o Lysgenhadon Iaith sy'n ddisgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Friars. Cymerodd pedair ysgol gynradd o ogledd Cymru ran yn y digwyddiad (Ysgol Sarn Bach, Ysgol y Santes Ffraid, Ysgol Abererch ac Ysgol Tudweiliog) a bu saith deg pedwar o ddisgyblion o flynyddoedd pump a chwech yn mwynhau'r gweithgareddau a oedd ar gael yn ystod y dydd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019

Alumnus y Flwyddyn 2019

Mae gan Brifysgol Bangor bron i 80,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ledled y byd, yn gweithio ym mhob maes a diwydiant y gallwch ddychmygu. Mae’r Brifysgol yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr ac, i dynnu sylw at hyn, bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn dewis Alumnus y Flwyddyn, gan anrhydeddu myfyriwr sydd wedi graddio ym Mangor ac sydd wedi rhagori yn ei faes, ac wedi parhau i ymwneud â'u alma mater. Ymhlith y rhai a dderbyniodd Alumnus y Flwyddyn gynt mae Gwilym Rees-Jones (Mathemateg, 1963), Dr Ross Piper (Sŵoleg, 1998) a Ray Footman (Hanes ac Athroniaeth, 1961).

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2019

Cyflymder Sillafu Syfrdanol Disgyblion

Daeth dros 30 o ddisgyblion blwyddyn saith o un ar ddeg o ysgolion ledled Cymru i Brifysgol Bangor  yn ddiweddar i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Spelling Bee Genedlaethol Cymru - Llwybrau at Ieithoedd, project cydweithredol rhwng pum prifysgol yng Nghymru, y pedwar consortiwm rhanbarthol a'r Cyngor Prydeinig i hyrwyddo dysgu iaith a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019

Prifysgol Bangor yn Dathlu'r Wythnos Raddio

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu wythnos arall o seremonïau graddio'r brifysgol yr wythnos hon (15-19 Gorffennaf 2019).

Bydd y brifysgol yn croesawu ffrindiau a theuluoedd myfyrwyr i ddeg seremoni dros bum niwrnod i gydnabod llwyddiannau graddedigion newydd y brifysgol. 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2019

How the brain prepares for movement and actions

Dyma erthygl yn Saesneg gan  myfyriwr PhD o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019

Tywydd poeth am gyfnod hir yn lladd mwy na dwy ran o dair o'r cwrel

Astudiaeth yn dangos y collwyd riffiau cwrel helaeth yng nghefnfor India rhwng 2015 a 2017  

Drwy gymharu riffiau cyn ac ar ôl dau gyfnod o dywydd poeth eithafol dim ond 12 mis ar wahân, darganfu tîm cydweithredol o ymchwilwyr, gan gynnwys gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor bod cwrelau caled byw yng Nghefnfor yr India wedi lleihau 70%. Er gwaethaf hyn, mae eu canlyniadau'n awgrymu bod rhai rhywogaethau cwrel yn fwy gwydn i dymheredd sy'n codi, sy'n cynnig gobaith i'r cynefinoedd hanfodol hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019

Sut gall eich dewis chi o ddiod bach yn y pnawn helpu i achub coedwigoedd law

Dyma'r adeg o'r flwyddyn i gael 'gin a tonic' oer gyda rhew yn y prynhawn. Efallai ein bod yn cwestiynu effaith gormod ohonynt ar ein hiechyd, ond beth yw ôl-troed amgylcheddol yr aperitif blasus a chlasurol hwn? Ymunodd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr gyda rheolwr distyllfa arloesol i ateb y cwestiwn hwn mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddonol Environment International.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2019

Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch

 

Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; “Ty'd 'laen, fedri di 'neud hyn!” neu “Dwi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!”

Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad â chi eich hun yn yr ail berson: “Ti angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad â chi eich hun yn y person cyntaf, “Dwi angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019

Y Celtiaid ar eu ffordd! Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu Cyngres Ryngwladol

Rhwng 22 – 26 Gorffennaf, bydd Prifysgol Bangor yn croesawu’r XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, gyda siaradwyr gwadd o bob cwr o'r byd yn cyfrannu at raglen yn llawn trafodaethau, seminarau a theithiau maes.

Mae'r Gyngres, a gynhelir unwaith bob pedair blynedd, yn brif fforwm rhyngwladol ar gyfer arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd a bydd ymweliad cyntaf y Gyngres â Bangor yn ddigwyddiad nodedig i'r sefydliad. Hyd yn hyn, mae cynrychiolwyr o ddim llai na 25 o wledydd, yn cynrychioli dros 100 o gyrff a sefydliadau academaidd, wedi cofrestru i fynychu'r Gyngres ym Mangor. Mae’r Gyngres ym Mangor wedi derbyn nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2019

Arbenigwyr a disgyblion ysgolion lleol i gyd-drafod Argyfwng Hinsawdd

Mae Prifysgol Bangor yn croesawu disgyblion o ysgolion lleol i Uwchgynhadledd yr Ifanc ar Newid Hinsawdd i'w chynnal yn y Brifysgol heddiw.

Wedi i’r Brifysgol ymuno â'r nifer o sefydliadau ledled y byd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r Brifysgol yn awyddus i weithio ar ddatrusiad ac mae’n angenrheidiol gwneud hynny ar y cyd â phlant a phobl ifanc Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer 'Myfyriwr PhD y Flwyddyn' mewn gwobrau newydd i ôl-raddedigion

Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Ashleigh Johnstone, o Douglas, Ynys Manaw, wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol newydd.

Roedd Ashleigh ymhlith dros 140 o fyfyrwyr PhD a enwebwyd ac mae ar y rhestr fer yn y dosbarth Myfyriwr PhD y Flwyddyn yn y gwobrau gan FindAMasters.com a FindAPhD.com.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Trafod Gwir Llew-Frenin y Gwyllt

Gyda Disney yn paratoi i ryddhau fersiwn newydd o’r ffilm The Lion King y mis yma, mae Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn edrych ar sut mae’r ffilm wreiddiol yn portreadu ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Ymgais 2019

Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Professor unveils the hidden story of Kubrick’s erotic final film

Mae arbenigwr ar Stanley Kubrick ym Mhrifysgol Bangor wedi cyhoeddi llyfr newydd sy'n datgelu stori gudd ffilm olaf ddadleuol y cyfarwyddwr, Eyes Wide Shut.

Y llyfr hwn Eyes Wide Shut: Stanley Kubrick and the Making of His Final Film, yw'r cyntaf i ymdrin yn fanwl â ffilm olaf Stanley Kubrick, a fu'n bur ddadleuol gyda'i golygfeydd rhywiol cynhyrfus.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019

Taith Hanes Hudolus

Dewch am 'Daith Hanes Hudolus' yn Ynys Môn yng nghwmni haneswyr o Brifysgol Bangor ddydd Sul 7 Gorffennaf.

Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn arwain taith wedi ei thywys trwy dirwedd hanesyddol yr Ynys. Dyma gyfle gwych i ddysgu am gyfoeth yr hanes sydd i'w gael dafliad carreg o'r brifysgol.  Bydd y daith yn mynd â chi i amryw o safleoedd, o feddrodau Neolithig i dai crwn Brythonig-Rufeinig a myntiau canoloesol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019

Alys Conran Wedi’i Henwi’n Gymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl Y Gelli 2019-2020

DATGANIAD GAN Gŵyl Y Gelli 

Mae’r nofelydd Alys Conran o ogledd Cymru wedi cael ei henwi’n dderbynnydd Cymrodoriaeth Ryngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli ar gyfer 2019-2020.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019

Prifysgol Bangor yn un o'r goreuon yn y DU o ran boddhad myfyrwyr

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor wedi ei rhestru yn y 10 uchaf o Brifysgolion anarbenigol y DU, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) diweddaraf.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019