Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)

Newyddion Ymchwil: Chwefror 2020

Clefydau coed mewn coedwigoedd: mae atal yn well na gwella

Mae afiechydon newydd ar goed yn ymledu i goetiroedd ym Mhrydain ar raddfa gynyddol gan achosi mwy o ddifrod i gynhyrchu coed yn gynaliadwy a'r manteision niferus eraill a gawn o'n coedwigoedd.  Mae hyn yn destun pryder arbennig o ystyried ymrwymiad y Llywodraeth i gynnydd'n gyflym faint y coetiroedd a geir ym Mhrydain.   Nid ydym eisiau plannu miliynau o goed ac yna'u gweld yn cael eu difodi gan afiechydon.  

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor, Strathclyde, Caergrawnt, Glasgow a Warwick, yn ogystal â Sefydliad James Hutton, newydd gyhoeddi adolygiad ffurfiol llawn o'r holl dystiolaeth gyhoeddedig o bob cwr o'r byd tymherus ynghylch pa opsiynau ar gyfer rheoli coedwigoedd sydd fwyaf effeithiol yn erbyn afiechydon coed (Frontiers of Forestry & Global Change 3: 7. doi: 10.3389 / ffgc.2020.00007).  Mae hyn wedi dangos y gall mesurau a gymerir ar ôl i bathogen oresgyn coedwig (megis torri coed a heintiwyd neu rai sy'n debygol o gael eu heintio) wneud dim ond arafu lledaeniad yr afiechyd yn y goedwig.  Anaml y maent yn ei atal.  Felly, y dull gweithredu gorau o lawer fyddai cynyddu cwarantîn effeithiol i leihau ac arafu ymlediad pathogenau newydd i wlad neu ranbarth, ond anaml y mae hyn i'w weld yn gweithio.  Gall sborau llawer o bathogenau, megis y rhai sy'n achosi i goed ynn wywo ar hyn o bryd, gael eu chwythu ymhell gan y gwynt.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020

PhD Gwyddor Chwaraeon a ariannwyd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn ennill gwobr gan Gymdeithas Seicolegol Prydain am y PhD orau yn y DU

Mae project PhD gan Leonie Webster wedi cael y wobr am y Traethawd PhD Gorau yn 2019 gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Hefyd, mae ei hymchwil arloesol eisoes wedi cael dylanwad uniongyrchol ar hyfforddi hyfforddwyr proffesiynol yn y DU a'i wella.

Mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi meithrin perthynas effeithiol iawn gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ers dros ddegawd. Mae'r Bwrdd Criced wedi'i leoli yn Loughborough ond pan fyddant eisiau cymorth gyda datblygu talent a materion yn ymwneud â seicoleg, maent yn gofyn i Brifysgol Bangor am gymorth.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020