Newyddion Ymchwil: Ionawr 2014

Poblogaeth Morlo Eliffant ddiflanedig yn datgelu "peiriant amser" esblygiadol.

Gall amrywiaeth enynnol o fewn poblogaethau sydd ar wahân ddatblygu'n eithaf cyflym mewn cyd-destun esblygiadol, yn ôl canfyddiadau papur a gyhoeddwyd yn nhrafodion y Gymdeithas Frenhinol B (sydd ar gael ar-lein 29.1.14).

 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2014

Mae astudiaeth newydd wedi arwain at alw am ailedrych ar astudiaethau blaenorol o wahaniaethau rhwng ymennyddiau pobl ag ASD a'r boblogaeth yn gyffredinol.

Er mwyn deall yn well achosion sylfaenol anhwylderau sbectrwm awtistaidd (ASD), mae seicolegwyr wedi defnyddio dulliau sganio ymennydd i gymharu adeiledd ymenyddiau pobl ag ASD a'r boblogaeth yn gyffredinol....  

Mae'r ymchwil ddiweddaraf, dan arweiniad Dr Kami Koldewynwedi datgelu sut mae symud y pen yn ystod y broses sganio'n gallu effeithio ar y canlyniadau....

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014

Peirianneg ym Mangor yn ennill £500k i gynnal project CLARET

Mae cyfleuster newydd unigryw wedi agor ym Mhrifysgol Bangor.   Bydd y Ganolfan, y cyntaf o'i bath yng Nghymru, yn galluogi busnesau i brofi ystod eang o offer electronig plastig, offer yn ymwneud â gofod a chelloedd solar.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2014

Deunyddiau Adeiladu Gwyrdd i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru

Yn ddiweddar daeth dros 50 o gynadleddwyr i seminar ym Mhrifysgol Bangor a oedd yn canolbwyntio ar helpu busnesau Cymreig i weithio gyda deunyddiau adeiladu arloesol sy'n arbed ynni, a'u cynhyrchu hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2014