Newyddion Ymchwil: Tachwedd 2012

Sain a delweddau’n mynegi profiad o ddyslecsia

Mae darn o farddoniaeth gan fachgen 12 oed, sy’n disgrifio’i deimladau a’i rwystredigaethau wrth ymdopi â dyslecsia, wedi ysbrydoli gwaith cerdd a fideo newydd gan gyfansoddwr electroacwstig, yr Athro Andrew Lewis o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.

Ysgrifennwyd y darn gan Tom Barbor-Might pan oedd yn blentyn, wrth dderbyn cefnogaeth gan Ganolfan Dyslecsia Miles, ym Mhrifysgol Bangor. Roedd barddoniaeth Tom wedi ei osod ar hysbysfwrdd yn y Ganolfan am sawl blwyddyn.

Mae Tom bellach yn gynhyrchydd rhaglenni dogfen teledu. Nid yw Tom wedi clywed y darn sy’n seiliedig ar ei eiriau eto. Bydd yn mynychu ail berfformiad y darn, Lexicon, yn BEAST at 30 yn Birmingham nos Sadwrn, 1 Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012

Gall mannau anodd eu pysgota ar wely’r môr fod yn llochesau ar gyfer y gath fôr sydd mewn perygl

Mae gwyddonwyr môr sy’n gweithio yn y Môr Celtaidd wedi darganfod lloches naturiol ar gyfer y forgath drwynfain, sydd mewn perygl enbyd.  Mae llawer o elasmobranciaid (siarcod a chathod môr) yn agored iawn i niwed gan orbysgota, ond dengys papur newydd yn y cylchgrawn mynediad agored PLOS ONE y gall ardaloedd bach ar wely’r môr lle ceir llai o bysgota na’r cyffredin gynnal poblogaethau mwy o’r rhywogaethau hyn.  

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012

Trwy ddulliau chwyldro…? Cynhadledd yn cloriannu pum degawd o ymgyrchu iaith.

Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon (16-17 Tachwedd) bydd cynhadledd academaidd bwysig yn cael ei chynnal ym Mangor. Bwriad y gynhadledd 'Trwy ddulliau chwyldro...?' fydd taro golwg feirniadol ar ddylanwad yr ymgyrchu a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Fe'i trefnir ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac fe’i cefnogir yn ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012

Prifysgol Bangor yn cyfrannu at dechnoleg ‘Adeiladau fel Pwerdai’

Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn cyfrannu at broject ymchwil a allai sicrhau bod Cymru’n rhoi arweiniad byd-eang ym maes technoleg ynni adnewyddadwy. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012

Cynyddu gallu Band eang dwy fil o weithiau – am yr un pris

Allech chi ddefnyddio gwasanaeth band eang sydd dwy fil o weithiau yn gyflymach, ond yn costio’r un faint?  Mae technoleg chwyldroadol gadarn ar gyfer y dyfodol, a gynigiwyd gyntaf gan Brifysgol Bangor, yn arwain o ran cwrdd â’r galw am gynyddu cyflymder a gallu’r rhyngrwyd yn sylweddol. 

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012

Mwyafrif o blaid marw â chymorth

Mae ymchwil rhyngwladol newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl a atebodd gwestiynau am hunanladdiad â chymorth o blaid hynny. Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r adolygiad ymchwil diweddar sy’n awgrymu bod meddygon  y DU yn  gyson yn gwrthwynebu ewthanasia.

Casglwyd y canlyniadau o farn dros 62,000 o bobl a oedd yn ymateb i nifer fawr o bapurau ymchwil ar y pwnc o wahanol wledydd. Mae’r canlyniadau’n dangos am y tro cyntaf bod  gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau safbwynt tebyg iawn am y pwnc.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012