Gwybodaeth newydd yn ei gwneud yn haws ‘meddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol’ wrth gadw riffiau cwrel

Mae riffiai cwrel yn sensitif i newid hinsawdd.: Llun gan Jeffrey MaynardMae riffiai cwrel yn sensitif i newid hinsawdd.: Llun gan Jeffrey Maynard

Mae riffiau cwrel yn adnoddau hanfodol, yn fan bwydo i bysgod ac yn amddiffynfa naturiol i warchod arfordiroedd bregus. Ond, maent yn cyflawni sawl gwasanaeth ecosystem hanfodol arall yn ogystal.

Ond maent o dan fygythiad cynyddol oddi wrth ‘gannu’- lle mae’r algae symbiotig sydd yn byw o fewn y cwrel yn gadael oherwydd cynnydd yn nhymheredd y môr, gan amddifadu’r cwrel o ynni  ffotosynthetig a gwanhau hyfywdra'r holl rîff cwrel yn ei dro.

Mae gwybodaeth newydd sydd ar gael ar lefel leol, sydd yn rhagweld pa riffiau cwrel fydd y cyntaf i ddioddef o ganlyniad i gynnydd a ragwelir yng nghyfartaledd tymheredd y dŵr, a pha rai a fydd yn cael cyfle pellach, bellach ar gael ac wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Scientific Reports. Mae’r data yn cynnwys holl riffiau cwrel y byd ar raddfa bob 4 cilomedr a gellir eu defnyddio i benderfynu lle i ganolbwyntio ymdrechion cadwriaethol er mwyn sicrhau’r amgylcheddau hanfodol yma sydd dan fygythiad.

“Bydd rhagweld pa bryd a lle bydd cannu blynyddol yn digwydd o gymorth i wneuthurwyr polisi a chadwraethwyr bennu pa riffiau i roi blaenoriaeth iddynt,” meddai arweinydd yr astudiaeth, Dr van Hooidonk o NOAA a Phrifysgol Miami. “Bydd y riffiau sydd yn dioddef cannu blynyddol yn nes ymlaen yn cael  blaenoriaeth gan fod ganddynt fwy o amser i arfer efo cynhesu’r moroedd. Mae’r project yn dangos i ni lle mae’n dal yn bosibl ymateb cyn ei bod yn rhy hwyr.”

“Mae’r rhagfynegiadau yn drysor i’r rhai sydd yn brwydro i warchod un o ecosystemau mwyaf  godidog a phwysig y byd rhag effeithiau andwyol newid hinsawdd,” meddai Erik Solheim, pennaeth Amgylchedd yr UN. “Maent yn caniatáu i gadwraethwyr a llywodraethau flaenoriaethu amddiffyn riffiau a fydd  ag  amser i ymaddasu i’n moroedd sy’n cynhesu, Mae’r rhagfynegiadau yn dangos lle mae gennym amser o hyd i weithredu cyn ei bod yn rhy hwyr.”

Riffiau Cwrel yw’r ecosystemau morol mwyaf bioamrywiol yn y byd. : Llun gan Jerker TamelanderRiffiau Cwrel yw’r ecosystemau morol mwyaf bioamrywiol yn y byd. : Llun gan Jerker TamelanderOnd sut mae gwarchod riffiau cwrel yn wyneb ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth? Gall gweithgareddau lleol fel cyfyngu ar bysgota, cyfyngu ar y llygreddau o wrtaith sy’n llifo oddi ar y tir i’r môr, a lleihau’r ymyrraeth neu ddifrod  a ddaw o ganlyniad i dwristiaeth gyfrannu at iechyd a gwytnwch rîff.

Fodd bynnag, “mae ein strategaeth o warchod riffiau sydd o dan fygythiad oherwydd yr hinsawdd yn un beryglus’,  esbonia Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor; “mae’n rhaid i ni daclo allyriadau byd-eang ar fyrder, ac ar raddfa ryngwladol, os ydym am gadw riffiau cwrel ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Os gostyngir allyriadau tu hwnt i’r addewidion a wnaed gan wledydd dan Gytundeb Paris, bydd gan riffiau cwrel 11 mlynedd arall, ar gyfartaledd, i ymdopi â moroedd sy’n cynhesu cyn iddynt ddioddef cannu blynyddol. Os yw’r gostyngiadau yn cael eu gwireddu, bydd gan nifer o riffiau lledred isel ac uchel yn Awstralia, De’r Cefnfor Tawel, India, y Triongl Cwrel a Rhanbarth Riff Fflorida hyd at 25 o flynyddoedd cyn profi cannu blynyddol, gan brynu amser ar gyfer ymdrechion cadwraethol. Fodd bynnag, bydd riffiau sy’n nes at y cyhydedd yn profi cannu blynyddol llawer ynghynt, hyd yn oed os gwireddir addewidion allyriadau.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd y rhagfynegiadau hyn o ddifri ac ein bod fan leiaf yn cyrraedd targedau Cytundeb Paris. Bydd hyn yn rhoi amser i riffiau cwrel a chaniatáu i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ac addasu i’r presennol,” meddai Mr Solheim.

Mae’r grŵp ymchwil sy’n cynnwys ac yn cael ei arwain gan Brifysgol Miami ac Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, bellach yn datblygu rhaglen i rannu’r wybodaeth hanfodol hon gyda’r cadwraethwyr ac asiantaethau eraill sydd â chyfrifoldeb dros  riffiau pwysicaf y byd,  fel bod y wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn cynlluniau gweithredu ar gyfer cwrel.

Cannu cwrel ar y Great Barrier Reef: llun gan Paul MarshallCannu cwrel ar y Great Barrier Reef: llun gan Paul Marshall

Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017