Newyddion Ymchwil: Chwefror 2016

Mwd gludiog a gweddillion biolegol yn allwedd i ddarogan erydiad arfordirol

Mae gwyddonwyr wedi cymryd cam enfawr tuag at ddatblygu ffordd fwy dibynadwy o ddarogan sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar amgylcheddau aberoedd ac arfordiroedd.

Gan weithio fel rhan o broject cydweithredol, a arweinir gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, i asesu sut mae deunyddiau mân fel mwd a thywod yn cael eu symud o amgylch ein harfordir gan geryntau dŵr, a sut y gall y symudiadau hyn newid o ganlyniad i newid hinsawdd, mae'r Athro Dan Parsons, o Brifysgol Hull, wedi nodi elfennau allweddol sydd ar goll ar hyn o bryd o'r modelau sy'n helpu gwyddonwyr a pheirianwyr benderfynu sut y bydd arfordiroedd ac aberoedd yn cael eu siapio yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2016

Arwain y ffordd i gyflwyno Presgripsiynau dwyieithog

Mae gwasanaeth Gymraeg neu ddwyieithog yn hanfodol ar gyfer lles cleifion Cymraeg eu hiaith yn ôl ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Argymhelliad sydd wedi cael sêl bendith Prif Swyddog Fferyllol Cymru yw bod rhoi labeli dwyieithog ar feddyginiaethau presgripsiwn ar gael i gleifion.

Mae tîm sy’n cynnwys arbenigwyr iaith a fferyllwyr ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd y camau cyntaf drwy gyfieithu 30 canllaw rhybuddiol sydd yn cael eu rhoi i gleifion sydd ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016

Dewis ysgolhaig o Fangor i gynrychioli Cymru ar gorff cynrychioliadol Gwyddorau Biomeddygol y DU

Mae Mr Merfyn Williams, cyfarwyddwr y cwrs gradd BSc Gwyddoniaeth Fiomeddygol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol wedi cael yr anrhydedd o gael gwahoddiad i ymuno â Phwyllgor Gweithredu Penaethiaid Canolfannau Prifysgol Gwyddorau Biomeddygol (HUCBMS).

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016

Lansio Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor

Ddydd Iau, 25 Chwefror 2016, mae Prifysgol Bangor yn lansio'r Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol newydd.

Gan adeiladu ar sylfaen gadarn o ragoriaeth ymchwil bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) yn hwyluso ymchwil fwy rhyngddisgyblaethol sy'n pontio darganfyddiadau yn y labordy ymlaen i ymchwil sy'n datrys problemau iechyd cymhleth yn y byd go iawn.  Yn y ffordd hon bydd BIMHR yn cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol yn ogystal a chael effaith ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016

British power stations are burning wood from US forests – to meet renewables targets

Dyma erthygl yn Saesneg gan David Styles o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2016

Esboniad ar y paradocs niwed alcohol

 Mae ymchwil newydd gan broject cydweithredol sy’n cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Liverpool John Moores ac Alcohol Research UK yn esbonio pam mae pobl mewn cymunedau difreintiedig yn dioddef lefelau uwch o salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol na phobl mewn cymunedau nad ydynt yn ddifreintiedig, er eu bod yn yfed yr un faint o alcohol – y paradocs alcohol niwed. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016

Gwerddonau’r cefnforoedd: Sut y mae ynysoedd yn cynnal mwy o fywyd môr

Mae theori sydd wedi bodoli ers 60 o flynyddoedd ac sydd yn esbonio pam fo moroedd sy’n amgylchu ynysodd ac atolau yn cynnal mwy o fywyd gwyllt newydd ei brofi gan fiolegydd morol o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad efo aelod o Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol yr Unol Daleithiau.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2016

Cyflwyno cyfres drama foes gyfoes ar BBC Radio 3

Bydd Sue Niebrzydowski, Uwch Ddarlithydd mewn llenyddiaeth ganoloesol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor i’w chlywed yn cyflwyno cyfres o bum drama foes gyfoes ar BBC Radio 3 yr wythnos hon (15-19 Chwefror, 2016). Mae’r pum drama, sy’n ymdrin â chymedroldeb, eiddigedd, balchder, llid a chyfiawnder wedi eu hysbrydoli gan ddramâu moes y canoloesoedd ac yn archwilio cymaint y mae agweddau cyfoes tuag at bechod a rhinwedd wedi newid.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2016

Wonky veg and ugly fruit are making a comeback – here's why

Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot,  ymchwilydd doethuriaethol mewn Seicoleg Ymddigiaeth a Phositif o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2016

Galw am arbenigedd Seicoleg Chwaraeon Bangor ym Malaysia

Mae'r Athro Nicky Callow wedi cael ei gwahodd i Brifysgol Malaya (UM) yn Kuala Lumpur fel rhan o'u cynllun cadair wadd lle mae academyddion o bob rhan o'r byd yn cyflwyno gweithdai a seminarau yn y brifysgol. Mae UM ar frig y rhestr o brifysgolion ym Malaysia ac yn ôl rhestr QS o brifysgolion y byd mae yn y 150 uchaf (safle 29 yn Asia).

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016

Cymru’n mabwysiadu rhaglen o’r Ffindir i guro bwlio

Mae Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglen gwrth-fwlio mewn ysgolion i’w helpu i ymdrin ag achosion o fwlio ac i leihau nifer yr achosion. Prifysgol Bangor yw’r unig ganolfan yn y Deyrnas Unedig sydd â thrwydded i wneud hyn.

Cafodd y rhaglen wrth-fwlio, KiVa, ei datblygu a’i gwerthuso yn y Ffindir a chafodd gefnogaeth ariannol helaeth gan y llywodraeth yno. Profwyd bod y rhaglen yn lleihau nifer yr achosion o fwlio mewn ysgolion yno - ac mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu ei bod yr un mor effeithiol mewn ysgolion yng Nghymru hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2016