Newyddion Ymchwil: Ebrill 2011

Ail-greu Organ ‘Ganoloesol’ i gwblhau Eglwys Ganoloesol

Mae offeryn cerdd unigryw i’w ddadorchuddio yn Amgueddfa  Werin Cymru Sain Ffagan ar 8-9 Ebrill. Mae’r organ addurnedig, sydd â sain wahanol iawn i’r organ eglwys fodern, yn ail-greu’r organ ganoloesol sydd, erbyn hyn, wedi’i cholli. Bydd yn ail-greu sain ddilys cerddoriaeth eglwysig yr oesoedd canol, ac yn cwblhau’r tu fewn i Eglwys Ganoloesol Teilo Sant yn Sain Ffagan.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2011