Newyddion Ymchwil: Ionawr 2018

Prosiect i roi llais i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ganser y llwnc

Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais i barhau i gyfathrebu drwy eu mamiaith wedi derbyn ymweliad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018

We opened up all our data on coral reefs – more scientists should do the same to protect habitats

Dyma erthygl yn Saesneg gan Adele Heenan o’r Ysgol Gwyddorau Eigion  ac Ivor D Williams o'r National Oceanographic and Atmospheric Administration yr UDA sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2018

Astudiaeth yn datgelu bod gwyntyll môr a rhywogaethau eraill yn cymryd amser hir i ddod dros darfu arnynt

Mae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn darogan y gall gwyntyll môr pinc, cwrelau Ross a chwistrellau môr gwyn gymryd hyd at 20 mlynedd i ddod atynt eu hunain ar ôl i dreillio am gregyn bylchog gael ei atal ar ran o wely'r môr.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2018

Cymhwyso GRADE-CERQual i ganfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol - Cyfres newydd o bapurau

Mae cyfres o bapurau a gyhoeddwyd yn Implementation Science yr wythnos hon yn rhoi canllawiau ar sut i gymhwyso'r dull GRADE-CERQual. Mae CERQual yn helpu i asesu faint o hyder y dylid ei roi yng nghanfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018

Tystiolaeth newydd o newid hinsawdd yng ngogledd ddwyrain Affrica yn cefnogi dyddiad cynnar ymwasgariad cyntaf bodau dynol allan o’r cyfandir

Mae tarddiad gwreiddiol bodau dynol, homo sapiens, a'i ymfudiadau dilynol, yn ffynhonnell gyson o drafod ymysg ymchwilwyr y maes.

Y consensws a sefydlwyd eisoes yw ein bod wedi tarddu o gyfandir Affrica, nepell o Ddyffryn Hollt Dwyrain Affrica, ac yna wedi ymfudo o’r cyfandir o ddeutu 70,000 o flynyddoedd yn ôl. 

Ond mae llu o ymchwilwyr yn cynnig yn wahanol; gydag ambell i dystiolaeth enetigol yn cynnig dyddiad llawer yn gynharach – sef tua 120,000 i 130,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ond o fewn y maes, nid oes fawr o dystiolaeth uniongyrchol o’r hinsawdd yn y rhan yma o’r byd dros y cyfnodau hyn; ond mae cydnabyddiaeth eang fod hinsawdd yn effeithio ar batrymau ymfudo bodau dynol.

Mae ymchwil newydd wedi cael ei gyhoeddi yn Scientific Reports sydd a’i nod o ddatrys y diffyg gwybodaeth hinsoddol yma.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018

Mae datblygiadau diweddar mewn deall gallu cwrel i wrthsefyll tymheredd yn wyneb y môr yn elfen hanfodol o ymdrechion byd-eang i ddiogelu riffiau cwrel.

Mae adolygiad o’r llenyddiaeth yn pwyntio tuag at bwysigrwydd lleihau allyriadau carbon deuocsid byd-eang, yn ogystal â gwarchod neu gynyddu dulliau gwrthsefyll yn wyneb achosion cynyddol o effeithiau newid hinsawdd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018

Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen

Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2018

Hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE i Brifysgol Bangor

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw [18.01.18] y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE.

Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn  golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol.

Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg o salwch meddwl, ond gall cymorth cymunedol gynnig diogelwch

Mae pobl sydd wedi dioddef cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod (ACEs) fel byw gyda thrais domestig yn ystod eu plentyndod yn wynebu risg uwch o lawer o salwch meddwl drwy gydol eu hoes.

Cafodd canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol newydd ledled Cymru fod oedolion a oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o ACE bron 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o gymharu â'r rhai nad oedd wedi cael unrhyw brofiadau ACE.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018

Trafod cydweithio rhwng Prifysgol a’r diwydiannau creadigol

Bydd unigolion sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ledled Gogledd Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr ar gyfer Tu Hwnt i’r Ffiniau, sy’n weithdy newydd ar gyfer y ddwy garfan.

Bydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn rhwng y darlithwyr, yr ymchwilwyr ac aelodau Gogledd Creadigol, yn gyfle i’r Ysgol gydweithio’n agosach gyda chwmnïau ac ymarferwyr yn y meysydd creadigol, ac i drafod cyfleoedd i gyd-weithio yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

You are more likely to deny the truth in your second language

Dyma erthygl yn Saesneg gan Manon Jones O'r Ysgol Seicoleg a Ceri Ellis o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018

Is fishing with electricity less destructive than digging up the seabed with beam trawlers?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Michel Kaiser o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2018

2018 must be the year that we reimagine judicial diversity

Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2018

Gwyddonwyr yn galw am weithredu i fynd i'r afael â bygythiad rhywogaeth coed ymledol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang

n ôl ymchwil newydd ar y cyd rhwng Landcare Research yn Seland Newydd, Prifysgolion Caergrawnt a Denver, a Phrifysgol Bangor, mae coeden ymwthiol sy'n frodorol i Awstralia yn awr yn achosi bygythiad difrifol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang.

Plannwyd y rhywogaeth hon, Pittosporum undulatum, a elwir yn oren ffug yn lleol, mewn gardd fotaneg yn y Blue Mountains yn Jamaica yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Fel mae'r enw lleol yn ei awgrymu, mae gan y goeden hon, sy'n tyfu'n gyflym a chyda dail sgleiniog, ffrwyth oren llachar yn cynnwys llawer o hadau bychain wedi'u gorchuddio â haen ludiog siwgwraidd.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2018