Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Archif Newyddion: Chwefror 2020

‘This Is Who I Am’ – Mynediad Am Ddim

Bangor University’s School of History, Philosophy and Social Sciences are proud to be hosting a performance by Ice and Fire productions, part of the organisation Actor’s for Human Rights, that develops original theatre pieces from human rights testimonies and documentary evidence and are shaped by the people and communities who they work closely with.

This is Who I am’ will be performed in the Univeristy’s  Pontio, Room PL2 on Friday 13 March 2020 as 3.00- 4.30 and entry is free.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2020

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio am radd mewn unrhyw bwnc.

Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd â’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2020

‘The future of our oceans’ - darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg

Dyfodol ein cefnforoedd fydd yn cael sylw mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 4 Mawrth.  Y siaradwr fydd Jacqueline McGlade, Athro Gwytnwch a Datblygu Cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a Chymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor.  Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau.  Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.  Mae croeso i bawb. 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2020

Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2020 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae’r 23 llysgennad wedi’u lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pum ohonynt ym Mhrifysgol Bangor. Bydd Tegwen Bruce-Deans and Aled Siôn Storey Pritchard, o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Katy Williams a Briall Gwilym o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn a bydd Elan Duggan yn parhau am flwyddyn arall.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2020

Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil: pennod newydd

Yr wythnos hon lansiodd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD, cydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe), eu cynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil i’r gymdeithas sifil mewn digwyddiad i randdeiliaid yn y Senedd. Bydd eu hymchwil newydd yn edrych ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, mudo ac amlddiwylliannaeth, yr economi sylfaenol, deinameg newidiol gwaith, a hawliau anifeiliaid a deallusrwydd artiffisial.

Mynychodd dros 70 o bobl Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil – pennod newydd, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat, polisi a’r trydydd sector. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Mark Drakeford, AC, Prif Weinidog Cymru a’r Athro Alison Park, Cyfarwyddwr Ymchwil yn y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2020

Y Gwir Anrh. Jack Straw i draddodi Darlith Goffa'r Athro Duncan Tanner

Bydd Y Gwir Anrh. Jack Straw ym Mhrifysgol Bangor Ddydd Mawrth 18 Chwefror i draddodi Darlith Gyhoeddus.

Teitl darlith Y Gwir Anrh Jack Straw yw: Defeat from the Jaws of Victory: Labour’s Fatal Attraction. Mae’r ddarlith ar agor i’r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim. Mae nifer gyfyngedig o docynnau ar gael drwy wefan neu Swyddfa Docynnau Pontio (01248) 382828.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2020

Fffilmiau myfyrwyr yn cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau RTS Cymru

Mae ffilmiau gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi’u henwebu ar gyfer Gwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2020

Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor yn mis Chwefror i Ebrill 2020. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2020

Clefydau coed mewn coedwigoedd: mae atal yn well na gwella

Mae afiechydon newydd ar goed yn ymledu i goetiroedd ym Mhrydain ar raddfa gynyddol gan achosi mwy o ddifrod i gynhyrchu coed yn gynaliadwy a'r manteision niferus eraill a gawn o'n coedwigoedd.  Mae hyn yn destun pryder arbennig o ystyried ymrwymiad y Llywodraeth i gynnydd'n gyflym faint y coetiroedd a geir ym Mhrydain.   Nid ydym eisiau plannu miliynau o goed ac yna'u gweld yn cael eu difodi gan afiechydon.  

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor, Strathclyde, Caergrawnt, Glasgow a Warwick, yn ogystal â Sefydliad James Hutton, newydd gyhoeddi adolygiad ffurfiol llawn o'r holl dystiolaeth gyhoeddedig o bob cwr o'r byd tymherus ynghylch pa opsiynau ar gyfer rheoli coedwigoedd sydd fwyaf effeithiol yn erbyn afiechydon coed (Frontiers of Forestry & Global Change 3: 7. doi: 10.3389 / ffgc.2020.00007).  Mae hyn wedi dangos y gall mesurau a gymerir ar ôl i bathogen oresgyn coedwig (megis torri coed a heintiwyd neu rai sy'n debygol o gael eu heintio) wneud dim ond arafu lledaeniad yr afiechyd yn y goedwig.  Anaml y maent yn ei atal.  Felly, y dull gweithredu gorau o lawer fyddai cynyddu cwarantîn effeithiol i leihau ac arafu ymlediad pathogenau newydd i wlad neu ranbarth, ond anaml y mae hyn i'w weld yn gweithio.  Gall sborau llawer o bathogenau, megis y rhai sy'n achosi i goed ynn wywo ar hyn o bryd, gael eu chwythu ymhell gan y gwynt.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020

PhD Gwyddor Chwaraeon a ariannwyd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn ennill gwobr gan Gymdeithas Seicolegol Prydain am y PhD orau yn y DU

Mae project PhD gan Leonie Webster wedi cael y wobr am y Traethawd PhD Gorau yn 2019 gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Hefyd, mae ei hymchwil arloesol eisoes wedi cael dylanwad uniongyrchol ar hyfforddi hyfforddwyr proffesiynol yn y DU a'i wella.

Mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi meithrin perthynas effeithiol iawn gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ers dros ddegawd. Mae'r Bwrdd Criced wedi'i leoli yn Loughborough ond pan fyddant eisiau cymorth gyda datblygu talent a materion yn ymwneud â seicoleg, maent yn gofyn i Brifysgol Bangor am gymorth.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020